Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

64.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

65.

Cofnodion. pdf eicon PDF 56 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2017 fel cofnod cywir.

66.

Caffael Tir ac Eiddo - Senario Damcaniaethol. pdf eicon PDF 52 KB

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Strategol Corfforaethol - Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol senario damcaniaethol i'r pwyllgor mewn perthynas â sut mae'r cyngor yn caffael tir ac eiddo.

 

Gofynnodd y cynghorwyr amryw o gwestiynau ac ymatebodd y Swyddog yn briodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod y Polisi mewn perthynas â Chaffael Tir ac Eiddo yn gadarn; fodd bynnag, codwyd cwestiynau mewn perthynas â pholisi'r cyngor o ran gwerthu tir/adeiladau.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)         Y dylid nodi'r adroddiad;

2)         Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad pellach mewn perthynas â gwerthu tir/adeiladau.

67.

Neilltuo Stryd y Gwynt i Gerddwyr - Camau Nesaf (Diweddariad ar lafar).

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd, ar ran Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd ddiweddariad llafar mewn perthynas â throi Stryd y Gwynt yn barth i gerddwyr.

 

Adroddodd fod cais wedi cael ei anfon i Gyngor Caerdydd i ofyn am gyngor i swyddogion allweddol er mwyn ceisio eglurhad ar faterion megis hyd a lled yr ymgynghoriad, mynediad i bobl anabl ac amseroedd dosbarthu nwyddau/trefniadau mynediad. Arhoswyd am ymateb.

 

Roedd y Pwyllgor yn siomedig gyda diffyg cynnydd a gofynnwyd i Aelod y Cabinet ac Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd ddod i'r cyfarfod nesaf er mwyn darparu mwy o fanylion.

 

PENDERFYNWYD bod Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant ac Arweinydd Grŵp Rheoli'r Rhwydwaith Traffig a Phriffyrdd yn rhoi diweddariad yn y cyfarfod nesaf.

68.

Y diweddaraf gan y Cadeirydd (llafar).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddiweddariad i'w adrodd.

69.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 13 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

1)        Nodi'r cynllun gwaith diwygiedig;

2)       Ychwanegu Gwaith Datblygu PCC a Chamau Gweithredu 2016 - 2017 at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf;

3)       Trefnu ymweliad safle â'r Siop Ailddefnyddio ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 27 Mawrth 2017.