Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: - Y Cynghorydd J A
Hale - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Mae
fy ngwraig yn gweithio i Ddinas a Sir Abertawe, Gwasanaeth Arlwyo - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Ebrill a 19 Mai 2016 yn gofnodion cywir |
|
Trafodaethau gydag Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad. (Llafar) Cofnodion: Roedd y Cynghorydd
C. E. Lloyd yn y bresennol yn y cyfarfod a rhoddod y
diweddaraf i Aelodau'r y Pwyllgor o ran heriau presennol Abertawe Gynaliadwy
a'r Agenda Drawsnewid, yn enwedig o ran effaith newidiadau i uwch-reolwyr a
gafwyd yn ddiweddar. Amlinellodd i'r PCC
hoffai adolygu ac ystyried yr agwedd Cyswllt Cwsmeriaid ar yr awdurdod, gan
gynnwys ·
gwasanaethau
ffôn a chanolfannau galwadau presennol, ·
barn
y cyhoedd ar y gwasanaethau presennol, ·
archwilio
meysydd posib o arfer gorau, meincnodi a theclyn olrhain enw da ·
cysylltiadau
personol a digidol ·
cynyddu
mynediad a gwasanaethau ar-lein ·
hybu
"Safon Abertawe" Datganodd y byddai
yn drafftio cylch gorchwyl i'r PCC ei i ystyried yn ei gyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD y dylai'r PCC ychwanegu'r Agwedd Cyswllt
Cwsmeriaid i'w gynllun gwaith. |
|
Adborth - Ymweliad Safle â Help Llaw. (Llafar) Cofnodion: Rhannodd y
Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar ynghylch ei ymweliad diweddar i
Ardd Therapi Help Llaw ym Mharc Singleton. Cyfeiriodd at
gefndir datblygu'r ardd, sy'n un o nifer o gynlluniau gwahanol a gynigir i staff gan y gwasanaeth. Mae llwyddiant y cynllun
ac ymrwymiad staff gwirfoddol yn parhau i fod yn arbennig. PENDERFYNWYD nodi'r adborth. |
|
Trafodaethau am Raglen Waith 2016-2017. PDF 55 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Cadeirydd Gynllun Gwaith diweddaraf 2015/16. Amlygodd feysydd
pwnc i'w trafod gan y PCC yn ystod y misoedd nesaf. PENDENDERFYNWYD ar y canlynol: 1) y dylid nodi'r
cynllun gwaith 2) y dylid, yn amodol
ar adborth gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad yn y cyfarfod
nesaf, ychwanegu'r Agwedd Cyswllt Cwsmeriaid i'r cynllun gwaith. |