Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r cod
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2016 yn gofnod cywir. |
|
Astudiaethau Achos Buddsoddi i Arbed. PDF 368 KB Cofnodion: Cyflwynodd J Dong, Prif Swyddog y Drysorfa, adroddiad Llywodraeth Cymru o'r enw Buddsoddi-i - Arbed 4 - Buddsoddi tymor byr er lles tymor hir. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r diweddaraf am brosiectau
effeithlonrwydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus a oedd wedi derbyn cyllid
Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn nodi er mwyn
lleihau'r effaith negyddol ar wasanaethau rheng flaen o ganlyniad i setliadau
cyllidebol llai, ei bod yn hollbwysig dod o hyd i ymagweddau cost-effeithiol at
ddarparu a rhoi mwy o sylw i ataliaeth ac arloesedd
wrth gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus. Ychwanegwyd y cyflwynwyd y cynllun grant er
mwyn annog arloesedd. Darparwyd yr arian a oedd ar
gael fel benthyciadau di-log y mae'n rhaid eu had-dalu'n llawn, yn amodol ar
drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru. Roedd y gronfa wedi bod ar gael ers 2009.
Fodd bynnag, nid oedd y cyngor wedi gwneud cais am arian drwy'r
dull hwn ac roedd wedi defnyddio arian o'i Gronfa wrth Gefn ei hun. Roedd esiamplau o'r cynlluniau a ddarparwyd
yn cynnwys: - ·
Astudiaeth Achos 1: Partneriaeth Gwasanaethau
a Rennir GIG Cymru; ·
Astudiaeth achos 2: Gwasanaethau i Blant sy'n
derbyn Gofal - Prosiect Dychwelyd ac Atal (WRAP) Wrecsam; ·
Astudiaeth Achos 3: Cludiant Cleifion mewn
Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys - Bwrdd Iechyd Hywel Dda; ·
Astudiaeth Achos 4: Rhoi'r E-Restr ar waith -
Bwrdd Iechyd Hywel Dda; ·
Astudiaeth Achos 5: Rhaglen Moderneiddio
Ysgolion Powys - Cyngor Sir Powys. Mae'r Gronfa ar gael ar sail ddewisol i
sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru er mwyn
cefnogi eu prosiectau gwella strategol sy'n arwain at arbedion effeithlonrwydd
sy'n rhyddhau arian sylweddol wrth sicrhau gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio
ar y dinesydd. Nod y Gronfa yw: • Cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus gwell yn unol ag agenda effeithlonrwydd gwasanaethau
cyhoeddus a gwelliant ehangach Llywodraeth Cymru. • Trawsnewid effeithlonrwydd gweithredol y
gwasanaethau cyhoeddus a chreu arbedion effeithlonrwydd i ryddhau arian parod
sylweddol; • Annog cydweithio cryfach
ar draws sefydliadau a ffiniau gweinyddol lle mae hyn yn arwain at fanteision mesuriadwy o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus. a, • Hyrwyddo lledaenu gwersi a ddysgwyd ac arfer gorau sy'n
codi o brosiectau. Mae'r Gronfa'n targedu'r prosiectau hynny
sy'n defnyddio ymagweddau profedig, lle mae tystiolaeth o lwyddiant blaenorol
wrth gyflwyno manteision sylweddol. Er enghraifft, prosiectau yn y meysydd
canlynol sy'n: • gwella'r ffordd y mae gwasanaethau
cyhoeddus yn caffael ac yn comisiynu nwyddau a gwasanaethau ac yn rheoli'r
farchnad; • trawsnewid prosesau busnes; • gwneud defnydd gwell o'r ystâd gyhoeddus ac
ymagweddau a rennir at adeiladu; • lleihau costau swyddogaethau corfforaethol
a busnes arferol trwy wasanaethau a rennir ac ymagweddau cydweithredol eraill
at effeithlonrwydd sefydliadol; • cynyddu effeithlonrwydd drwy gyflwyno neu
wella TGCh fel dull cyflwyno; • ail-lunio gwasanaethau fel eu bod yn fwy effeithiol
drwy annog datblygu cydweithio blaengar ar draws sefydliadau. Cydnabuwyd bod swyddog Is-adran 151 wedi dangos rheolaeth
ariannol gall a chraff o'r blaen drwy roi cyfalaf i'r neilltu ar gyfer yr
agenda trawsnewid a gwella. Roedd arian mewnol ar gael o hyd ar gyfer
cynlluniau buddsoddi i arbed gydag achosion busnes cadarn. Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol. Tynnodd y pwyllgor sylw at gael system staff asiantaeth fewnol fel cais benthyciad Buddsoddi i Arbed posib. PENDERFYNWYD ar y canlynol: - 1) Dylid nodi cynnwys yr adroddiad; 2) Dylai'r Cadeirydd gysylltu ag Aelodau'r Cabinet / Cyfarwyddwr er mwyn darganfod a oes unrhyw gynlluniau o fewn eu portffolio / adran y gellid eu hariannu gan fenthyciad Buddsoddi i Arbed; 3) Dylid gwahodd y Cyfarwyddwr Adnoddau a'r Prif Swyddog Trawsnewid Dros Dro i gyfarfod y pwyllgor ar 31 Awst er mwyn trafod system staff asiantaeth fewnol ymhellach; 4)
Gofyn i Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad am
y posibilrwydd o roi gallu staff asiantaeth fewnol ar waith. |
|
Rhaglen Waith 2016-2017. PDF 55 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
cadeirydd gynllun gwaith wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2016/2017. PENDERFYNWYD y dylid: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
Gwahodd
y Cyfarwyddwr Adnoddau a'r Prif Swyddog Trawsnewid Dros Dro i gyfarfod y
pwyllgor ar 31 Awst 2016 er mwyn trafod system staff asiantaeth fewnol
ymhellach. |