Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel
cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cyflwyniad gan Ysgol Pentrehafod - Cynllun PACE. Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad i aelodau gan Katie Miller (Cyd-lynydd PACE) a Jennifer Ford (Pennaeth) o Ysgol Gyfun Pentrehafod ar y prosiect PACE sydd ar waith yn yr ysgol. Roedd y cyflwyniad yn dilyn ymweliad safle â'r ysgol gan aelodau ym mis Medi. Rhoddwyd cyflwyniad Powerpoint manwl a llawn gwybodaeth i'r pwyllgor, gan gynnwys gwybodaeth ar y meysydd canlynol: • Hanes cefndir, cyd-destun ac egwyddorion sylfaenol datblygiad a chyflwyniad y cynllun. • Prif uchelgeisiau'r cynllun • Dulliau adnabod a chyfeirio disgyblion • Darpariaethau ymyriad cynnar a pharhaus, olrhain a monitro cyflawniad academaidd a materion lles cymdeithasol yn well • Cyfnod Allweddol 3 - darpariaeth ac adnabod pwyntiau sbardun • Cyfnod Allweddol 4 - darpariaeth a defnydd cadarnhaol o leoliad y tu allan i safle’r ysgol • Blynyddoedd 7/8 - darpariaeth anogaeth a chefnogaeth ychwanegol • Deilliannau cadarnhaol ac effaith y cynllun ar bresenoldeb, cymwysterau, lles cymdeithasol etc. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddogion, ac ymatebwyd yn briodol, yn enwedig yn y meysydd canlynol: • Pwysigrwydd cwricwlwm amgen • Datblygiad sgiliau cymdeithasol pobl ifanc a’u lles cyffredinol • Gwelliant nodedig ym mhresenoldeb y bobl ifanc sy'n rhan o'r cynllun, o oddeutu 60% i dros 90% • Pwysigrwydd adeiladu dyheadau’r disgyblion • Cynnydd mewn cymwysterau academaidd • Holl ddisgyblion CA4 yn derbyn cynnig darpariaeth ôl-16 • Cyfranogaeth pobl ifanc mewn prosiectau cymunedol lleol • Nid oedd y bobl ifanc a oedd ar y cynllun wedi dod yn NEET • Cynigion ar gyfer parhad a datblygiad y cynllun fel rhan o raglen adnewyddu ysgolion ehangach • Gwelliant ysgol "gyfan" oherwydd y cynllun • Gwelwyd y prosiect yn enghraifft o arfer da ac fe’i efelychwyd ar waith mewn ysgolion eraill • Amrywiaeth a chyfansoddiad presennol yr ysgol • Angen i barhau i ddatblygu a chryfhau cysylltiadau ag ysgolion cynradd sy'n bwydo Pentrehafod a rhieni |
|
Gyrfaoedd Cymru - Trafodaeth ar Barodrwydd Pobl Ifainc ar gyfer Swyddi. Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad ar lafar i aelodau gan Wendy Williams
(Rheolwr Ardal Gyrfa Cymru ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a
Phowys) ar gefndir y gwaith a wneir gan y gwasanaeth gyda phobl ifanc ar draws
yr ardal. Cyfeiriodd at y newidiadau ariannu a threfnu sylweddol y
mae'r gwasanaeth wedi ymgymryd â hwy yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nododd y
byddai'n cylchredeg manylion pellach ar y gwasanaeth diwygiedig yn electroneg
yn dilyn y cyfarfod. Dywedodd fod y gwasanaeth bellach yn canolbwyntio ar bobl
ifanc sydd yn y perygl mwyaf o ddod yn ddadrithiedig/NEET. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio data VAP yn ogystal ag Arolwg
Gwirio Gyrfa Blwyddyn 10 fel man cychwyn ar gyfer darparu arweiniad a
chefnogaeth un i un gwell. Gellir darparu'r cyngor a’r gefnogaeth arbenigol hyn
yn bersonol, dros y ffôn neu drwy'r we. Yn gyffredinol mae cynghorwyr gyrfa bellach yn gofalu am
ddwy neu dair ysgol ond maent yn parhau i roi cefnogaeth i ddisgyblion a rhieni
drwy nosweithiau gyrfaoedd/rhieni. Cefnogir hyn gan gynghorwyr Gyrfa neu Fyd
Gwaith. Manylodd y cysylltiadau a oedd gan y gwasanaeth â chyflogwyr
a chyfeiriodd at yr adborth maent yn ei roi o ran sgiliau cyflogadwyedd pobl
ifanc. Amlinellwyd hefyd gyfranogaeth yn y cynllun peilot Dosbarth Busnes y mae
pedair ysgol o Abertawe yn rhan ohono. Mae gan y cynllun ymrwymiad tair
blynedd. Cyfeiriodd at y cynllun ymwybyddiaeth o gyfleoedd i
brentisiaid a'r dysgu seiliedig ar waith maent yn eu hyrwyddo a chyfranogaeth
pobl ifanc sy'n hyrwyddo ac yn esbonio'r cynlluniau i'w cyfoedion fel llwybr
gwahanol i'r coleg neu'r brifysgol. Cyfeiriodd hefyd at y cynllun Cynnydd a ddarperir drwy
gyllid Ewropeaidd ar draws yr ardal, gan roi gwybodaeth amdano hefyd. Amlinellwyd hefyd y rôl mae'r gwasanaeth yn ei chwarae wrth
ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i bobl ifanc Haen 3 sydd wedi gadael yr ysgol
ac sy'n chwilio am waith neu hyfforddiant.
Mae'r gwasanaeth yn eu cefnogi drwy drefnu ymweliadau â chwmnïau lleol,
ffug gyfweliadau a chefnogaeth gyda ffurflenni cais etc. Amlinellwyd hefyd y prosiect newydd a sefydlwyd yn
ddiweddar, sef prosiect 'Taclo' gyda'r pedair ardal ranbarthol rygbi. Trafodwyd y materion a godwyd gan yr aelodau a gofynnwyd cwestiynau amrywiol i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. |