Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 28 Medi 2016 yn gofnod cywir. |
|
Cyflwyniad - Adroddiad diweddaru ar Gydraddoldeb/yr iaith Gymraeg. Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniadau gan Sherill Hopkins a Phil Couch,
Swyddogion Datblygu Polisi Cydraddoldeb, ar y diweddaraf am gydraddoldeb a
Safonau'r Gymraeg yn eu trefn. Rhoddwyd yr wybodaeth fanwl, ddiweddaraf gan Phil Couch
ar Safonau'r Gymraeg. Nododd y pethau
canlynol: ·
Mesur y Gymraeg (Cymru) (2011) ·
Yr hen system a oedd yn cynnwys Cynlluniau'r Iaith
Gymraeg o'i chymharu â Safonau newydd y Gymraeg a chostau posib methu
cydymffurfio ·
Amserlen, gan gynnwys rheoliadau, hysbysiad cydymffurfio
a dyddiadau gweithredu ·
Egwyddorion y Safonau ·
Y Safonau ·
Cynnydd ·
Cwynion ·
Problemau ·
Pryderon ·
Y Dyfodol Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Cafwyd
trafodaeth am y gofynion gwahanol ar staff ac ymgynghori â'r cyhoedd;
defnydd/gwelededd cyffredinol y Gymraeg ers cyflwyno'r Safonau; meysydd o
bryder yn yr awdurdod a sut roedd y rhain yn cael eu datrys. Rhoddwyd cyflwyniad manwl a llawn gwybodaeth gan Sherill
Hopkins ar y diweddaraf am gydraddoldeb. Nododd y pethau canlynol: - ·
Cynllun Cydraddoldeb Strategol ·
Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ·
Asesiadau Effaith Cydraddoldeb ·
Cynnwys Cydraddoldeb ·
Edrych i'r Dyfodol…… ·
Y diweddaraf am gydraddoldeb Gofynnodd yr aelodau gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Cafwyd
trafodaethau am gydraddoldeb/tegwch yn y broses gwneud penderfyniadau;
Asesiadau Effaith Cydraddoldeb; ac arfer cydraddoldeb da o fewn yr awdurdod. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu cyflwyniad addysgiadol. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi cynnwys y cyflwyniad llafar; 2) Adroddiadau
i'w cyflwyno yng nghyfarfod o'r pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Gweithwyr asiantaethau. (Llafar) Cofnodion: Dywedodd y
Cadeirydd wrth y pwyllgor yr ysgrifennwyd at Aelodau’r Cabinet Amgylchedd a
Thrafnidiaeth a Thrawsnewid a Pherfformiad o ran barn y pwyllgor ar weithwyr
asiantaethau ac roedd yn aros am benderfyniad. |
|
Rhaglen Waith 2016/2017. PDF 213 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2016-2017. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |