Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd M Thomas - yr agenda yn ei chyfanrwydd - mae fy ngwraig yn gweithio i'r awdurdod.

 

NODWYD bod y Cynghorydd M Thomas wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau o ran ei wraig.

 

 

11.

Cofnodion. pdf eicon PDF 68 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2016 yn gofnod cywir.

 

12.

Agwedd ar Gyswllt Cwsmeriaid - Cylch Gorchwyl. (Llafar)

Cofnodion:

Aeth y Cynghorydd C E Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad, i'r cyfarfod a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am gylch gorchwyl yr Agwedd Cyswllt Cwsmeriaid.  Amlinellodd ei bod hi'n bwysig asesu gwasanaethau cyswllt cwsmeriaid yr awdurdod a sut gellir eu gwella.

 

Cyfeiriodd at y pethau canlynol a nodwyd yn y Cylch Gorchwyl: -

 

·         Model Cefnogi Gwasanaethau Cwsmeriaid;

·         Dull o gysylltu a ffefrir;

·         Cyswllt Digidol - costio llai;

·         Oriau agor/y tu allan i oriau;

·         Dilynol/Hysbysu’r cwsmer yn gyson - lleihau aml-gyswllt;

·         Siarter Cwsmeriaid/Safon Abertawe - Effaith?;

·         Arfer nad yw'n wynebu cwsmeriaid - trafod galwadau ffôn, e-byst;

·         Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

 

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i Aelod y Cabinet a ymatebodd yn briodol.  Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·         Gwasanaethau a ddarperir gan y Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig a chanoli staff i wella cyswllt cwsmeriaid;

·         Sut mae'r elfen ddigidol wedi gwella cyswllt cwsmeriaid, gan gynnwys hunanwasanaeth ar gyfer staff mewnol/cynghorwyr;

·         Canfyddiad y cyhoedd bod gwasanaethau'r cyngor yn cael eu dylanwadu gan y cyswllt cychwynnol a wneir drwy'r Ganolfan Gyswllt a derbyn adborth perthnasol gan gwsmeriaid ynghylch eu profiadau;

·         Adeiladu ar waith yr archwiliad craffu ar y Diwylliant Corfforaethol;

·         Rheoli disgwyliadau cwsmeriaid;

·         Angen cyflwyno systemau awtomataidd ar gyfer ymholiadau dros y ffôn ac ar y we.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Aelod y Cabinet am ei adroddiad.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Dylid gwahodd Pennaeth Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid a Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid y Ganolfan Gyswllt i'r cyfarfod nesaf a drefnir i drafod yr Agwedd Gofal Cwsmeriaid.

 

13.

Diweddariad - Prosiect Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau. pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad gan Linda Phillips, Swyddog Prosiect Datblygu Sefydliadol – gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect bwlch rhwng tâl y rhywiau.

 

Yn dilyn trafodaethau blaenorol y pwyllgor, dywedodd fod Dr Alsion Parken o Brifysgol Caerdydd, y prif arbenigwr ymchwil yn y maes hwn, wedi ymgymryd â dadansoddiad pellach o ddata gweithlu'r cyngor ac wedi adrodd yn ôl i Bennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol ar 12 Gorffennaf 2016. 

 

Dyma drosolwg o grynodeb data mis Mehefin 2016 Dr Parken:

 

·         10,665 o weithwyr (cyfrif pen) ar fin lawrlwytho'r data i'r offeryn.

 

·         Cyfansoddiad y rhywiau: menywod 72% a dynion 28%. 

 

·         Stoc swyddi: 35% yn rhai amser llawn a 65% yn rhai rhan-amser

 

·         62% o swyddi'n rhai parhaol, 37% yn rhai dros dro, 1% yn rhai achlysurol.

 

·         Cynigir hanner y swyddi parhaol ar sail amser llawn, hanner ar sail rhan-amser.

 

·         Mae dynion yn meddu ar 35% o’r holl swyddi parhaol (gor-gynrychiolaeth)

 

·         Mae menywod yn meddu ar 65% o’r holl swyddi parhaol (tan-gynrychiolaeth)

 

·         Mae dynion yn meddu ar 16% o’r holl swyddi dros dro, a menywod yn meddu ar 84% (gor-gynrychiolaeth)

 

·         Mae dynion yn meddu ar 57% o’r holl swyddi amser llawn (gor-gynrychiolaeth); mae menywod yn meddu ar 88% o’r holl swyddi rhan-amser (gor-gynrychiolaeth) (3815 o swyddi amser llawn, 6850 o swyddi rhan-amser)

 

·         Mae menywod ddwywaith yn fwy tebygol o fod mewn swyddi dros dro na dynion.

 

·         Mae menywod wedi'u gor-gynrychioli mewn swyddi parhaol rhan-amser a swyddi dros dro.

 

Ychwanegwyd pwynt pwysig hefyd sef bod dynion yn meddu ar 60% o’r holl swyddi parhaol amser llawn - y llwybr dilyniant. Dyma'r llwybr hefyd i 'wneud i waith dalu' ar gyfer swyddi graddau is (roedd y mwyafrif llethol o fenywod yn gweithio mewn swyddi graddau is, rhan-amser).

 

Roedd yr 'elit' - rolau amser llawn, parhaol yn cael eu cyflawni gan ddynion yn bennaf; ac mae 28% o'r gweithlu'n meddu ar 60% o'r swyddi hyn, gyda 69% o'r holl ddynion yn gweithio yn y patrwm/math hwn o gontract.

 

Roedd gwaith amser llawn yn fwyaf cysylltiedig fel arfer â gwaith graddau canol i uwch, ac roedd gwaith rhan-amser yn gysylltiedig â'r tair radd isaf. Yn anochel. byddai'r patrymau hyn yn creu ac yn cynnal bylchau cyflog rhwng y rhywiau.

 

Mae'r rhan fwyaf o swyddi dros dro yn rhai rhan-amser, felly mae ychwanegu swyddi amser llawn yn dod â'r ganran o fenywod sy'n gweithio amser llawn i 21%.

 

Barn Dr Parken oedd, ar y cyfan, fod yr awdurdod yn awdurdod lleol 'arferol', gydag un eithriad, maint y gweithlu dros dro.  Mae stoc uwch o swyddi amser llawn yn y gyflogaeth hon o'i chymharu â gweithluoedd llywodraeth leol eraill yng Nghymru, ond nid oes gwahaniaeth yng nghanran y stoc honno o swyddi a wneir gan fenywod sef 17%.

 

Nodwyd bod y gweithlu dros dro yn uwch oherwydd nid yw'r awdurdod yn cynnig 'contractau tymor penodol' yn gyffredinol mwyach.  Maent oll yn cael eu hystyried yn rhai 'dros dro', a allai gyfrif am y ffigur uchel, ond byddwn yn ymchwilio ymhellach i hyn fel rhan o'r prosiect.

 

Yn dilyn y cyfweliad cychwynnol, awgrymodd Dr Parken y pethau canlynol: -

 

1.    Ymchwilio i ddata gweithwyr achlysurol ymhellach;

2.    Ymchwilio i ddeiliaid swyddi 'lluosog' a maint y 'mater' hwn;

3.    Ymchwilio i ddata Prif Swyddogion/Penaethiaid Gwasanaeth yn yr offeryn GEPA;

4.    Dadansoddi teuluoedd swyddi;

5.    Dadansoddi rhan-amser;

6.    Cymharu ag awdurdodau lleol eraill;

7.    Dadansoddi polisi;

8.    Cynnwys y gweithlu mewn dadansoddiad cyd-destun manwl.

 

Ychwanegwyd y byddai gwaith yn parhau i ddadansoddi data 'oriau go iawn' ar gyfer staff achlysurol/cyflenwi a llunio adroddiad teuluoedd swyddi a nodi hynny yn yr offeryn GEPA.  Darperir mwy o wybodaeth ym mis Hydref 2016.

 

Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol.  Roedd trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol yn bennaf: -

 

·         Diffiniadau o weithwyr, e.e. 'gweithwyr achlysurol';

·         Cyfansoddiad y gweithlu, yn arbennig staff sy'n meddu ar fwy nag un swydd;

·         Cymharu'r gweithlu â gweithluoedd awdurdodau lleol eraill;

·         Nifer y gweithwyr sy'n defnyddio'r opsiwn o ymddeoliad hyblyg;

·         Gwaith rhan-amser sy'n cynnig mwy o hyblygrwydd i fenywod;

·         Cynnwys y gweithlu;

·         Rheoli disgwyliadau'r gweithlu.

 

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Dylid darparu adroddiad diweddaraf ym mis Hydref 2016 ar eitemau 1 i 6 ar y rhestr uchod.

 

14.

Rhaglen Waith 2016-2017. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y cadeirydd raglen waith wedi'i diweddaru ar gyfer 2016/2017.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Dylid gwahodd y Pennaeth Cyfathrebu a Chynnwys Cwsmeriaid a Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid y Ganolfan Gyswllt i'r cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 31 Awst 2016.