Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

6.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P B Smith a C Thomas.

7.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd buddiannau.

8.

Cofnodion. pdf eicon PDF 65 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod cofnodion Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2016, Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad Arbennig a gynhaliwyd ar 11 Mai 2016 a Phwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad a gynhaliwyd ar 19 Mai 2016 yn cael eu cymeradwyo a'u llofnodi fel cofnod cywir. 

9.

Neilltuo Stryd y Gwynt i gerddwyr. pdf eicon PDF 96 KB

Stuart Davies / Mark Thomas

Cofnodion:

Rhoddodd Mark Thomas, Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Priffyrdd a Thraffig y diweddaraf ar ddulliau i wneud Stryd y Gwynt yn ardal i gerddwyr.

 

Gofynnodd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad yn ei gyfarfod ar 20 Ebrill 2016 fod swyddogion yn bresennol i gytuno ar gwmpas yr adroddiad, a fyddai'n canolbwyntio ar sut i wneud Stryd y Gwynt yn ardal i gerddwyr, yr effaith o ganlyniad i hynny ar rwydwaith y priffyrdd, trefniadau mynediad a rhoi enghreifftiau o strydoedd llwyddiannus i gerddwyr mewn dinasoedd eraill.

 

 

Trafododd y pwyllgor yr ystyriaethau amrywiol a chytuno mai'r ffordd fwyaf priodol i symud ymlaen â'r cynllun oedd defnyddio ymagwedd fesul cam gan ddefnyddio Gorchymyn Traffig Arbrofol am gyfnod prawf hyd at 18 mis, gan ymgynghori â phartïon â diddordeb, ac yn yr amser hwnnw cesglir sylwadau ac awgrymiadau, eu cofnodi ac yna eu hystyried, cyn cwblhau'r cynllun yn ffurfiol (selio) gyda'r trefniad yn dod yn un parhaol.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

10.

Polisi Tipio'n Anghyfreithlon. pdf eicon PDF 102 KB

Ian Whettleton / Frances Williams

Cofnodion:

Adroddodd Ian Whettleton, Swyddog Adrannol Rheoli Gwastraff a Fran Williams, Arweinydd y Tîm Gorfodi, Tipio Anghyfreithlon a Sbwriel ar y polisi a’r gweithdrefnau presennol o ran tipio anghyfreithlon yn Ninas a Sir Abertawe.

 

Nodwyd ganddynt y blaenoriaethau ar gyfer gwastraff ac ailgylchu yng Nghynllun Gwella'r cyngor, a’r diffiniad ac esboniwyd y gweithdrefnau presennol ar gyfer ymdrin â thipio anghyfreithlon.  Cafwyd trafodaeth ynghylch y mentrau amrywiol yr ymgymerwyd â nhw.

 

Diolchodd y pwyllgor i'r swyddogion am esboniad llawn gwybodaeth am y polisi presennol.

 

PENDERFYNWYD y dylai Polisi Tipio Anghyfreithlon drafft gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu ar 20 Gorffennaf 2016.

 

11.

Rheoli Gwastraff - Siop Ailgylchu. pdf eicon PDF 65 KB

Keith Coxon

Cofnodion:

Daeth Keith Coxon, Swyddog Prosiectau a Pherfformiad Rheoli Gwastraff i’r cyfarfod i roi'r diweddaraf i'r pwyllgor ar y trefniadau ariannol o ran incwm a gwariant y Siop Ailddefnyddio yn y Safle Byrnu.

 

Roedd y cyfleuster yn y broses o gael ei ymestyn, a fyddai'n galluogi'r awdurdod i ystyried nifer o fentrau newydd i hybu incwm, derbyn mwy o nwyddau a hyd a lled manteision cymunedol y cyfleuster.

 

Yn ogystal, byddai'r Cabinet yn ystyried yr adolygiad comisiynu: Rheoli Gwastraff yn ei gyfarfod ar 16 Mehefin 2016.

 

PENDERFYNWYD y dylid rhoi cyflwyniad ar y Siop Ailddefnyddio i Bwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygiad ar 19 Hydref 2016.

12.

Cynllun Gwaith 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ar y canlynol:

 

1)     Dylai'r Pwyllgor Arbennig ar 6 Gorffennaf 2016 am 10am ganolbwyntio ar y Strategaeth Mannau Agored;

 

2)     Dylai’r pwyllgor ar 20 Gorffennaf 2016 dderbyn yr eitemau canlynol:

 

        a.         Polisi Tipio Anghyfreithlon Drafft;

        b.         Polisi Coed.

 

3)     Dylai’r eitemau canlynol gael eu hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol:

 

        a.         Adborth ar ymweliadau â Chanolfannau Siopa Ardal (ail-ymweliad â'r

                     Mwmbwls);

        b.         Ystadau Tai sy'n cynnwys strydoedd (preifat) heb eu mabwysiadu;

        c.          Safleoedd Amwynderau Dinesig (Rheoli Gwastraff)

        ch.        Y diweddaraf am y Siop Ailddefnyddio (Hydref 2016).