Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

59.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

60.

Cofnodion. pdf eicon PDF 67 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2017 fel cofnod cywir.

61.

Polisi Coed. pdf eicon PDF 304 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Uned y Gwasanaethau Coed fersiwn derfynol y Polisi Coed.

 

Esboniodd y Swyddog pan fyddai'r ddogfen yn cael ei chyhoeddi ar y wefan, y byddai hyperddolenni o'r dudalen gynnwys a fyddai'n mynd â chi'n syth i'r adran berthnasol yn y brif ddogfen.

 

Diolchodd y cadeirydd i'r swyddog am ei holl waith caled wrth gwblhau'r ddogfen.

 

PENDERFYNWYD anfon yr adroddiad ymlaen at aelod y cabinet perthnasol er mwyn ei gyflwyno i'r uned Briffio Corfforaethol a/neu'r Cabinet.  Byddai'r ddogfen hefyd yn cael ei dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

62.

Polisi ac Arfer y Cyngor o ran Caffael Tir. pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Strategol Corfforaethol - Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol adroddiad byr a oedd yn amlinellu Polisi ac Arfer y cyngor o ran Caffael Tir.

 

Tynnodd sylw at Reolau Gweithdrefnau Caffael Tir yng Nghyfansoddiad y Cyngor sy'n amlinellu sut rheolir caffael tir/eiddo.

 

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â chaffael a gwerthu tir/eiddo a manylion swyddogion y dirprwyir awdurdod iddynt i gaffael eiddo.  Gofynnwyd cwestiynau gan y Cynghorwyr, yr oedd y swyddog wedi ymateb yn briodol iddynt.

 

PENDERFYNWYD

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

2)              Cytunodd Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu fod y Polisi yn addas at y diben ac yn gadarn.

63.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

1)              Nodi'r cynllun gwaith;

2)              Trefnu ymweliad safle yng Nghaerdydd ar gyfer mis Mawrth 2017.