Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

29.

Cofnodion. pdf eicon PDF 61 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2016 yn gofnod cywir.

 

30.

Trafodaeth â Gweithwyr Allgymorth Haen 1.

Cofnodion:

Cafodd y cefndir i'r gwasanaethau a ddarperir gan y Tîm Allgymorth Haen 1 ei amlinellu gan Gavin Evans, Helen Gaht a Michelle Baker i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet.

 

Nodwyd ganddynt mai prif swyddogaeth y tîm yw dod o hyd i bobl ifanc na wyddys amdanynt a'r rhai sydd wedi mynd ar goll o'r system. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth agos â Gyrfa Cymru i gysylltu â phobl ifanc a'u cynnwys gan eu hannog i ddychwelyd i addysg/hyfforddiant/gyflogaeth lle y bo’n briodol.

 

Gwnaethant fanylu ar feysydd gwaith canlynol y tîm:

·       Pa bobl ifanc sydd yn Haen 1

·       Pam mae'n bwysig i ddod o hyd i bobl ifanc a'u cefnogi

·       Dulliau o sut mae staff yn dod o hyd i bobl ifanc ac yn eu cynnwys

·       Mathau cymhleth ac amrywiol iawn o faterion y deuir ar eu traws wrth ddod o hyd i bobl ifanc

·       Yr hyn rydym yn ei wneud i'w cynorthwyo a'u hannog ar ôl dod o hyd iddynt

·       Nifer y bobl ifanc Haen 1 yn Abertawe o'i gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan.

·       Y ffaith nad yw rhai pobl am gael cymorth ac nad ydynt am fod yn y system ar hyn o bryd

·       Rhannu gwybodaeth â Gyrfa Cymru ac awdurdodau lleol yn ôl yr angen

·       Symud rhwng haenau ar ôl dod o hyd i'r bobl ifanc a nodi eu hanghenion

·       Yr effaith ar ffigurau NEET o symudiad Haen 1

·       Y gallu i gasglu a chynnwys pobl ifanc o'r “cyrchfan” a nodir ganddynt ar ôl iddynt adael yr ysgol

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau am y meysydd pwnc uchod ac ymatebodd swyddogion i'r rhain yn eu tro.

 

31.

Tîm Troseddau Ieuenctid.

Cofnodion:

Rhoddodd Richard Henderson a Caroline Dyer drosolwg o waith eu gwasanaeth gyda phobl ifanc, gan gynnwys y meysydd canlynol:

·       Nifer y bobl ifanc sydd ar orchmynion statudol ar hyn o bryd

·       Nifer y disgyblion sydd o oed ysgol ar hyn o bryd sy'n ymwneud â'r TTI

·       Nifer y bobl ifanc sydd yn y ddalfa ar hyn o bryd

·       Gostyngiad dros y deng mlynedd diwethaf yn nifer y bobl ifanc sy'n ymwneud â'r TTI

·       Math a difrifoldeb troseddau pobl ifanc sy'n ymwneud â'r TTI

·       Cydgysylltu parhaus â'r Tîm Allgymorth

·       Gwaith plant sydd mewn gweithgor dalfa

·       Mentrau dedfrydu/addysg/cynllun rhyddhau ar waith

·       Gwasanaethau cefnogi penwythnos ac argaeledd staff cefnogi

·       Argaeledd llety diogel

·       Perthynas a chysylltiadau da â Charchar Parc a'r cynlluniau “meithrin” a “llwybr dysgu” sydd ar waith yno

·       Prosiect meithrin sgiliau

·       Amgylchiadau a heriau teuluol/personol cymhleth iawn gyda'r bobl ifanc sy'n ymwneud â'r TTI

·       Arfer adferol a darparu cymorth i ysgolion lle mae lefelau gwahardd uchel

·       Gwaith da gan y paneli ailsefydlu ac integreiddio

·       Cysylltiadau ag asiantaethau/sefydliadau eraill megis Barnardo’s

·       Cynlluniau mentora a chefnogi

·       Yr angen i gynyddu gwaith ataliol

·       Gwella'r defnydd o amserlenni wedi'u lleihau i ailgynnwys ac ailintegreiddio disgyblion

·       Yr angen i wella'r defnydd o ddata VAP wrth nodi pobl ifanc NEET bosib yn gynharach a darparu mesurau cefnogi penodol

·       Yr angen am gwricwlwm amgen

·       Ymagwedd ACES yn gysylltiedig â nodweddion ymddygiadol

·       Yr angen i wella cysylltiadau ymhellach ag asiantaethau eraill, yr heddlu etc.

 

Bu aelodau Pwyllgor Cynghori'r Cabinet yn trafod y materion uchod yn helaeth, gan ofyn cwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd a rhoddodd atebion/wybodaeth yn eu tro.

 

32.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau'r diweddariadau i raglen waith ddrafft y pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhaglen waith ddiwygiedig.