Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 17 Awst 2016 fel cofnod cywir. |
|
Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr Canol y Ddinas yr wybodaeth ddiweddaraf er mwyn galluogi'r
pwyllgor i ystyried ei ymagwedd at ddarparu toiledau cyhoeddus ym Marchnad
Abertawe. Roedd yr adroddiad yn dilyn cyflwyniad ac adroddiad llafar a ddarparwyd ar
16 Mawrth 2016 a'r cyfarfod safle a gynhaliwyd ar ôl hynny ar 18 Ebrill 2018. Aeth ati i dynnu sylw at y ffaith bod oddeutu 90,000 o bobl yn dod i'r
farchnad bob wythnos, yn ôl data ymwelwyr. Dros y misoedd diwethaf, mae
marchnadoedd ar draws y DU yn adrodd bod llai o bobl yn ymweld â hwy ac
adlewyrchir hyn yn y data ar gyfer Abertawe; fodd bynnag, roedd y farchnad
newydd ennill y wobr am roi'r "Profiad Gorau i Ymwelwyr" yng Ngwobrau
Swansea Life. Soniodd am y toiledau presennol yng nghanol y ddinas a'r opsiynau o ran addasu
unedau penodol yn y farchnad, a welwyd gan aelodau yn ystod yr ymweliad â'r
safle. Fodd bynnag, y farn oedd nad oedd yr un o'r opsiynau'n cynnig ateb
ymarferol. Felly, argymhellwyd diystyru'r opsiynau hyn a cheisio datblygu
toiledau fel rhan o uwchgynllun ehangach mewn cysylltiad â Strategaeth
Adfywio'r Farchnad. PENDERFYNWYD: 1) Diystyru opsiynau rhagarweiniol i osod toiledau yn y farchnad
yn y tymor byr; 2) Darparu'r ystadegau o ran data ymwelwyr ar draws y DU ar gyfer
y cyfarfod nesaf; 3) Diweddaru'r wybodaeth ar wefan y cyngor am y toiledau sydd ar
gael yng nghanol y ddinas ac ar draws Abertawe; 4) Cyflwyno a thrafod yr uwchgynllun yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Cynghori'r Cabinet. |
|
Neilltuo Stryd y Gwynt i gerddwyr (llafar). Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Canol y Ddinas ddiweddariad llafar i'r pwyllgor fel a
ganlyn: Esboniodd fod Rhanbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe eisoes wedi
ymgynghori'n anffurfiol â'i aelodau ar droi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr a
bu'r canlyniadau yn gefnogol o'r cynllun yn gyffredinol. Ar ôl hynny, gofynnwyd i Reolwr Canol y Ddinas gynorthwyo wrth gysylltu â'r
gymuned fusnes i geisio ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig. Felly, cafodd arolwg ei greu a'i ddosbarthu â llaw gan geidwaid canol y
ddinas i 213 eiddo (dosbarthwyd 284, ond roedd 71 wedi'u dyblygu neu aethant i
eiddo a oedd yn wag), a oedd yn cynnwys eiddo busnes a phreswyl yn yr ardal.
Pennwyd 5 Medi 2016 fel y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno holiaduron wedi'u
cwblhau; fodd bynnag, oherwydd cyfradd ddychwelyd wael, cafwyd estyniad tan 16
Medi 2016 i alluogi'r ceidwaid i ddychwelyd i sawl busnes/eiddo er mwyn ceisio
ymatebion. Daeth cyfanswm o 50 (23%) holiadur wedi'i gwblhau i law, 41 gan fusnesau a
9 gan breswylwyr. Gan fod y dyddiad cau wedi'i ymestyn, nid oedd yr ymatebion
wedi'u dadansoddi'n llawn eto. Fodd bynnag, roedd y cwestiwn "A ydych yn
cefnogi'r egwyddor o droi Stryd y Gwynt yn barth cerddwyr?" wedi'i
archwilio'n fras. Roedd 66% wedi ymateb 'Ydw', roedd 20% wedi dweud "Nac
ydw", "Wn i ddim" oedd ateb 10%, ac nid atebodd 4% y cwestiwn.
O'r ymatebion, roedd 68.2% o fusnesau'n cefnogi'r cynnig ac roedd mwy o
breswylwyr yn cefnogi'r cynllun yn hytrach na'i wrthod. PENDERFYNWYD: 1) Nodi'r diweddariad llafar; 2) Cyflwyno dadansoddiad llawn o'r canlyniadau yn y cyfarfod nesaf. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Coed y
polisi coed o safbwynt Parciau. Roedd y cyflwyniad yn amlinellu'r
canlynol: 1. Beth
yw polisi coed? 2. Beth
yw nodau polisi coed? 3. Pwyntiau
i'w cynnwys mewn polisi o fewn cylch gwaith yr Uned Gwasanaethau Coed. Byddai angen ar bolisi coed fewnbwn a
chytundeb yr holl adrannau y mae coed a choetiroedd ar eu tir yn ogystal ag
adrannau eraill sy'n gyfrifol am goed, coetiroedd, yr amgylchedd a phlannu
coed, er mwyn cael un polisi sy'n dod â'r holl
wybodaeth ynghyd. Byddai angen i'r polisi fod yn gyfyngol hefyd er mwyn diogelu
ein coed, yn ogystal â rhoi gwybod i'r cyhoedd am yr hyn y gellid ei wneud a'r
hyn na ellid ei wneud o ran coed. Pwysleisiodd fod trefn archwilio
reolaidd ar waith a byddai manylion ohoni'n cael eu
cynnwys yn y polisi. Cadarnhaodd ei fod hefyd yn cydgysylltu â'r Cynorthwy-ydd Tirlunio (Tyfwr
Coed) yn yr Adran Gynllunio o ran yr argymhellion a wnaed gan y Gweithgor
Craffu Cadw Coed. Diolchodd y cadeirydd i'r swyddog am
ddarparu'r cyflwyniad diwygiedig i'r polisi. PENDERFYNWYD: 1) Y bydd y
cyfarfod nesaf yn canolbwyntio'n fwy manwl ar nodau'r polisi ac ymhelaethu
arnynt; 2) Cyflwyno
rhestr o'r adrannau y mae coed ar eu tir ar gyfer y cyfarfod nesaf. |
|
Adolygiad O Dipio Anghyfreithlon. PDF 50 KB Cofnodion: Darparwyd rhestr o
ffigurau ceisiadau gwasanaeth misol ar gyfer y pwyllgor gan Swyddog Adrannol
Rheoli Gwastraff ac Arweinydd Tîm Gorfodi, Tipio'n
Anghyfreithlon a Sbwriel. PENDERFYNWYD: 1) Y
dylid nodi'r ystadegau; 2) Y bydd y Cadeirydd yn adrodd yn ôl i Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant. |
|
Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau i adrodd amdanynt. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith ar gyfer 2016-17. PENDERFYNWYD: 1) Nodi'r Cynllun Gwaith; 2) Ychwanegu'r polisi coed, Marchnad Abertawe a throi Stryd y Gwynt
yn barth cerddwyr at agenda'r cyfarfod nesaf, a drefnir ar gyfer 19 Hydref
2016. 3) Y bydd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn cydgysylltu â'r swyddog perthnasol o ran ystadau tai sy'n cynnwys strydoedd heb eu mabwysiadu i'w cynnwys mewn cyfarfod yn y dyfodol. |