Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  (01792) 636923

Eitemau
Rhif Eitem

69.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D W Cole, C Thomas ac Andrew McTaggart.

70.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni chyhoeddwyd unrhyw fuddion.

 

71.

Strategaeth Mannau Agored. pdf eicon PDF 525 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd fersiwn ddrafft diweddaraf y Strategaeth Mannau Agored ar gyfer Abertawe gan Ian Beynon, Rheolwr Datblygu ac Allgymorth.

 

Cefnogwyd cynnwys y strategaeth ddrafft yn llawn gan y pwyllgor; fodd bynnag, canolbwyntiodd y trafodaethau ynglŷn â chryfhau'r strategaeth ar y pynciau canlynol:

 

·                 A ddylid cynnwys rhandiroedd, mynwentydd, mannau agored dinesig eraill / traethau o fewn y ddarpariaeth bresennol neu beidio. Cytunwyd y dylid cynnwys rhandiroedd oherwydd y ddyletswydd i ddarparu nifer digonol o randiroedd, ac y dylid hyrwyddo mynwentydd fel lleoedd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau megis cerdded lle nad oedd darpariaeth arall ar gael.

 

·                 Ni chynhwyswyd parciau/caeau chwarae ysgolion arfaethedig.  Nodwyd nad oedd nifer o ardaloedd chwarae yn hygyrch ar hyn o bryd.

 

·                 Ystyried goblygiadau cynnwys y defnydd o iardiau chwarae ysgolion er mwyn cynyddu hygyrchedd i breswylwyr lleol ac annog mwy o ddefnydd.

 

·                 Darparwyd y Safonau Mannau Agored yn seiliedig ar yr Asesiad Mannau Agored, fodd bynnag nodwyd efallai y byddai angen rhai newidiadau ar yr adran hon.

 

·                 Cytunwyd y byddai'r strategaeth yn pennu gweledigaeth hyd at 2025 gan gysylltu â'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

·                 Byddai angen cynnwys Asesiad Effaith Cydraddoldeb hefyd er mwyn adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc a hyrwyddo manteision Lles / Byw'n Iach, etc.

 

·                 Ystyriwyd a ddylid cyfeirio at feini prawf Ceisiadau Meysydd Pentref o fewn y Strategaeth neu'r cynllun gweithredu. Cytunwyd y byddai cyfeiriad at hwn yn y cynllun gweithredu.

 

·                 Dylid cyfeirio at y cynllun gweithredu yn y ddogfen strategaeth.

 

CYTUNWYD:

 

1)       Y dylai'r Rheolwr Datblygu ac Allgymorth orffen yr adran ar "Hyrwyddo bioamrywiaeth a chadwraeth natur" ar y cyd â chydweithwyr yn y Tîm Cadwraeth Natur.

 

2)       Y dylai'r Rheolwr Datblygu ac Allgymorth a'r Swyddog Chwarae i Blant baratoi gwybodaeth yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

3)       Y dylai'r Rheolwr Datblygu ac Allgymorth newid y datganiad presennol yn y  cyflwyniad i "Amlinellu arfer da ac astudiaethau achos  o bob rhan o'r wlad a chynghori arnynt".

 

4)     Cynnal Pwyllgor Arbennig Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu ychwanegol ym mis Mehefin / Gorffennaf er mwyn adolygu'r Strategaeth Mannau Agored derfynol cyn ei chyflwyno i Aelod y Cabinet.