Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 70 KB

To approve and sign as a correct record the minutes of the previous meeting.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir

 

18.

Gyrfa Cymru Gorllewin - Parodrwydd pobl ifanc i weithio

Cofnodion:

Dywedodd Jo-Ann Walsh nad oedd cynrychiolydd Gyrfa Cymru Gorllewin, Wendy Williams, yn gallu dod i'r cyfarfod, ond bydd yn gallu dod i'r cyfarfod ar 14 Medi.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r eitem tan gyfarfod mis Medi.

 

19.

Ffigurau ysgol NEET

Cofnodion:

Rhoddodd Jo-Ann Walsh adroddiad llafar a dosbarthodd gyfres o ystadegau NEET fesul ysgol ac EOTAS ar gyfer y cyfnod 2013-2015.

 

Roedd yr wybodaeth ganlynol hefyd wedi'i chynnwys yn y papur:

·       Olrhain NEET 16 oed

·       NEET fesul ysgol mewn lleoliadau ac 8 mis yn ddiweddarach

·       NEET fesul ysgol - tuedd 3 blynedd

·       NEET cyffredinol fesul statws - tuedd 3 blynedd

·       Grŵp EOTAS fesul statws - tuedd 3 blynedd

·       Llwybrau EOTAS

·       Addysg Cyfnod Allweddol 4

·       Step Ahead

·       Tiwtora gartref

 

Bu'r pwyllgor yn trafod yn fanwl y ffigurau a'r ystadegau amrywiol ac yn gofyn cwestiynau ar y pynciau canlynol, a gwnaeth y swyddog ymateb yn briodol:

·       Sut mae'r ffigurau'n cael eu casglu, cysylltu ag ysgolion, colegau etc.

·       Arolwg cyrchfan a gynhaliwyd ar 31 Hydref

·       Amrywiad rhwng ffigurau pobl ifanc 17 ac 18 oed

·       Cymharu a symud ffigurau mewn ysgolion unigol

·       Ymrwymiad Gyrfa Cymru Gorllewin

·       Ymrwymiad timau allgymorth a gweithwyr arweiniol

·       Cysylltiadau â Careers Plus, Canolfan Byd Gwaith a defnyddio data AGPh

·       Materion o ran pobl ifanc yn 'cwympo drwy'r rhwyd' a ddim yn cael eu holrhain na'u cofnodi

·       Tuedd gyffredinol niferoedd NEET ar i lawr

·       Sut mae pobl ifanc sy'n gadael ysgol/coleg yn cael eu holrhain a chyrsiau ychwanegol/amgen yn cael eu darparu gan golegau er mwyn annog pobl ifanc i aros yn y byd addysg

·       Cefnogaeth ychwanegol a dargedir ar gyfer plant EOTAS

·       Cefndir ac amgylchiadau’r categorïau gwahanol o bobl ifanc a nodir yn y data

·       Datblygu cysylltiadau â'r Adran Tai

·       Rhaglen Symud Ymlaen gan Lywodraeth Cymru

·       Prosiect Cynnydd

·       Cydnabod bod llawer o bobl ifanc am weithio ac nid ydynt am barhau yn y byd addysg

·       Yr angen i gael pobl ifanc i'r byd gwaith gyda chyfleoedd hyfforddi drwy gynlluniau priodol megis rhaglenni prentisiaid.

 

Cwestiynwyd yr ystadegau gan y Cynghorydd Lewis gan nodi un achos penodol o ddau berson ifanc yn ei ward nad oedd wedi cael unrhyw gysylltiad â'r cyrff neu'r asiantaethau amrywiol a nodwyd. Cytunodd y swyddog i gysylltu â'r cynghorydd yn uniongyrchol ac ymchwilio ymhellach i'r achosion unigol.

 

CYTUNWYD i gofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

 

20.

Adborth o ddefnydd ysgolion o ddata PABAN.

Cofnodion:

Rhoddodd Lindsay Harvey yr wybodaeth ddiweddaraf i aelodau yn dilyn ei gyfarfodydd diwedd tymor â phenaethiaid y sector cynradd ac uwchradd.

 

Dywedodd fod ysgolion wedi nodi'r chwe maes allweddol canlynol lle mae data VAP yn hynod ddefnyddiol iddynt:

·       Gosod Targedau

·       Strategaethau Ymyrryd

·       Diogelu

·       Cyswllt Rhieni

·       Partneriaethau Aml-Asiantaeth

·       Cefnogaeth Bontio

 

Amlinellodd hefyd y meysydd canlynol lle'r oedd ysgolion wedi'u nodi'n hynod ddefnyddiol iddynt:

·       Manteision symud pobl ifanc o lefel pump i ddau

·       Gallu olrhain perfformiad am yn ôl

·       Athrawon yn gallu grwpio disgyblion o allu gwahanol mewn ffrydiau dysgu ar wahân

 

Nododd fod y newidiadau canlynol wedi'u hamlinellu gan ysgolion fel y rhai a allai fod yn fuddiol, gan nodi'r newidiadau i Ddata VAP o'r tymor nesaf a fyddai'n cael eu gwneud o ganlyniad i'r awgrymiadau:

·       Mewnbwn a Dangosyddion AAA - byddant bellach yn cael eu ehangu o 2 i 4

·       Mesur Prydau Ysgol am Ddim - bydd yn cael ei ehangu i gynnwys Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

·       Cyflwyno Sesiynau Hyfforddiant Ffurfiol i Ysgolion ar Ddata VAP (gall aelodau'r PCC hefyd fynd os ydynt yn dymuno)

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r adborth gan ysgolion a'r newidiadau i'r Data VAP.

 

21.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 50 KB

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau'r diweddaraf i'r rhaglen waith ddrafft ar gyfer y pwyllgor.

 

Dywedodd Lindsay Harvey y byddai'n dosbarthu gwybodaeth gefndir i aelodau am Ysgol Pentrehafod cyn yr ymweliad ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r rhaglen waith ddiweddaraf