Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni chyhoeddwyd unrhyw
fuddion. |
|
To approve and sign as a correct record the minutes of the
previous meetings. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar
6 Ebrill ac 19 Mai 1916 yn gofnod cywir. |
|
Adborth a'r defnydd o ddata VAP. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Lindsay
Harvey, Prif Swyddog Addysg, ddiweddariad llafar i'r pwyllgor am ddefnydd
ysgolion o ddata. Nododd y bu ymateb
ysgolion i'r holiadur a ddosbarthwyd ar ran y pwyllgor yn gynharach yn y flwyddyn
yn isel, yn anffodus. Amlinellodd y rhesymau tebygol dros hyn ond nododd y
byddai'n codi'r mater eto wrth gwrdd ag ysgolion ym mis Gorffennaf ac yn rhoi
adborth i'r pwyllgor. Nododd fod y data
PABAN yn cynorthwyo wrth gyflwyno strategaeth ymyrryd cyn gynted â phosib, ac
mae'r defnydd o'r data ac ymyrryd yn gynnar yn ffactorau allweddol wrth gyfyngu
ar NEETS a'u lleihau. Mae'r data PABAN wedi cael ei ddefnyddio ers 2010 yn
Abertawe. Roedd Estyn wedi
cefnogi ei ddefnydd ar ôl arolygu'r awdurdod yn 2013, ac roedd wedi cymeradwyo
Ysgol Gynradd yr Hafod yn ddiweddar am ei defnydd o'r data ar ôl arolygiad yn
yr ysgol. Nid yw'r defnydd o
ddata PABAN yn orfodol i ysgolion ond caiff ei annog yn daer a'i ddefnyddio'n
eang i sicrhau bod systemau olrhain disgyblion priodol yn eu lle. Gall y
defnydd cywir o'r data deilwra darpariaeth a galluogi rhoi strategaethau yn eu
lle fel y gellir rhagweld “lleoliadau” plant unigol yn fwy cywir. Mae hefyd yn
galluogi monitro plant yn fwy cywir dros y tymor hwy. Nododd fod ysgolion
uwchradd yn defnyddio data PABAN i gynorthwyo gyda throsglwyddiad disgyblion
o'r ysgol gynradd. Manylodd ar y math
o ddata a gwybodaeth a geir yn y data PABAN. Nododd y caiff data
PABAN ei anfon i golegau addysg eraill i gynorthwyo gyda throsglwyddiad
disgyblion o addysg uwchradd, ond nid yw'n glir sut mae'r colegau'n defnyddio'r
data hwn. Nododd y byddai'n gwirio a gaiff data ei gyflwyno wedyn gan yr
awdurdod neu'n uniongyrchol gan yr ysgolion. Amlinellwyd a
thrafodwyd y materion a'r rhesymau ynglŷn â pham nad yw pobl ifanc, yn
enwedig y rhai o gefndir EOTAS, yn dilyn neu'n gadael cyrsiau yn y coleg.
Tynnwyd sylw at y problemau a'r amgylchiadau personol/cymdeithasol/teuluol
anodd iawn sydd gan lawer o blant yn y system EOTAS, yn ogystal â'r anhawster
wrth ailgyflwyno plant i addysg brif ffrwd ar ôl iddynt gyrraedd oedran
penodol. Cyfeiriodd at y
goblygiadau a'r newidiadau a ddaw yn sgîl adolygiad Donaldson, yn benodol y
posibilrwydd o symud o'r cwricwlwm anhyblyg presennol i gwricwlwm mwy galwedigaethol/amgen,
a allai gynorthwyo a gwasanaethu rhai disgyblion yn fwy effeithiol. Gan nodi'r
ddarpariaeth chweched dosbarth a choleg bresennol, bu'r aelodau'n cefnogi'r
angen am gwricwlwm galwedigaethol/amgen ychwanegol er mwyn cynnwys ac annog
plant sy'n llai llwyddiannus yn academaidd. Roeddent hefyd yn cefnogi rhannu
arfer da a syniadau rhwng ysgolion. CYTUNWYD y dylid nodi'r diweddariad a dylai'r Prif
Swyddog Addysg adrodd yn ôl am y data PABAN ar ôl cwrdd ag ysgolion ym mis
Gorffennaf. |
|
Trafodaeth ag Ymgynghorydd Llythrennedd. Cofnodion: Rhoddodd Sharon
Jones, Arbenigwr Perfformiad Llythrennedd, a Lindsay Harvey amlinelliad i'r
pwyllgor o bwysigrwydd allweddol a hanfodol sgiliau llythrennedd a'u
cysylltiadau â rhifedd a sgiliau bywyd cyffredinol. Nododd fod yr
awdurdod, ynghyd â'i awdurdodau partner yn ERW, yn gweithio gydag athrawon ac
ysgolion i gefnogi a gwella llythrennedd plant. Manylodd ar y
strategaethau penodol sy'n ymwneud â'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a'r
tu hwnt, a nododd yr angen i gefnogi athrawon er mwyn cynyddu disgwyliadau
plant ac archwilio potensial gwahanol pob plentyn. Cyfeiriodd at
enghreifftiau o arfer da gyda'r awdurdod a nododd bod y rhain yn cael eu rhannu
rhwng ysgolion ac ar draws awdurdodau lleol. Cyfeiriodd at y “dewis
o gefnogaeth” sydd yn ei le ar gyfer yr ysgolion, a'r strategaethau a'r
cynlluniau amrywiol ar gyfer bechgyn yn benodol i'w cynnwys a'u hannog i
ddarllen, megis cynllun darllen yr Uwch-gynghrair. Nododd y rhoddir
cefnogaeth gyffredinol i bob ysgol, ond bod ysgolion penodol yn cael cymorth
ychwanegol ar ôl arolygiadau neu ganlyniadau Estyn. Caiff yr ysgolion eu
monitro am y lefel o addysgu effeithiol mewn ystafelloedd dosbarth ac ansawdd
ac amrywiaeth y llyfrau a ddarperir. Nododd fod y gwasanaeth yn siarad yn
uniongyrchol â phlant a bod arolwg wedi cael ei gynnal i geisio'u barn. Amlinellwyd yr
hyfforddiant a roddwyd gan y gwasanaeth i athrawon sydd, yn eu tro, yn
hyfforddi athrawon eraill dan y model Ysgol i Ysgol. CYTUNWYD i gofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf. |