Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

54.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

55.

Cofnodion. pdf eicon PDF 69 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod

cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

56.

Marchnad Abertawe. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Canol y Ddinas y diweddaraf ar lafar ynglŷn â Marchnad Abertawe.

 

Yn unol â’r cais, darparodd ystadegau o ran data nifer yr ymwelwyr ar draws y DU. Cynhyrchwyd y data drwy 2 ffynhonnell ddata:

 

·                 Mynegai Marchnad y DU;

·                 Arolwg 'Missions for Market'

 

O ran ystadegau Mynegai Marchnad y DU ar gyfer y cyfnod Ionawr - Tachwedd 2016, roedd marchnadoedd ledled y wlad yn adrodd am ostyngiad o 3.5% yn nifer yr ymwelwyr. Roedd nifer yr ymwelwyr i Farchnad Abertawe yn unol â'r cyfartaledd cenedlaethol hwn. 

 

Serch hynny, o ran ystadegau misol, a oedd yn dangos tuedd am i lawr barhaus, roedd Marchnad Abertawe’n adrodd am 2% yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol.

 

O ran yr arolwg ‘Missions for Markets’, o'r 310 o gyfranogwyr roedd 43% yn adrodd am ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr. Roedd hyn yn unol ag ystadegau Marchnad Abertawe.

 

O ran incwm, roedd 45% yn dangos bod gwarged (incwm) ganddynt.  Eto, roedd hyn yn unol ag ystadegau Marchnad Abertawe.

 

Y cyfartaledd cenedlaethol o ran y gyfradd lenwi oedd 77%. Serch hynny, roedd y gyfradd ym Marchnad Abertawe’n 97%, ffigwr cadarnhaol iawn.

 

Er ei bod yn ymddangos yn genedlaethol fod yna duedd gostyngol o ran nifer yr ymwelwyr â farchnadoedd, yr oedd yn ymddangos nad oedd Abertawe'n dioddef cymaint.  Er hynny, rhaid ystyried sut i ymdrin â'r wybodaeth hon mewn modd cadarnhaol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth y gellid ei wneud i wella nifer yr ymwelwyr â Marchnad Abertawe. 

 

Dosbarthodd Reolwr Canol y Ddinas gopïau o brif gynllun drafft Marchnad Abertawe. Roedd yr adroddiad hwn yn ganlyniad ymchwil a’r nod o ddiffinio prif gynllun ar gyfer Marchnad Abertawe.. Ei fwriad oedd cyfeirio gwneud penderfyniadau yn y dyfodol am y farchnad, ond hefyd i weithio fel cyd-destun ar gyfer prosiectau datblygu arfaethedig eraill gerllaw’r adeilad.

 

Amlygodd materion a oedd yn cyfyngu Marchnad Abertawe ac amlinellodd y dylai'r prif gynllun ystyried Fframwaith Strategol Canol y Ddinas.

 

Roedd 3 phrif gategori wedi'u hamlinellu yn y broses datblygu dyluniadau, serch hynny, roedd yr awgrym ynghylch ail-agor Stryd Oren wedi'i ddiystyru ar yr adeg hon.

 

Gofynnodd yr aelodau amryw o gwestiynau ac ymatebodd y swyddog yn briodol.

 

I gloi nododd mai’r camau nesaf, os bwrir ymlaen â’r cynllun, fyddai, symud ymlaen â'r cysyniad dylunio amlinellol a gwerthusiad manylach o gostau, nodi ffynonellau cyllid mewnol ac allanol a holi'n fanwl ynghylch y camau adeiladu  - a yw'n gweithio i ni? Byddai'n rhaid cynnal ymgynghoriad a datblygu cynllun cyfathrebu. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog am ei chyflwyniad manwl. 

 

PENDERFYNWYD:

 

1)       Nodi'r diweddariad;

2)       Y dylai’r cadeirydd gysylltu â'r Aelod Cabinet perthnasol ynglŷn â'r sefyllfa gyllidebol a’r ffordd ymlaen.

57.

Polisi Coed. pdf eicon PDF 291 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr yr Uned Gwasanaethau Coed y fersiwn ddrafft lawn gyntaf o'r Polisi Coed. 

 

Amlinellodd fod angen fformatio pellach ar y ddogfen ac y byddai angen diwygio sawl rhan ar ôl cael trafodaethau â rhai adrannau eraill.

 

Roedd dryswch yn parhau o ran cyfrifoldebau ynglŷn â choed ar dir tai cyngor, ac a oedd unrhyw wybodaeth wedi'i chynnwys yng nghytundebau'r tenantiaid ynglŷn â'u cyfrifoldebau.

 

Rhoddodd y cadeirydd awgrymiadau ychwanegol i helpu i gryfhau'r polisi.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)       Nodi'r Polisi Coed diweddaraf;

2)       Diwygio’r polisi a’i gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

58.

Cynllun Gwaith. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd y Cynllun Gwaith diwygiedig ar gyfer 2016-17.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)       Nodi'r Cynllun Gwaith diwygiedig;

2)       Trefnu ymweliad safle â'r siop ailddefnyddio, ar gyfer aelodau Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, o fewn y mis nesaf