Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 21 Medi 2016 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr Gwasanaethau Coed yr wybodaeth ddiweddaraf, a
chanolbwyntiodd ar y canlynol: ·
"Nodau"
Polisi Coed (Stoc Coed y Cyngor). Byddai
hyn yn dilyn y "cyflwyniad" a gafodd ei
drafod yn y cyfarfod diwethaf; ·
Ffigurau
o arolygon a gynhaliwyd a gwybodaeth amdanynt mewn cysylltiad â nifer yr: ·
Adrannau
gyda choed ar eu tir; ·
Adrannau
eraill sy'n ymdrin â choed a phroblemau coetir; ·
Is-adran
5(2) - 5(5) y "Ddogfen Ddrafft".
Dylid nodi y byddai'r testun a amlygwyd yn y ddogfen yn cael ei
gadarnhau maes o law. Gofynnodd y Cynghorwyr gwestiynau amrywiol i'r swyddog, a ymatebodd yn
briodol. Bydd Alan Webster, Cynorthwy-ydd Tirlunio (Tyfwr
Coed) o'r Is-adran Cynllunio Strategol ac Amgylchedd Naturiol yn y cyfarfod
nesaf hefyd.
PENDERFYNWYD: 1) Cymeradwyo'r is-adran "Nodau"; 2) Cadarnhau'r testun a amlygwyd ym mhwyntiau 5(2) – 5(5); 3) Y dylai'r pwyllgor ganolbwyntio ar y Ddogfen Ddrafft o bwynt
5(6) Malu Bonion yn y cyfarfod nesaf; 4) Y dylai'r swyddog ddarparu enghreifftiau o'r cwynion amrywiol a dderbyniwyd mewn perthynas â choed a sut yr ymdrinnir â nhw yn y cyfarfod nesaf. |
|
Arweiniad ar gyfer Gwaith ar y Briffordd a Mabwysiadu Isadeiledd Newydd. PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwnaeth Arweinydd Grŵp, Tîm Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd
adrodd am y ddogfen, Arweiniad ar gyfer Gwaith ar y Briffordd a Mabwysiadu
Isadeiledd Newydd, a fyddai'n rhoi gwybodaeth i ddatblygwyr am agweddau ar y
briffordd yn yr arweiniad ar gyfer gwneud cais cyn-gynllunio a byddai'n
cyflwyno graddfa symudol o ffïoedd ar gyfer
cytundebau mabwysiadu priffyrdd. Amlinellodd wybodaeth gefndir am pam y lluniwyd y ddogfen arweiniol er mwyn
cynorthwyo datblygwyr i gydymffurfio â'r Ddeddf
Priffyrdd, fel rhan o gynllunio a chyflawni'r datblygiadau. Trafododd y pwyllgor nifer presennol y safleoedd sydd heb eu mabwysiadu yn
Abertawe a arweiniodd at rai preswylwyr lleol yn gorfod talu ffi cynnal a chadw
flynyddol neu, mewn rhai achosion, gael eu strydoedd a goleuadau cyhoeddus
wedi'u cynnal a'u cadw i safon annerbyniol gydag ymyriadau afreolaidd gan y
datblygwr. Aeth ymlaen i esbonio'r problemau hanesyddol a gafwyd gyda'r datblygwyr. O
ganlyniad i hyn, ni chafodd sawl safle eu cynnig i'w mabwysiadu. Gobeithiwyd y byddai'r ddogfen arweiniol, a
esboniodd sut byddai symiau cynnal a chadw gostyngol a chyflwyno graddfa
symudol o ffïoedd sy'n ofynnol yn ôl Adran 38, yn
cynyddu nifer y safleoedd sy'n cael eu cynnig i'w mabwysiadu ac yn arwain at
incwm ffïoedd cynyddol ar gyfer yr awdurdod. Roedd
trafodaethau cychwynnol gyda datblygwyr wedi croesawu argymell yr ymagwedd. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Nodi'r adroddiad a'r ddogfen arweiniol a'u cyfeirio i Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant; 2) Cyhoeddi enwau safleoedd heb eu mabwysiadu mewn fforwm priodol.
|
|
Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar). Cofnodion: Adroddodd y Cadeirydd y byddai Lisa Wells, o ganlyniad i salwch, yn mynd i'r cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer 16 Tachwedd 2016 mewn perthynas â Marchnad Abertawe a throi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr. Gwnaeth hefyd awgrymu y dylid cynnal ymweliad safle i weld y cynllun a manteision y stryd sydd wedi'i phedestreiddio yng Nghaerdydd. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2016-17. PENDERFYNWYD y dylid nodi'r Cynllun Gwaith. |