Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

22.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd J A Hale - yr agenda gyfan - Aelod o Unison a Chofnod Rhif 26 - PABM sy'n fy nghyflogi - personol.

 

23.

Cofnodion. pdf eicon PDF 92 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Awst 2016 yn gofnod cywir.

 

24.

Y diweddaraf am ardaloedd di-fwg. pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Picken, Swyddog Adrannol (Safonau Masnach) a Natalie Parsons, Swyddog Safonau Masnach, adroddiad yn rhoi'r diweddaraf am Draethau Di-fwg, a gwerthusiad ohono. 

 

Nodwyd ar 27 Ebrill 2016, fel rhan o ymrwymiad Dinas Iach Abertawe ac yn dilyn gwaith yn y ddinas dan ymbarél Mannau Di-fwg, lansiodd Dinas a Sir Abertawe gynllun prawf traeth di-fwg ym Mae Caswell, Abertawe. Lansiwyd y gwaharddiad gwirfoddol mewn cydweithrediad â nifer o asiantaethau partner megis PABM, Iechyd Cyhoeddus, ASH Cymru, Dim Smygu Cymru a Surfers Against Sewage. Cyn y lansiad, ymgynghorwyd â busnesau Caswell a gosodwyd arwyddion. 

 

Cafwyd cefnogaeth dda i'r lansiad, a gwahoddwyd plant o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt i gymryd rhan mewn gweithgareddau trefnedig ar y traeth, a drefnwyd gan Dîm Chwarae'r awdurdod a Chanolfan yr Amgylchedd. Yn ffodus, roedd yn ddiwrnod braf a sych, a chafwyd cefnogaeth hefyd gan achubwyr bywyd ysgol syrffio Caswell. Yr Arglwydd Faer oedd yn arwain y digwyddiad a lansiodd y traeth di-fwg yn swyddogol, o flaen nifer o gynghorwyr lleol, penaethiaid gwasanaeth a phartïon â budd. Roedd cyfranogaeth y cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol wedi sicrhau bod y lansiad yn derbyn sylw lleol a chenedlaethol, gan annog cyfres o sgyrsiau ar wefannau cyfryngau cymdeithasol.

 

Darparwyd manylion y dulliau gwerthuso a ddefnyddiwyd i gael amcan o lwyddiant y digwyddiad, yr ymatebion i'r holiadur a dderbyniwyd, a chrynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Daethpwyd i'r casgliad bod y treial wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda 90% o'r bobl a holwyd yn cefnogi'r gwaharddiad. Roedd 88% am weld cyfyngiadau tebyg ar draethau eraill yn Abertawe. Fodd bynnag, dim ond 3% ddywedodd ei fod wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ddefnyddio'r traeth. Cytunodd 94% o'r bobl a holwyd fod gofyn i bobl beidio â smygu'n gosod esiampl dda i bobl ifanc. O'r 136 o bobl a holwyd, roedd 90% ohonynt yn bobl nad ydynt yn smygu.

 

O ganlyniad i'r holiadur, gwnaed nifer o sylwadau am sbwriel gyda 91% o'r bobl yn cytuno bod atal smygu wedi cadw'r traeth yn lanach. Er y cefnogwyd y gwaharddiad, 39% o bobl yn unig oedd yn ymwybodol ohono. Os bydd yr awdurdod yn bwriadu gwneud traethau eraill Abertawe'n ddi-fwg, byddai angen rhoi mwy o ystyriaeth i arwyddion gan fod llai na hanner (46%) y bobl a holwyd wedi gweld yr arwydd, ac roedd 56% o'r bobl yn teimlo nad oedd yr arwydd yn glir. Roedd yr arwyddion a'r cyhoeddusrwydd yn hanfodol i lwyddiant y gwaharddiad gwirfoddol.

 

Hefyd, darparwyd y diweddaraf am gatiau ysgol di-fwg. Ychwanegwyd hefyd, yn dilyn lansiad cychwynnol teulu'r Jacks gan 'Ddechrau Gorau Abertawe' dros hanner tymor mis Hydref, y gobaith oedd y byddai'r awdurdod yn gallu dilyn hyn ar 3 Tachwedd 2016 drwy lansio gatiau ysgol di-fwg.

 

Roedd gwaith ar y gweill i ddosbarthu'r arwyddion i holl ysgolion cynradd Abertawe wrth baratoi ar gyfer y lansiad. Nid oedd yr ysgol a fyddai'n cael ei defnyddio i lansio'r gwaharddiad gwirfoddol wedi cael ei chyhoeddi eto. Fodd bynnag, mae partneriaid megis Iechyd Cyhoeddus ac ASH Cymru wedi dangos eu brwdfrydedd at y digwyddiad drwy gynnig cefnogaeth megis sesiynau, gweithdai a chystadlaethau o fewn yr ysgol. Ar ôl i'r dyddiad gael ei gadarnhau, y gobaith oedd y byddai'r Arglwydd Faer neu'r Dirprwy Arglwydd Faer yn gweinyddu yn y digwyddiad.

 

Gobeithiwyd y byddai staff Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol yn helpu i atgyfnerthu'r negeseuon am smygu mewn ceir lle mae plant a phobl ifanc dan 18 oed yn bresennol er mwyn cwmpasu cynifer o negeseuon 'di-fwg' â phosib. 

 

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol.  Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

 

·         Gwella arwyddion;

·         Yr adnoddau sydd ar gael a chostau posib petai'r gwaharddiad yn cael ei ehangu i draethau/mannau agored eraill;

·         Opsiynau nawdd posib;

·         Pwrpas y gwaharddiad oedd annog pobl i roi'r gorau i smygu ond nid oedd yn orfodadwy.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd o estyn y gwaharddiad i draethau/mannau agored eraill.

 

25.

Agwedd Cyswllt Cwsmeriaid. pdf eicon PDF 46 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd, yn dilyn adroddiad y Pennaeth Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid a'r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y cyfarfod blaenorol, fod gofyn i'r pwyllgor ymchwilio'n bellach i agwedd cyswllt cwsmeriaid ar ran Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad.

 

Atodwyd y cylch gorchwyl yn Atodiad A. Atodwyd yr adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf gan Bennaeth Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid yn Atodiad B.

 

PENDERFYNWYD y dylai Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd gylchredeg dyddiadau posib i ymweld â'r Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig.

 

26.

Gweithwyr asiantaethau. (Llafar)

Cofnodion:

Yn dilyn adroddiad yr Uned Fasnachol a Chomisiynu yn y cyfarfod blaenorol, trafododd y pwyllgor y posibilrwydd o gyflwyno asiantaeth fewnol.

Nodwyd bod angen lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth yn sylweddol er mwyn ffurfio asiantaeth fewnol sy'n hylaw.

 

Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·         Goblygiadau cost sefydlu asiantaeth fewnol;

·         Cydnabuwyd yr angen am weithwyr achlysurol, ond cydnabuwyd ei fod yn bennaf ar gyfer gweithwyr di-grefft, ac roedd angen gweithwyr medrus ar yr awdurdod;

·         Byddai sefydlu asiantaeth fewnol yn caniatáu'r awdurdod i ddatblygu staff;

·         Y gost i'r awdurdod o ran cyflogi asiantaethau;

·         Yr arbedion a wneir drwy ddefnyddio gweithwyr asiantaeth;

·         Y diffyg cysylltiad rhwng adrannau ac AD, tynnu rheolaeth oddi ar AD;

·         A oedd staff asiantaeth yn derbyn y cyflog byw;

·         Adolygiadau comisiynu'n atal trafodaethau;

·         Nifer cynyddol o staff asiantaeth yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod;

·         Rhan fwyaf o'r gweithwyr asiantaeth yn cael eu cyflogi yn yr adran Gwastraff;

·         Y posibilrwydd o ddefnyddio cyllid Buddsoddi i Arbed fel asiantaeth fewnol.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r Cadeirydd roi gwybod i Aelodau'r Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant a Thrawsnewid a Pherfformiad am farn y Pwyllgor.

 

27.

Rhaglen Waith 2016/2017. pdf eicon PDF 58 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2016/2017.

 

Ychwanegodd fod PABM wedi mynegi diddordeb mewn Help Llaw gyda'r awdurdod.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Y dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Darparu diweddariad o ran gweithwyr asiantaeth yn y cyfarfod nesaf;

3)    Gwahodd Craig Gimblett, Rheolwr Iechyd a Diogelwch i'r cyfarfod nesaf a drefnir er mwyn trafod Help Llaw.