Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw fuddiannau.

 

34.

Cofnodion. pdf eicon PDF 72 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod gynhaliwyd ar 26 Hydref 2016 yn gofnod cywir.</AI2>

 

35.

Prosiect Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. pdf eicon PDF 229 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd nad oedd y swyddog a gyflwynodd yr adroddiad ar gael i ddod i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD gohirio'r eitem tan y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 25 Ionawr 2017.

36.

Agwedd Cyswllt Cwsmeriaid - Adborth ar Ymweliadau Safle i'r Ganolfan Gyswllt. (Llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd y pwyllgor adborth o'r ymweliad â'r Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig.  Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi bod yn ymweliad gwerth chweil, ac roedd yr aelodau a fu yno wedi gallu gweld arferion gweithio ac amgylchedd gwaith staff y Ganolfan Gyswllt.  Ymwelodd cynrychiolydd o'r DVLA â'r ganolfan hefyd.

 

Amlygwyd y canlynol gan y pwyllgor: -

 

·         Roedd y tîm yn gweithredu â nifer bach o staff mewn amodau gweithio cyfyngedig iawn.

·         Yr angen i ddarparu gwell ardal orffwys i staff;

·         Yr angen i ddarparu system cylchdroi swyddi rheolaidd i staff a chyflwyno mwy o waith partneriaeth;

·         Effaith colli traean o'r staff y llynedd ar forâl;

·         Dylai hyfforddiant a datblygiad staff fod yn barhaus oherwydd natur y gwaith, ac roedd cyfleoedd i ddatblygu gyrfa'n brin iawn.

·         Cyflwyno cymhellion staff/gwobrwyo staff;

·         Posibilrwydd gosod drych dwyffordd i arsylwi a yw defnyddwyr yn defnyddio cyfarpar yn gywir;

·         Mae'r gwasanaeth yn darparu iPads ychwanegol i gynorthwyo'r genhedlaeth goll o ddefnyddwyr TGCh;

·         Nid oedd swyddogion sy'n ymweld â'r gymdogaeth yn cael eu cyflogi gan yr Is-adran Gyllid, ac roedd hyn yn effeithio ar y Ganolfan Gyswllt/cyhoedd oherwydd maint a chymhlethdod y ffurflenni;

·         Dylai'r cyngor gyflwyno ffurflenni haws i'r cyhoedd eu deall.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid i ddiolch iddi am y gwasanaeth a'r wybodaeth a ddarparwyd yn ystod yr ymweliad;

3)    Y dylid mynd ar ymweliad arall/darparu adroddiad arall ymhen chwe mis.

 

 

37.

Diweddariad ar Weithwyr Asiantaeth. (Llafar)

Cofnodion:

Hysbyswyd y pwyllgor gan y Cadeirydd yr ysgrifennwyd at Aelodau Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant a Thrawsnewidiad a Pherfformiad ynghylch barn y pwyllgor o ran gweithwyr asiantaeth, ond ni wnaed cynnydd pellach.

 

Trafododd y pwyllgor yr opsiynau sydd ar gael i symud materion yn eu blaen, gan gynnwys cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a Lloegr ac a yw'r awdurdod yn cael gwerth am arian gyda'r contract cyfredol.  Amlygwyd hefyd nifer uchel y gweithwyr asiantaeth yng Nghymru.

 

Nodwyd bod disgwyl i dendrau i ddarparu contract newydd i gyflenwi gweithwyr asiantaeth gael eu dosbarthu ar ddechrau'r flwyddyn newydd. 

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y byddai'r Cadeirydd/Is-gadeirydd yn trafod y mater ymhellach ag Aelodau'r Cabinet;

2)    Gofyn i'r Uned Comisiynu Masnachol ddarparu adroddiad ychwanegol sy'n cymharu costau parhau â chontract y gweithwyr asiantaeth a chael model mewnol.

 

 

38.

Rhaglen Waith 2016/2017. pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2016/2017.

 

Oherwydd nad oedd cynghorwyr ar gael, cynigiwyd canslo'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 21 Rhagfyr, ac os oedd angen, drefnu cyfarfod arbennig i ymdrin ag unrhyw faterion brys.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Canslo'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 21 Rhagfyr 2016, ac os oes angen, drefnu cyfarfod arbennig i ymdrin ag unrhyw faterion brys.