Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
To approve and sign as a correct record the minutes of the previous meeting. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2016 yn gofnod cywir, yn amodol ar ychwanegu, "Amlinellodd yr aelodau bwysigrwydd sicrhau bod cyrsiau sy'n cynnwys sgiliau ymarferol ar gael ac yn cael eu hehangu ac y dylid ystyried y rhain yn gydradd â chymwysterau academaidd," at baragraff olaf Cofnod 8. |
|
Prosiectau Ewropeaidd Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Tîm Cyllid Ewropeaidd ac Allanol gefndir i sail a chylch y cyllid
ar gyfer cynlluniau sy'n derbyn cymorth grant o Ewrop. Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am oblygiadau ariannol posib
y bleidlais i adael Ewrop i gynlluniau a ariennir gan Ewrop, yn enwedig y Prosiect
Cynnydd presennol y mae gan yr Adran Addysg gysylltiad sylweddol ag ef. Bydd y goblygiadau ariannol a'r cyfnod y bydd prosiectau'n para'n dibynnu
ar bryd y bydd y llywodraeth yn rhoi Erthygl 50 ar waith. Y tebygolrwydd yw y
caiff hyd y cynllun ei gwtogi; bydd y cyllid ar gael o hyd, ond am lai o amser. Nododd nodau'r
prosiect, a lunnir i fodloni gofynion Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy leihau
nifer y bobl sy'n mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na
hyfforddiant (NEET) rhwng 11 a 24 oed. Caiff y cynllun ei ddatblygu i helpu i
glustnodi cymorth penodol i bobl ifanc ar sail unigol, yn hytrach nag un
ymagwedd gyffredinol. Gobeithir y bydd y cynllun yn dechrau'n llawn ym mis Medi
2016, ar ôl oediad oherwydd etholiadau diweddar Llywodraeth Cymru a'r
refferendwm ar yr UE. Amlinellodd fod gan
brosiect Cynnydd gyllid o £2.4m sy'n cael ei ddosbarthu ar draws 5 awdurdod
lleol. Hefyd, amlinellodd
ddatblygiad prosiect newydd Cam Nesaf, sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Benfro ac a fydd yn ceisio darparu amrywiaeth o
weithgareddau dysgu a hyfforddi ychwanegol i gynnwys pobl rhwng 16 a 24 oed,
mewn ymdrech i leihau diweithdra ieuenctid a nifer y bobl NEET. Trafododd yr
aelodau'r angen am fesurau monitro a diogelu priodol o ran y gwariant ar brosiect
Cynnydd. Awgrymodd y swyddog y gallai adrodd yn ôl am gynnydd y cynllun mewn
cyfarfod yn y dyfodol. PENDERFYNWYD y dylid nodi'r wybodaeth ddiweddaraf a chyflwyno adroddiad monitro i PCC yn y flwyddyn newydd. |
|
Materion cyfreithiol - EOTAS Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cefnogi Dysgwyr yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y
materion cyfreithiol a'r arweiniad sy'n gysylltiedig â darpariaeth EOTAS yr
awdurdod. Rhoddodd
amlinelliad cryno o'r ddarpariaeth EOTAS bresennol i bobl ifanc rhwng 4 oed ac
16 oed yn y cyfleusterau amrywiol ar draws Abertawe. Cyfeiriodd at
ddogfen arweiniol Llywodraeth Cymru –
203/2016 "Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion", sy'n ymdrin ag
amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys rôl yr awdurdod lleol, rôl ysgolion,
darpariaeth anghenion arbennig, gwahardd disgyblion, salwch disgyblion, tiwtora gartref, polisi disgyblion o leiafrifoedd ethnig,
amddiffyn plant a systemau atal. Awgrymodd y byddai
dolen electronig i ddogfen gyfan Llywodraeth Cymru'n cael ei hanfon at yr
aelodau ar ôl y cyfarfod a byddai'n hapus i ddod i gyfarfod PCC eto petai angen
mwy o wybodaeth neu’r wybodaeth ddiweddaraf ar yr aelodau. CYTUNWYD i gofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |
|
Data PABAN Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth yr Uned Systemau Rheoli'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau
am ddata PABAN. Amlinellodd y
cefndir i sefydlu'r data ac awgrymodd y dylid sgorio disgyblion ar 14 maen
prawf gwahanol, sy'n arwain at sgôr gwyrdd, oren neu goch. Aeth ati i nodi a dosbarthu'r ymatebion a gafwyd gan benaethiaid ar ddefnyddio'r
data, ar ôl arolwg diweddar. Aeth ati hefyd i
amlinellu a dosbarthu'r prif welliannau arfaethedig ar gyfer fersiwn o PABAN
sydd wedi'i diwygio a'i diweddaru ar gyfer 2017. Trafodwyd y prif
newidiadau a’r diwygiadau arfaethedig i gyd gan yr aelodau, gan gynnwys y
meysydd canlynol: ·
Cofnodi
pedwar angen (un ar hyn o bryd) ar gyfer disgyblion AAA ·
Cynnwys
canlyniadau profion cenedlaethol Cymru ·
Cynnwys
defnydd o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ·
Datblygu
meini prawf ymyriad ychwanegol newydd sy'n cael eu treialu mewn nifer bach o
ysgolion uwchradd ar hyn o bryd. Byddai'r rhain yn cael eu defnyddio ar y cyd â'r sgôr PABAN er mwyn nodi anghenion ymyriad yn well ·
Hyfforddiant
mwy ffurfiol ar gyfer ysgolion. Mynegodd yr aelodau
eu siom o ran amharodrwydd ysgolion i ymateb i'r arolygon ar ddefnyddio data
PABAN a'r amharodrwydd canfyddedig i rannu arfer da a
syniadau, er mwyn amddiffyn eu cyflawniadau unigol eu hunain. Amlinellwyd hefyd y
modd y defnyddir y data gan ymarferwyr proffesiynol yn yr adran, yn ogystal â
chywirdeb a mesurau monitro/adolygu'r data gan yr uned. Cyfeiriodd at y
mater a godwyd yn y cyfarfod blaenorol, sef y data PABAN coll ar gyfer
disgyblion Coleg Gŵyr, nododd y rhesymau dros hynny, gan sicrhau'r aelodau
fod y mater wedi'i ddatrys. Amlinellodd hefyd y
cysylltiadau rhwng Addysg a'r Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau y llunnir
cofnod mor gyflawn â phosib ar gyfer pob disgybl. Byddai gwelliannau
technolegol eraill yn cynorthwyo'r broses hon yn y dyfodol. PENDERFYNWYD y dylid nodi'r wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd. |
|
Cynllun Gwaith. Cofnodion: Trafododd yr aelodau rhaglen waith ddrafft y pwyllgor. PENDERFYNWYD y dylid
nodi'r rhaglen waith, yn amodol ar ychwanegu'r canlynol: ·
Trefnu
ymweliad â safle Ysgol Pentrehafod yn ystod y tymor
ysgol newydd. ·
Ychwanegu
adborth ar gynnydd prosiect Cynnydd yn y flwyddyn newydd. · Gwahodd swyddogion o'r Tîm Troseddau Ieuenctid i gyfarfod yn y dyfodol. |