Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2016 yn gofnod cywir. |
|
Trafodaeth gyda Caryn Morgan (Cydlynydd NEET), Coleg G?yr Abertawe. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Caryn Morgan (Cydlynydd
NEET) o Goleg Gŵyr Abertawe i'r cyfarfod ac amlinellodd ddau bwnc yr oedd
y PCC yn eu hadolygu, sef NEET ac addasrwydd pobl ifanc i gyflogaeth pan
fyddant yn gadael yr ysgol. Rhoddodd Caryn
Morgan, Cydlynydd NEET Coleg Gŵyr Abertawe, drosolwg o'i gyrfa 22 o
flynyddoedd yng Ngholeg Gŵyr gan fanylu ar ei rôl bresennol. Nododd fod pobl
ifanc yn gadael yr ysgol ac yn cofrestru ar sawl cwrs gwahanol heb unrhyw
syniad beth maent am ei wneud yn y dyfodol. Roedd y prif resymau pam mae pobl
ifanc yn gadael eu cyrsiau o ganlyniad i ddewis y cwrs anghywir a diffyg
cefnogaeth/arweiniad rhiant. Roedd y
rhesymau eraill yn rhai cymdeithasol a oedd yn cynnwys digartrefedd,
camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl, dyletswyddau gofalu,
problemau ariannol a derbyn gofal.
Nodwyd nad oes gan y rhesymau dros adael cyrsiau unrhyw beth i'w wneud â'r hyn y mae ysgolion yn ei wneud/nad ydynt yn ei wneud
ond mai'r materion 'allanol' niferus hyn, fel y nodwyd, sy'n gyfrifol gan
arwain at bobl ifanc NEET. Amlinellodd ei rôl
fel un o'r 5 Swyddog Cefnogi Myfyrwyr (SCM) sy'n cysylltu'n uniongyrchol â
phobl ifanc a nodir fel rhai risg uchel.
Mae'r SCM yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y coleg ac mewn
sefydliadau allanol, gan gynnwys Gyrfa Cymru.
Eu rôl yw monitro presenoldeb, ymddygiad a chyflawniad pobl ifanc. Manylodd ar y
broses a ddefnyddir i nodi pobl ifanc fel rhai risg uchel a manteision data VAP
(a dderbynnir fel arfer erbyn diwedd mis Ebrill gan gwmpasu ystod oedran 11 i
16 oed) ar gyfer yr holl bobl ifanc yn ysgolion Abertawe sy'n gwneud cais i'r
coleg. Mae'r coleg ond yn derbyn yr
wybodaeth VAP ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd wedi gwneud cais ar yr adeg pan
gyhoeddir y VAP. Am ryw reswm, nid yw'r coleg yn cael y data VAP ar gyfer
unrhyw ddisgyblion mewn ysgolion 11-18 oed. Rhoddodd fanylion y
cyrsiau peilot a gyflwynwyd y llynedd yn benodol ar gyfer dysgwyr ifanc oedd
wedi gadael eu cyrsiau. Roedd y rhain yn
cynnwys rhaglen ragflas hyblyg a oedd yn cyflwyno pobl ifanc i arlwyo, busnes,
celf, TG, rhifedd, llythrennedd a pharatoi pobl ifanc ar gyfer
cyfweliadau. Nodwyd bod 13 o ddysgwyr
wedi dechrau'r rhaglen yn hanner tymor yr hydref, cwblhaodd 9 ohonynt y
cymhwyster llawn ac roedd 3 wedi symud i ddarparwyr eraill. Roedd y coleg wedi bod yn llwyddiannus wrth
gadw'r bobl ifanc hyn yn y coleg ac, o ganlyniad i'w lwyddiant, estynnwyd y
peilot i eleni hefyd. Nodwyd bod
presenoldeb yn broblem fawr. Caiff
llythyrau ynghylch diffyg presenoldeb eu hanfon at y rhieni/gofalwyr fel arfer
a chysylltir ag unrhyw asiantaeth allanol sy'n cefnogi'r person ifanc
hefyd. Roedd materion
allweddol a oedd yn codi o'r cyflwyniad yn cynnwys: ·
Nid
oedd unrhyw ysgol unigol yn berchen ar yr wybodaeth VAP ac roedd yn amlwg fod
angen ymdrin â'r wybodaeth ag ymagwedd 'Abertawe
gyfan'; ·
Nid
yw data VAP ar gael ar gyfer y rheiny sy'n cyflwyno ceisiadau hwyr i'r coleg; ·
Mae
cefnogaeth bob amser ar gael i bobl ifanc wneud cais am gyrsiau rhagflas er ni
chyhoeddir y cyrsiau hyn yn y prosbectws. Targedir dysgwyr penodol gan
ddefnyddio data a ddarperir gan Gyrfa Cymru neu o rai sydd wedi tynnu'n ôl o'r
coleg; ·
Nodwyd
y cyfnod rhwng mis Mai a mis Medi fel cyfnod lle gallai pobl ifanc ddatblygu
arferion gwael. Fodd bynnag, gallai
cyflwyno rhaglenni rhagflas a rennir yn 3 thymor deg
wythnos fod yn fanteisiol; ·
Mae
angen canolbwyntio ar gryfderau a gwendidau pobl ifanc a darparu cefnogaeth
unigol wedi'i theilwra; ·
Mae
presenoldeb yn allweddol i lwyddiant; ·
Y prif
bryder yw nifer y bobl ifanc sydd â sgiliau llythrennedd gwael ac mae angen
mynd i'r afael â'r broblem hon ar frys; ·
Mae
angen rhoi sylw i gyngor gyrfaoedd mewn ysgolion. Dim ond y disgyblion risg
uchel hynny y gall ymgynghorwyr gyrfaoedd eu targedu sy'n gadael llawer o
ddisgyblion heb gyngor sy'n gallu effeithio ar eu dewisiadau Ôl-16; ·
Nid
oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer cyrsiau rhagflas; ·
Cynhelir
ymweliadau pontio â'r coleg drwy'r
flwyddyn academaidd ac roeddent yn fuddiol ar gyfer chwalu'r rhwystrau i bobl
ifanc, y mae'r syniad o fynd i'r coleg yn codi ofn arnynt; ·
Mae'r
coleg wedi datblygu cysylltiadau gwych ag ysgolion lleol a darpariaeth EOTAS yn
Abertawe. ·
Cynhelir
opsiynau Ôl-16 i garfanau o ddisgyblion Blwyddyn 11, a Blwyddyn 10 weithiau, mewn
ysgolion ac ym Mrondeg, Canolfan Addysg Camu Ymlaen; ·
Ni
hysbysebir y cyrsiau rhagflas ym mhrosbectws y coleg. Mae'r coleg yn cynnal
Dyddiau Rhagflas i bob ysgol leol gymryd rhan ynddynt. Ni hysbysebir y rhaglen bontio yn y
prosbectws oherwydd ei bod hi'n debyg y byddai'n denu
mwy o fyfyrwyr y mae'n bosib y byddant yn fwy addas i gyrsiau eraill ac y
byddant yn gweld y cwrs hwn fel dewis hawdd; ·
Mae
gwybodaeth am y rhaglen bontio wedi cael ei dosbarthu i'r holl ysgolion ac
ymgynghorwyr gyrfaoedd â'r nod o dargedu'r disgyblion
hynny nad ydynt wedi penderfynu ar opsiynau Ôl-16; ·
Darperir
cyfarpar gan y coleg i bobl ifanc sydd am gymryd rhan mewn cyrsiau rhagflas; ·
Mae
rhai pobl ifanc yn derbyn talebau cinio dyddiol a chânt eu hannog i fynd ar
wibdeithiau a drefnir; ·
Mae
gan ysgolion cynradd lawer iawn o wybodaeth a allai
fod yn ddefnyddiol; ·
Mae
angen edrych ar arfer gorau mewn perthynas â threfniadau pontio o'r cynradd i'r
uwchradd ac o'r uwchradd i addysg bellach; ·
Byddai'n
fuddiol archwilio'r sefydliadau addysgol eraill ar draws Abertawe (e.e. Pathways) ar gyfer arfer gorau a chysondeb. Diolchodd y
Cadeirydd i Caryn Morgan am ei chyflwyniad addysgiadol. PENDERFYNWYD: 1.
Y
dylid nodi'r adroddiad; 2.
Y
dylai Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi Dysgu ymchwilio i'r broses sydd gan
ysgolion i glustnodi sgorau VAP a throsglwyddo'r wybodaeth hon i golegau; 3.
Y
dylai'r Cadeirydd drefnu ymweliad â Pathways o fewn y
pythefnos nesaf. |