Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Aelod Newydd y Bwrdd Pensiwn Lleol. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd Rosemary Broad, GMB, i'w chyfarfod Bwrdd
Pensiwn Lleol cyntaf. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - R Broad – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Swyddog Amser Llawn y
GMB – personol. I Guy – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. D Mackerras – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. D White – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.
Y Cynghorydd T M
White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
ac mae fy merch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chofnod Rhif 34 - Adroddiad Blynyddol 2018/19 - Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol. |
|
Gwahardd y Cyhoedd: - PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adroddiad yr Actiwari a Benodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi trosolwg o Brisiad Actiwaraidd Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019. Cyflwynodd Chris Darby o AON y Prisiad Actiwaraidd
ar 31 Mawrth 2019 a ddarparwyd yn Atodiad 1.
Gofynnodd y Bwrdd nifer o gwestiynau i gynrychiolydd AON, a ymatebodd yn
briodol iddynt. Gwnaethpwyd sylw
hefyd y gellid rhoi adborth i aelodau'r Gronfa Bensiwn i amlygu'r gwaith sy'n
cael ei wneud ar eu rhan Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd AON am ddarparu'r adroddiad. Penderfynwyd trafod anfon gohebiaeth ychwanegol at
aelodau'r Gronfa Bensiwn ynghylch perfformiad y gronfa ar ddyddiad hwyrach. (Sesiwn Agored) |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol 2018/19. PDF 273 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Adroddiad Blynyddol Cronfa
Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2018/19. Eglurwyd bod
Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau ei harchwiliad o Adroddiad Blynyddol
2018/19 yn unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn gynharach yn y
flwyddyn. Darparwyd Adroddiad Blynyddol
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2018/19 yn Atodiad 1. Nododd y Bwrdd yr adroddiad cadarnhaol iawn. |
|
Adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. PDF 607 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' am
bennu amcanion mesuradwy ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi penodedig fel sy'n
ofynnol gan ofynion yr Awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd (CMA). Darparodd yr
adroddiad ofynion CMA, pwysigrwydd yr amcanion, pennu amcanion ar gyfer
ymgynghorwyr, mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio. Tynnodd y
Cadeirydd sylw at y ffaith nad oedd cyfeiriad at y Bwrdd Pensiwn Lleol yn Amcanion Perfformiad yr Ymgynghorydd
Buddsoddi yn Atodiad 1. Penderfynwyd diwygio Amcanion Perfformiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi yn Atodiad 1 i gynnwys cyfeiriad at y Bwrdd Pensiwn Lleol drwy'r holl ddogfen. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi
Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn
Lleol ym mis Hydref 2019. Amlygwyd
manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. Ychwanegwyd yr adroddir hefyd am unrhyw doriadau GDPR sy'n ymwneud â gwaith yr Is-adran Pensiynau yn y dyfodol. |
|
Adnoddau'r Awdurdod Gweinyddol. PDF 325 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
am y gwelliannau argymelledig o ran darparu adnoddau
a amlinellwyd yn yr adroddiad. Esboniwyd
y meysydd gwaith gwahanol yr oedd y Tîm Gweinyddu Pensiynau a Thîm Buddsoddi'r
Gronfa Bensiwn yn ymgymryd â hwy. Amlinellwyd y byddai rôl yr Uwch-swyddog Cyfathrebiadau Pensiwn yn
cynorthwyo'r Is-adran Cyfathrebiadau Pensiwn wrth fynd i'r afael â galwadau'r
gwasanaeth sy'n datblygu. Eglurwyd y byddai'r rôl yn cael ei llenwi drwy
adnoddau mewnol, byddai proffil y rôl yn destun gwerthusiad swyddi ac y dywedir
wrth yr adran AD briodol y byddai prosesau recriwtio a dethol yn cael eu
defnyddio i benodi rhywun ar gyfer y rôl. Yn ogystal, eglurwyd y byddai creu rôl Rheolwr Buddsoddi a Chyfrifo'r
Gronfa Bensiwn a'i llenwi drwy ddefnyddio adnoddau presennol yn cynorthwyo
Is-adran Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn ac yn helpu i fynd i'r afael â llwyth
gwaith cynyddol gymhleth. Yn dilyn hyn, byddai'r swydd yn cael ei gwerthuso, yr
adran AD briodol yn cael ei hysbysu, a byddai prosesau recriwtio a dethol yn
cael eu mabwysiadu er mwyn penodi rhywun i gyflawni'r rôl hon. Gwnaed sylw gan y Bwrdd ynghylch llenwi'r swyddi mewn da bryd er mwyn
cynorthwyo'r Is-adran Pensiynau. |
|
Gwahardd y cyhoedd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r Bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd brawf
budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Y Diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/ Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd rhannu asedau
Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd
gan weithredwr y Cynllun Cytundebol Awdurdodedig, Link Asset Services. Yn y diweddariad cyfeirir at yr amserlen ar gyfer
lansio cronfa incwm sefydlog cyfran 3. Mae hon wedi'i haildrefnu ac fe'i
cynhelir bellach yn ystod Chwarter 1af 2020. Ychwanegwyd bod hyfforddiant ar y cyd wedi'i drefnu
ar gyfer pob aelod o Bwyllgor Cronfa Bensiwn Cymru Gyfan a'r Bwrdd Pensiwn
Lleol ar ddiwedd Chwefror 2020 yn Llandrindod. Penderfynwyd anfon manylion yr
hyfforddiant ymlaen at Rosemary Broad, aelod newydd y
Bwrdd Pensiwn Lleol. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cofnodion: Roedd adroddiad
'er gwybodaeth' yr Ymgynghorydd Buddsoddi yn cyflwyno Adroddiad Monitro
Buddsoddiadau 2019 - Chwarter 3. Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol. Cofnodion: Roedd yr adroddiad
'er gwybodaeth' yn cyflwyno diweddariad economaidd a sylwadau am y y farchnad o safbwynt Mr Noel Mills, yr Ymgynghorydd
Buddsoddi Annibynnol a benodwyd. Atodwyd yr
adroddiad chwarterol a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1. Ychwanegwyd bod Noel Mills, Ymgynghorydd Annibynnol wedi ymddeol o'i rôl a bod y cyngor yn ystyried ei opsiynau ar hyn o bryd o ran penodi rhywun yn ei le. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019 yn Atodiad 1. |
|
Bwrdd Pensiwn Lleol - Y Cyfarfod Nesaf. Cofnodion: Gofynnwyd a ellid
symud cyfarfod nesaf y Bwrdd Pensiwn Lleol i fis Mai 2020 gan nad yw'r aelodau
ar gael. Penderfynwyd y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg dyddiad arfaethedig ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Mai 2020. |