Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 235 (Ystafell Gyfarfod y Cynghorwyr) - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

70.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

71.

Cofnodion. pdf eicon PDF 57 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2017 fel cofnod cywir.

72.

Ymweliad safle â'r Siop Ailddefnyddio - Y Diweddaraf. (Llafar)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y cadeirydd at yr ymweliad safle diweddar a dywedodd fod y siop eisoes wedi'i hehangu.  Dywedodd y byddai Keith Coxon, Rheolwr Glanhau, a Thomas Williams, y Swyddog Ailgylchu, yn darparu manylion ar weithredu'r siop a'i chostau.

 

Adroddwyd gan y Rheolwr Glanhau a'r Swyddog Ailgylchu fod yr estyniad wedi arwain at gynnydd gwerthiant ac incwm.  Ar hyn o bryd, ceir 5 aelod o staff, 3 asiantaeth, 1 gweithiwr cyngor llawn amser ac 1 gweithiwr hunangyflogedig (technegydd teledu).  Mae 2 aelod o staff yn gweithio'n rhan-amser, 2-3 o ddyddiau'r wythnos.

 

Cynhaliwyd cyfweliadau i benodi staff asiantaeth i 8 swydd barhaol.

Disgwyliwyd penodi 9 o staff yng Nglanfa Pipehouse. Byddai 18 o staff asiantaeth yn cael eu cyflogi yn ystod yr wythnosau nesaf.  Fodd bynnag, byddai bob amser angen cadw 'cronfa' o staff asiantaeth er mwyn cyflenwi yn ystod cyfnodau o salwch etc.

 

Mabwysiadwyd ymagwedd sensitif er mwyn penderfynu ar rolau a oedd yn addas i unigolion ag anghenion arbennig. 

 

Y bwriad oedd penodi 4 hyfforddeiaeth (sy'n debyg i brentisiaeth) am gyfnod o 9 mis.  Byddant yn derbyn hyfforddiant ym mhob agwedd ar reoli gwastraff.  Byddai'r hyfforddeiaethau yn galluogi i staff asiantaeth gael cyflogaeth amser llawn. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, cadarnhaodd swyddogion y canlynol:

 

·       Mae'r estyniad wedi arwain at gynnydd mewn trosiant i £130,000 gydag elw o £43,000 yn ystod y flwyddyn ariannol ddiweddaf.  Dyma'r elw ac arbedion tirlenwi cyfunedig sy'n deillio o'r siop. Roedd elw o'r siop yn £28,000, a'r arbediad tirlenwi amcangyfrifedig yn £15,000.

·       Byddai'r elw yn cael ei sianelu i'r gyllideb rheoli gwastraff.

·       Roedd gweithredu'r siop wedi arwain at arbedion costau tirlenwi gwerth £15,000.

·       Er cafodd y polisi prisio ei symleiddio, nod y siop oedd dargyfeirio gwastraff o dirlenwi a darparu ffordd i unigolion ar incwm isel brynu eitemau am bris fforddiadwy.

·       Profir yr holl eitemau trydanol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben cyn iddynt gael eu gwerthu.

·       Mae staff yn brofiadol wrth benderfynu ar brisoedd addas a labeli eitemau ar sail hynny awr cyn i'r siop agor i'r cyhoedd.

·       Caiff eitemau sydd ar werth eu harddangos mewn cabinet neu maent yn cael eu harwerthu ar gyfrif Ebay'r cyngor.

·       Cafwyd problemau gydag unigolion yn prynu mewn llwyth er mwyn ailwerthu mewn arwerthiannau cist car.

·       Roedd argaeledd eitemau ar gyfer ailwerthu yn dibynnu ac ni ellid ei warantu.

·       Mae'r til yn rhestru nifer yr eitemau a werthwyd ac yn darparu disgrifiad cryno ohonynt a'u pwysau (er mwyn gallu nodi'r mesurau cywir y gellid eu cynnwys mewn targedau ailgylchu).

·       Newidiwyd cynllun y siop er mwyn rhoi gweithrediad mwy proffesiynol a hwylus iddi.

·       Roedd gwaith gydag elusennau lleol ynghylch stoc sydd dros ben yn parhau.

·       Byddai prisio addurniadau yn cael ei archwilio.

·       Roedd y siop wedi denu llawer o sylw cadarnhaol iawn a derbyniwyd adborth calonogol iawn ar ôl ymweliadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru, CLlLC ac awdurdodau lleol eraill.

·       Ceir cynwysyddion storio yng nghefn y siop ar gyfer unrhyw stoc sydd dros ben.

·       Mae gan bob un o'r 5 safle amwynder gynwysyddion ar gyfer eitemau y gellir eu hailddefnyddio.

·       Roedd y siop yn y broses o gael ei hailbrandio gydag enw newydd, 'Tip Treasures', arwyddion a chyfarwyddiadau.

·       Nid archwiliwyd defnyddio trydydd parti i reoli'r siop ymhellach oherwydd teimlwyd nad oedd y siop wedi cyrraedd ei photensial llawn eto.  Yn ogystal â hynny, nod y siop yw darparu eitemau fforddiadwy i aelodau'r gymuned sy'n byw mewn tlodi, a byddai comisiynu trydydd parti i reoli'r siop yn newid y prisio'n sylweddol oherwydd byddant yn anochel yn canolbwyntio ar wneud elw.

·       Tâl yr unigolyn hunangyflogedig yw £100 yr wythnos ac mae'n atgyweirio setiau teledu ar gyfer eu hailwerthu yn y siop (a fyddai fel arall yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi).  Mae'r trefniad hwn wedi gweithio'n dda ac mae'r cyhoedd yn cael eu denu i'r siop i brynu setiau teledu wedi'u hatgyweirio ac eitemau eraill.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol.

 

PENDERFYNWYD cofnodi'r wybodaeth ddiweddaraf.

73.

Neilltuo Stryd y Gwynt i Gerddwyr - Camau Nesaf (Diweddariad ar lafar).

Cofnodion:

Dywedodd y cadeirydd fod Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd yn anfon ymddiheuriadau ac ni ddaeth Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant.

 

Mynegodd aelodau'r pwyllgor siom a phryder am ddiffyg cynnydd.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r cadeirydd symud y broses yn ei blaen gydag aelod y cabinet dros yr amgylchedd a chludiant.

74.

Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddiweddariadau.

75.

Cynllun Gwaith a Chamau Gweithredu Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu 2016-2017. pdf eicon PDF 28 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cynnwys Strategaeth Mannau Agored yn y cynllun gwaith, i'w ystyried gan aelodau yn y flwyddyn ddinesig newydd.

2.     Nodi'r cynllun gwaith.