Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - Cynghorydd
J A Hale - yr agenda gyfan - Mae fy ngwraig yn gweithio i'r awdurdod. Cynghorydd
M Thomas - yr agenda gyfan - Mae fy ngwraig yn gweithio i'r awdurdod. NODWYD bod y Cynghorydd M. Thomas wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau o ran
ei wraig. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
|
Agwedd Cyswllt Cwsmeriaid. PDF 18 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid a'r Rheolwr
Gwasanaethau Cwsmeriaid yr adroddiad diweddaraf ar Wasanaethau Cwsmeriaid
Corfforaethol. Amlinellwyd mai gweledigaeth yr awdurdod oedd: ·
Gwella profiad
cwsmeriaid. ·
Cyflawni newid sylfaenol
yng nghyswllt cwsmeriaid i sianelau digidol hunanwasanaeth. ·
Atgyfnerthu'r cyswllt
cwsmeriaid cyfredol. ·
Defnyddio gweledigaeth
cwsmeriaid i wella gwasanaethau ac i gyflawni'r amcanion eraill. Gyda'r egwyddorion allweddol canlynol: ·
Gweithredu fel sefydliad gwasanaeth cwsmeriaid sengl, nid fel nifer o
fusnesau gwasanaethau cwsmeriaid gwahanol. ·
Dod ag adnoddau cyswllt cwsmeriaid presennol dan un strwythur rheoli. ·
Mabwysiadu'r egwyddor o ddigidol yn ddiofyn a throsglwyddo, lle bo'n
bosib, gyswllt cwsmeriaid o wyneb i wyneb i sianelau
ffôn a digidol. ·
Gwneud bob cyswllt gyfrif er mwyn lleihau'r galw a newid ymddygiad preswylwyr. Ychwanegwyd bod y Rheolwr Gwasanaethau
Cwsmeriaid newydd wedi'i phenodi ar 1 Awst 2015 ac roedd y Gwasanaeth
Cwsmeriaid Corfforaethol ar waith ar 1 Hydref 2015. Gwnaeth y cam cyntaf uno
pum maes o'r sefydliad, gweler isod, i greu un gwasanaeth newydd ar draws tri
safle. ·
Cyswllt Abertawe ·
Switsfwrdd ·
Gwasanaethau
Amgylcheddol ·
Atgyweiriadau Tai ·
Bathodynnau Glas Ym mis Tachwedd
2015, ymunodd y gwasanaeth Priffyrdd â'r gwasanaethau cwsmeriaid. Cafodd pob
tîm teleffoni eu hadleoli a'u cyfuno mewn un safle yn
y Ganolfan Ddinesig ym mis Ionawr 2016 ac yno dechreuwyd ar y broses o
hyfforddi cynghorwyr i gael aml-sgiliau. Er mwyn sicrhau na fyddai cynghorwyr
yn colli'r wybodaeth a'r profiad a enillwyd dros nifer o flynyddoedd, cafodd
pob cynghorydd 'prif' sgil a sgil 'eilaidd' er mwyn iddynt gynorthwyo ei gilydd
yn ystod cyfnodau o alw uchel, absenoldeb salwch a gwyliau blynyddol. Cafodd y
pwyllgor wybod bod yr ailstrwythuro staff wedi arbed £235,000 drwy golli 11 o
swyddi cyfwerth amser llawn. Yn ystod ein
blwyddyn gyntaf atebodd y gwasanaeth 526,642 o alwadau ffôn a gwasanaethu
40,615 o gwsmeriaid wyneb i wyneb yn y ganolfan gyswllt. Cafwyd cyfanswm o 7
cwyn gorfforaethol ar draws y ddwy sianel ers i'r gwasanaeth cael ei greu.
Cyflwynwyd Llinell Gymraeg ym mis Ebrill 2016 ac roedd adolygiad cyson o'r
wefan a gwella'r gallu i roi gwybod neu ofyn am wasanaethau ar-lein wedi talu
ar ei ganfed gan hybu ein preswylwyr i gysylltu â ni'n
'ddigidol drwy ddewis'. O
ganlyniad cafwyd llai o alwadau ffôn trwy'r
switsfwrdd a llai o ymweliadau wyneb i wyneb yn y ganolfan gyswllt. Roedd amserau safonol hefyd ar draws pob
gwasanaeth, megis dydd Llun - dydd Iau 08:30-17:00 a 08:30-16:30 ar ddydd
Gwener. Gwnaeth cynigion datblygu'r gwasanaeth gynnwys cael gwasanaethau adnabod
llais i gwsmeriaid ac adeiladu system Rheoli Perthnasoedd Cwsmeriaid
Corfforaethol (RPC) fewnol a fyddai'n rhoi mwy o reolaeth a hyblygrwydd i'r
cyngor i ddatblygu'r cynnyrch i gwrdd ag anghenion a'r weledigaeth o weithio
tuag at 'gofnod cwsmer unigol' ar draws yr awdurdod. Nododd y strategaeth gyswllt cwsmeriaid feysydd i'w hystyried yng ngham 2.
Byddai cynnig am gymeradwyaeth i ddechrau trafodaeth gyda'r gwasanaethau hyn yn
cael ei gyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol ym mis Medi gyda'r nod o
ail-adrodd yr un peth â cham 1. Ychwanegwyd bod yna nifer o feysydd eraill ar draws y cyngor a oedd yn trin
â chwsmeriaid, er enghraifft, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio, addysg etc.
Ac er bod Safon Abertawe yn nodi arfer gorau ynglŷn â sut dylai staff drin
cwsmeriaid, cyfrifoldeb rheolwyr yw sicrhau bod staff yn cwrdd ag anghenion
cwsmeriaid. Mae cyflwyno Safonau'r Gymraeg yn ddiweddar wedi dod â galwadau
ychwanegol ynglŷn â thrin cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg ac y dylai pob
galwad ffôn allanol yn awr gael ei hateb yn ddwyieithog. Cydnabuwyd bod angen cysondeb ar draws y cyngor cyfan wrth ateb y ffôn,
ymateb i e-byst a hyd yn oed llofnodau e-byst. Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn
briodol. Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: - ·
Y systemau sydd ar gael
i drin ag ymholiadau ffôn, megis IVR; ·
Gweithio mewn
partneriaeth gyda sefydliadau eraill, megis Awdurdod Iechyd PABM ·
Yr awdurdod yn parhau i
ddefnyddio Lleisiau Abertawe er mwyn gweld beth yw barn y cyhoedd; ·
Y gwasanaethau a ddarperir
yn y swyddfeydd tai rhanbarthol; ·
Mynediad i wasanaethau
ar gyfer unigolion nad ydynt yn berchen ar gyfrifiadur personol/ffôn symudol; ·
Y dewisiadau sydd ar
gael i'r awdurdod ddarparu gwasanaethau trwy lyfrgelloedd/swyddfeydd tai
rhanbarthol; ·
Defnyddio technoleg i
wella gwasanaethau i gwsmeriaid; ·
Meincnodi gydag
awdurdodau lleol/sefydliadau eraill; ·
Yr awdurdod yn parhau i
ganolbwyntio ar ansawdd y gweithwyr sy'n ymdrin â galwadau ffôn; ·
Ymweliad gan y pwyllgor
i'r ganolfan gyswllt er mwyn arsylwi ar ei gweithrediadau. Esboniodd y Cyfarwyddwr Adnoddau ei bod hi'n bwysig i'r awdurdod ddefnyddio
technoleg er mwyn gwella gwasanaethau i gwsmeriaid ac ar yr un pryd gynnal
parhad busnes. Gwnaeth y Pwyllgor longyfarch y gwasanaeth am ateb 526,642 o alwadau ffôn a
gwasanaethu 40,615 o gwsmeriaid wyneb i wyneb yn y ganolfan gyswllt, gydag dim
ond 7 cwyn corfforaethol ar draws y ddwy sianel ers i'r gwasanaeth cael ei
greu. PENDERFYNWYD ar y canlynol: - 1)
Dylid nodi cynnwys yr
adroddiad; 2)
Darperir adroddiad ar y
diweddaraf mewn cyfarfod yn y dyfodol; 3)
Ychwanegu ymweliad â'r
ganolfan gyswllt i'r rhaglen waith. |
|
Benthyciadau Buddsoddi i Arbed. (Llafar) Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Adnoddau y diweddaraf ar lafar i'r pwyllgor
ynglŷn â'r benthyciadau buddsoddi i arbed. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru
wedi cyflwyno'r benthyciadau yn 2011 a gall pob corff yn y sector cyhoeddus
gynnig am arian. Pwrpas y benthyciadau oedd gwella effeithlonrwydd drwy
gyflwyno prosiectau a grëwyd i wneud arbedion arian parod. Ychwanegodd, er nad
oedd Abertawe wedi cynnig am y benthyciad, cafodd nifer o awdurdodau lleol a
chyrff cyhoeddus yng Nghymru fenthyciadau a rhoddodd enghreifftiau o rai o'r
cynlluniau roedd y benthyciadau wedi'u cefnogi. Er hyn, benthyciadau na ellir
eu trafod ydynt ac roedd yn rhaid eu had-dalu dros 3 blynedd a byddai'n rhaid
i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu 25% tuag at y costau llawn. Roedd llai na 5%
o'r awdurdodau lleol wedi creu digon o arbedion i ad-dalu'r benthyciadau. Dywedodd hefyd,
oherwydd y ffordd yr oedd y cyngor wedi rheoli ei gyllideb, roedd yna ddigon
arian parod yn y gronfa wrth gefn i dalu am unrhyw gynlluniau y dymunai'r
awdurdod eu dilyn. Ychwanegodd y byddai unrhyw gynllun posib yn cael ei drin ar
sail ei haeddiant. PENDERFYNWYD y dylid nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Rhaglen Waith 2016/2017. PDF 58 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2016/2017. PENDERFYNWYD ar y canlynol: - 1)
Dylid
nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Ychwanegir
ymweliad â'r ganolfan gyswllt i'r rhaglen waith. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r pwyllgor
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem fusnes/eitemau
busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail ei fod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad. Ystyriodd y
Pwyllgor Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes/eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y
Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Gweithwyr Asiantaethau. Cofnodion: Cyflwynodd Adrian Osborne adroddiad a ystyriodd yr achos am gyfrifoldebau
mewnol ar gyfer cyrchu staff asiantaeth o safbwynt masnachol. Eglurwyd, nes bod system fewnol ar gyfer gweithwyr asiantaeth wedi'i
sefydlu gan yr awdurdod, dylai'r trefniadau presennol ar gyfer darparu staff
asiantaeth aros yn ddigyfnewid. Yn unol â hyn, byddai'r Uned Fasnachol a
Chomisiynu yn mynd yn ei blaen gyda'r gwahoddiad i dendro am gytundeb arall ar
gyfer gwasanaethau asiantaethau cyflogaeth (i'w gyhoeddi yn hydref/gaeaf
2016/17), gan fod cytundeb presennol y cyngor yn dod i ben yn fuan. Argymhellwyd y dylai'r trefniadau presennol ar gyfer staff asiantaeth
barhau. Ychwanegwyd drwy gyrchu
cyfrifoldeb yn fewnol am y trefniadau hyn gallai'r
cyngor wneud hyn am gost uwch. Trafododd y
pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad yn fanwl. PENDERFYNWYD ar y canlynol: - 1)
Dylid
nodi cynnwys yr adroddiad; 2)
Dylai'r
argymhelliad yn yr adroddiad gael ei wrthod. 3)
Mae'r
awdurdod yn ceisio datblygu system fewnol ar gyfer gweithwyr asiantaeth; 4)
Mae'r
awdurdod yn lleihau nifer y gweithwyr asiantaeth y mae'n eu cyflogi gan eu
gwneud nhw'n weithwyr parhaol a'i gwneud yn haws i
greu system fewnol ar gyfer gweithwyr asiantaeth. |