Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 60 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2016 fel cofnod cywir.

 

18.

Adolygiad O Dipio Anghyfreithlon. pdf eicon PDF 126 KB

Ian Whettleton / Fran Williams

Cofnodion:

Rhoddodd Ian Whettleton, Rheolwr Adrannol Rheoli Gwastraff a Fran Williams, Arweinydd Tîm Gorfodi, Tipio Anghyfreithlon a Sbwriel yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor ynghylch yr adolygiad o dipio anghyfreithlon.

 

Trafododd y pwyllgor y camau gweithredu ffurfiol amrywiol y gellid eu dilyn yn ogystal â materion deddfwriaethol a'r weithdrefn ar gyfer mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ar dir preifat. 

 

PENDERFYNWYD darparu'r wybodaeth ganlynol ar gyfer y cyfarfod nesaf:

 

1)       Rhestr o nifer yr achosion a dderbyniwyd a sawl erlyniad a gafwyd;

2)       Sampl o 5-6 achos gwahanol yn amlinellu sut yr ymdriniwyd â hwy.

19.

Polisi Coed. pdf eicon PDF 89 KB

Martin Bignell

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Martin Bignall, Rheolwr Uned Gwasanaethau Coed y Polisi Gweithredol presennol ar gyfer Rheoli Coed yn y Gwasanaeth Parciau.

 

Esboniodd nad oedd gan yr awdurdod Bolisi Coed ffurfiol ar hyn o bryd; fodd bynnag, lluniwyd y Polisi Gweithredol presennol gan swyddogion. 

 

Cynhaliwyd Gweithgor Craffu Cadw Coed a chyflwynwyd 9 argymhelliad.  Un o'r argymhellion oedd datblygu Polisi Coed ar gyfer y cyngor cyfan a byddai'r pwyllgor hwn bellach yn ei oruchwylio.  Nododd y swyddog y byddai Polisi Coed ffurfiol yn gofyn am gytundeb amrywiaeth o adrannau gwahanol, megis Cynllunio a Chefn Gwlad.

 

Eglurodd mai ein prif amcan fel perchnogion coed yw bod ein coed yn cael eu harchwilio'n rheolaidd a'u bod mor ddiogel ag sy'n ymarferol bosib.  Amlinellodd fanylion y drefn archwilio a bu'r aelodau'n trafod y meini prawf ar gyfer tocio coed.

 

Nododd y swyddog mai'r bwriad fyddai symud tuag at wasanaeth mwy rhagweithiol yn hytrach nag adweithiol fel sydd ar hyn o bryd.  Byddai polisi coed ffurfiol o fudd gan y byddai ar gael yn gyhoeddus ac yn amlinellu'r hyn y byddai'r awdurdod yn ei wneud a'r hyn na fyddai'n ei wneud (fel yr amlinellir yn adran 6, 7 ac 8 y ddogfen bresennol).

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei adroddiad ac am esbonio'r broses.

 

PENDERFYNWYD y byddai Rheolwr yr Uned Gwasanaethau Coed yn darparu'r wybodaeth ganlynol ar gyfer y cyfarfod a drefnir ar gyfer 21 Medi 2016:

 

1)       Llunio cyflwyniad ffurfiol i'r strategaeth;

2)       Rhestr o goed gyda Gorchmynion Cadw Coed (GCC) ar dir y cyngor;

3)       Y fethodoleg a ddefnyddir i osod GCC ar goed a gaiff ei chynnwys yn y Polisi Coed.

 

20.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 48 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid nodi'r cynllun gwaith yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

1)       Tynnu'r Cynllun Prawf Bag Ailgylchu Pinc o'r cynllun gwaith;

2)       Ail ymweliad â Threforys i'w gynnal rhywbryd rhwng y 2 gyfarfod nesaf sydd wedi'u trefnu ar gyfer 17 Awst 2016 ac 21 Medi 2016.