Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Awst 2016 yn gofnod cywir |
|
Feedback from Visit to Pentrehafod Comprehensive. Cofnodion: Rhoddodd y
Cadeirydd a'r Cynghorydd M Lewis adborth ar yr ymweliad safle a gynhaliwyd â'r ysgol yn gynharach yn y dydd. Gwnaethant
amlinellu a chyfeirio at y cynllun PACE sydd ar waith yn yr ysgol a'r cynnydd
ardderchog sy'n cael ei wneud gyda phobl ifanc a allai
fod mewn perygl o fod yn NEET. Nododd y Cadeirydd,
oherwydd y presenoldeb siomedig yn yr ymweliad, y byddai'n gwahodd swyddogion
perthnasol yr ysgol i gyfarfod y PCC yn y dyfodol er mwyn rhoi cyflwyniad byr
ar y cynllun. |
|
Trafodaeth â Wendy Williams (Gyrfa Cymru) - Parodrwydd Pobl Ifanc i Weithio. Cofnodion: Nododd y Cadeirydd
nad oedd y cynrychiolydd o Gyrfa Cymru Gorllewin - Wendy Williams - yn gallu
dod i'r cyfarfod gan ei bod ar absenoldeb salwch o'r gwaith ar hyn o bryd, ond
mae wedi dweud y bydd ar gael i ddod i gyfarfod arall yn y dyfodol. PENDERFYNWYD gohirio'r eitem tan gyfarfod yn y
dyfodol. |
|
Cynigion ar gyfer Ymgysylltu â Phobl Ifanc ac â Rhieni (Ar lafar). Cofnodion: Amlinellodd Jane
Whitmore ei chyfraniad hi a'i chydweithiwr i'r Cynllun Gwrando a Chyfranogi
gyda Phlant a Phobl Ifanc. Soniodd am y ffyrdd
amrywiol y mae swyddogion yn ymgysylltu â phobl ifanc ar hyn o bryd, gan
gynnwys y Sgwrs Fawr a Fforwm Llais y Disgybl. Cyfeiriodd hefyd at ymarfer
ymgysylltu blaenorol yr ymgymerwyd ag ef gyda disgyblion EOTAS fel enghraifft. Nododd y gallai, ar
y cyd â'i chydweithwyr, ddatblygu cyfres o gwestiynau
a/neu ymarfer ymgysylltu sy'n ymwneud â phynciau y mae gan y PCC ddiddordeb
ynddynt a allai gael eu cynnwys yn un o
ddigwyddiadau'r dyfodol gyda phobl ifanc fel yr amlinellwyd uchod. Gallai cwestiynau
gynnwys materion sy'n ymwneud â'r canlynol: Beth mae
pobl ifanc am ei ddysgu a'i gyflawni? Pa gefnogaeth y mae ei hangen arnoch i
lwyddo? Pa bynciau hoffech eu hastudio? Beth yw eich dyheadau ar gyfer y
dyfodol? Yn dilyn y
digwyddiad, a gaiff ei gynnal yn y flwyddyn newydd mae'n debyg, gellid rhoi
dadansoddiad o'r canlyniadau a'r adborth i gyfarfod y PCC yn y dyfodol. Gallai
aelodau'r PCC fynd i'r sesiwn gyda phobl ifanc pe bai gofyn. Nododd fod un o'r
swyddogion a oedd yn rhan o ddatblygu'r cynllun llwyddiannus ym Mhentrehafod wedi derbyn secondiad i'r adran i ymchwilio
ymhellach i'r potensial ar gyfer rhoi'r arfer da ar waith mewn ysgolion cyfun
eraill. Gallai swyddogion ddefnyddio'r data PABAN perthnasol a nifer y bobl
ifanc NEET mewn ysgolion i dargedu'r gwaith i weithredu'r cynllun mewn ysgolion
y mae ei angen arnynt fwyaf. Cafodd cyfranogaeth
rhieni yn llwyddiant cynllun Pentrehafod ei amlinellu a'i drafod. Byddai'n
rhaid ystyried yn ofalus a ddylid cynnwys rhieni mewn cynlluniau eraill ai
peidio. Cyfeiriodd at
gynlluniau cyfredol tebyg yn ysgolion cyfun Cefn Hengoed a Dylan Thomas. Cyfeiriodd aelodau
eto at y gorbwyslais ar gymwysterau academaidd i bobl
ifanc a nodwyd bod angen hyrwyddo cyflawniadau galwedigaethol/ymarferol i'r un
graddau. Ailategwyd
argaeledd cwricwlwm amgen/priodol i bobl ifanc, yn enwedig pan fyddant yn dewis
eu hopsiynau. Gofynnodd aelodau
i'r Swyddog Llwybrau a benodwyd yn ddiweddar ddod i gyfarfod yn y dyfodol i
amlinellu ei farn a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD ar y canlynol: 1) Dylai swyddogion
adrodd yn ôl i'r PCC yn y flwyddyn newydd ar y cynigion am ymarfer ymgynghori â
phobl ifanc. 2) Yn dilyn yr
ymarfer, dylid cyflwyno adroddiad pellach i'r PCC ar y
dadansoddiad/canlyniadau. |
|
Cofnodion: Trafododd yr aelodau'r diweddariadau i raglen waith ddrafft y pwyllgor. Nodwyd diwygiadau i'r atodlen fel a amlinellwyd yn yr eitem flaenorol ac yn
ystod y drafodaeth. PENDERFYNWYD nodi'r rhaglen waith ddiwygiedig. |