Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Gohirio Rheol 12 Gweithdrefn y Cyngor "Cadeirydd Cyfarfodydd" er mwyn caniatáu i'r Aelod Llywyddol lywyddu dros eitemau'r agenda sy'n dilyn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid gohirio Rheol Gweithdrefn 12 er mwyn caniatáu i Gadeirydd y Cyngor lywyddu dros y cyfarfod.

 

(LLYWYDDODD Y CYNGHORYDD D. W. W. THOMAS)

 

2.

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd D. W. W. Thomas yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016-2017.

 

(LLYWYDDODD Y CYNGHORYDD D. W. W. THOMAS)

 

3.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid ethol y Cynghorydd R. V. Smith yn Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016-2017.

 

4.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

5.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.