Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

42.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

43.

Cofnodion. pdf eicon PDF 66 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

44.

Oceana (llafar).

Huw Mowbray

Cofnodion:

Cyflwynodd Huw Mowbray, Rheolwr Datblygu Eiddo, y diweddaraf ar lafar am y broses caffael a dymchwel mewn perthynas â safle Oceana. Dywedodd nad oedd yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau technegol, a byddai angen i arbenigwyr unigol roi atebion i'r rhain.

 

Rhoddodd amlinelliad o'r cefndir mewn perthynas ag Adolygiad Fframwaith Strategol Canol y Ddinas o ran y ddwy ganolfan adfywio allweddol, gydag un ohonynt yn cynnwys creu Ardal Fusnes Ganolog/Canolfan Gyflogaeth ar Ffordd y Brenin. Ym mis Ionawr 2015, cymeradwyodd y cabinet egwyddor o ddatblygu rhaglen caffael eiddo strategol ar Ffordd y Brenin er mwyn cefnogi cyflwyno canolfan gyflogaeth, ac un o'r rhain oedd hen adeilad Oceana.

 

Aeth ymlaen i roi manylion y gwaith prynu a dymchwel, ynghyd â gwybodaeth am y cwnni a gomisiynwyd i gynnal yr arolwg adnewyddu llawn/arolwg dymchwel ac asbestos cyn cam olaf y prif gontract dymchwel.

 

Amlinellwyd manylion yr asbestos ychwanegol y daethpwyd o hyd iddo a chostau ychwanegol yn ogystal â'r wybodaeth am yr awdurdod yn ceisio adennill y costau ychwanegol a gafwyd.

 

Gofynnodd yr aelodau amryw o gwestiynau ac ymatebodd y swyddog yn briodol.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1.       Nodi'r diweddariad;

2.       Ffurfio Grŵp Tasg a Gorffen;

3.       Gwahodd swyddogion technegol i gyfarfodydd yn y dyfodol;

4.       Darparu'r dogfennau canlynol:

Ø  Adroddiadau asbestos (Allanol a DASA);

Ø  Adroddiad archwilio am y prosiect;

Ø  FPR7;

Ø  Arolwg Iechyd a Diogelwch;

Ø  Adroddiadau Cabinet Perthnasol;

5.       Ceisio cyngor cyfreithiol mewn perthynas â sesiynau cyhoeddus/caeedig ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

45.

Polisi Coed. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Alan Webster, Cynorthwy-ydd Tirlunio (Tyfwr Coed) yn bresennol i gyflwyno trosolwg o'i rôl mewn perthynas â'r Gorchmynion Cadw Coed (GCC).

 

Amlinellodd y 3 phrif reswm dros gael GCC ar goed sydd ar ein tir:

 

1.       Roeddem wedi prynu tir lle roedd GCC eisoes ar goed ar y tir hwnnw;

2.       Roeddem wedi mabwysiadu'r tir e.e. mewn datblygiad newydd ac efallai byddai gofyniad i ddiogelu coed ar y tir hwnnw yn ystod gwaith adeiladu, cyn ei fabwysiadu;

3.       Lle rydym yn gwneud hyn yn fwriadol er mwyn diogelu coed penodol.

 

Dywedodd fod arweiniad o ran cyflwyno cais i wneud gwaith ar goeden a warchodir gan GCC ar gael ar ein gwefan drwy'r ddolen ganlynol: http://www.abertawe.gov.uk/gcc.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau amrywiol i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol.

 

Byddai Martin Bignell yn dod i'r cyfarfod nesaf er mwyn symud gwaith ar y Polisi Coed yn ei flaen.

 

PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

46.

Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar).

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd am y canlynol:

 

1.       Byddai'r Strategaeth Mannau Agored yn cael ei hadrodd i gyfarfod Briffio Corfforaethol ym mis Ionawr 2017.

2.       Bydd angen trefnu cyfarfod ar y cyd rhwng aelodau Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau a Phwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu er mwyn trafod strategaeth ynni. 

47.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2016-17.

 

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2016-2017.