Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Ian Guy (Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot) yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. (Bu Ian Guy
yn llywyddu) |
|
Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Mike White (Dinas a Sir
Abertawe) yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2019-2020. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - I Guy – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd A
Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol – personol. Mae fy ngwraig a'm mab
hefyd yn aelodau o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. D White – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd T M
White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol ac mae fy merch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chofnod Rhif 6 - Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 - Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 fel cofnod cywir. Nodwyd bod yr wybodaeth ynghylch enwebiadau grant marwolaeth wedi'i chynnwys yng nghylchlythyr staff Cyngor Castell-nedd Port Talbot. |
|
Cronfa Olrhain Mynegai Carbon Isel - Diweddariad. PDF 42 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn diweddaru'r pwyllgor ar
elfen drosglwyddo carbon isel y Polisi Llywodraethu Amgylcheddol a
Chymdeithasol (LlACh). Ychwanegwyd bod y
cyngor wedi cymryd nifer o gamau i ddeall effaith materion LlACh
ar y gronfa ac amlinellwyd y rhain yn yr adroddiad. Amlinellwyd, fel rhan o waith y gronfa, fod y pwyllgor wedi comisiynu MSCI
i ddadansoddi amlygiad carbon y portffolio.
Roedd gan MSCI wybodaeth am amlygiad carbon pob stoc fyd-eang ac roedd
yn gallu cymharu amlygiad carbon daliannau'r gronfa ag amrywiaeth o feincnodau
cyfeirio. Dangosodd ganlyniadau'r
astudiaeth fod asedau carbon y portffolio presennol 9% dan bwysau. Cytunodd y pwyllgor i dargedu sefyllfa tan
bwysau 50% erbyn 2022 yn ei bolisi LlACh a'r ffordd
fwyaf effeithlon o ran gweithredu i ddechrau cyrraedd ei darged oedd trwy
fynegai goddefol carbon isel. Roedd
Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn flaenorol wedi cymeradwyo trosglwyddo ei asedau
ecwiti olrhain mynegai cyfalafiad wedi'i bwysoli marchnad
Blackrock gwerth tua £0.5 biliwn i gronfa olrhain
Mynegai Carbon Isel Blackrock. Byddai hyn yn
cyfrannu'n sylweddol at fodloni ei ymrwymiad i leihau ôl-troed carbon y gronfa
50% erbyn 2022. Dechreuwyd trosglwyddo'r
asedau hynny ar 3 Gorffennaf 2019 a byddai'r cyfan wedi'i drosglwyddo erbyn
diwedd y mis. Yn ogystal, yng nghyfarfod Cyngor Abertawe a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019,
cymeradwywyd hysbysiad o gynnig a oedd yn datgan argyfwng hinsawdd. Yn yr
hysbysiad o gynnig, cyfeiriwyd at waith arloesol ac ymrwymiad Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn i leihau ei ôl-troed carbon.
Roedd Atodiad 1 o'r adroddiad yn darparu'r Polisi Llywodraethu
Amgylcheddol a Chymdeithasol a luniwyd o ganlyniad i hyfforddiant cychwynnol,
gwybodaeth bellach a gasglwyd, sylwadau a dderbyniwyd gan grwpiau â diddordeb a
thrafodaeth a phroses gwneud penderfyniadau'r pwyllgor yn dilyn hyn. Gwnaeth y
pwyllgor sylw ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed a'r uchelgais i leihau 50%o ôl-troed
carbon y gronfa erbyn 2022, wrth sicrhau enillion buddsoddiad ar gyfer
aelodau'r gronfa. Cyflwynodd y
Bwrdd sylwadau ar y materion canlynol: - ·
Y
cynnydd cadarnhaol a wnaed a'r uchelgais i leihau 50% o ôl-troed carbon y
gronfa erbyn 2022, wrth sicrhau enillion priodol ar gyfer aelodau'r gronfa; ·
Ymgysylltu
â chwmnïau a rhoi pwysau arnynt i newid eu polisïau; ·
Herio
gwledydd nad ydynt yn cydnabod newid yn yr hinsawdd; · Cynnwys y Rhybudd o Gynnig a basiwyd gan Gyngor Abertawe |
|
Polisi Buddsoddiad Cyfrifol drafft Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn gofyn am
nodi'r gymeradwyaeth ar gyfer Polisi Buddsoddiad Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn
Cymru Pwyllgor y Gronfa Bensiwn. Cydnabuwyd bod gan PPC bolisi BC sydd wedi'i ddiffinio'n glir, sy'n arfer
gorau, ac y gellid ei roi ar waith ar draws ei gronfeydd. Nodwyd bod pob cronfa aelod o PPC ar gamau
gwahanol o ran ystyried yr agenda LlAC/BC gyfan. Felly lluniwyd polisi PPC gyda golwg ar
sicrhau i beidio â rhwymo cronfa unigol i ymrwymiad cyfyngol neu rwymol. Cynhwysir Atodiad 1 ym Mholisi BC y PPC. Ychwanegwyd bod Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wrthi'n perswadio
cronfeydd eraill yng Nghymru i fabwysiadu'r polisi. Nodwyd hefyd fod y Gronfa Bensiwn wedi'i henwebu ar gyfer Gwobr Ymagwedd
Orau at Fuddsoddi'n Gynaliadwy y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. |
|
Cynllun Archwilio 2019 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 298 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro Gynllun Archwilio 2019 i Swyddfa Archwilio
Cymru (SAC) a oedd yn nodi'r gwaith archwilio arfaethedig, pryd y byddai'n cael
ei wneud, faint byddai'n ei gostio a phwy fyddai'n ei wneud. Mae Atodiad 1 yn
nodi cyfrifoldebau'r archwilydd, ynghyd â rhai'r
rheolwyr a'r sawl sy'n gyfrifol am lywodraethu.. Roedd Arddangosyn 1 yn darparu tri cham yr
ymagwedd archwilio; roedd Arddangosyn 2 yn amlinellu'r risgiau yr ystyriwyd eu
bod yn sylweddol yr oedd angen ystyriaeth arbennig arnynt yn yr
archwiliad. Nodwyd y ffi archwilio
arfaethedig ar gyfer y gwaith hwn yn Arddangosyn 3 a darparwyd yr amserlen ar
gyfer yr archwiliadau arfaethedig yn Arddangosyn 5. Trafododd y Bwrdd
brisiadau ecwiti preifat a oedd yn amlygu y dibynnir yn y dyfodol ar
amcangyfrifon yn hytrach na'r prisiadau gwirioneddol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19. PDF 33 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn gofyn
bod y Datganiad o Gyfrifon Drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
2018/19 yn cael ei nodi. Ychwanegwyd bod
Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi dechrau eu harchwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon
Drafft Cronfa Bensiwn 2018/19 yn unol â'u cynllun archwilio a gyflwynwyd i
Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach yn y flwyddyn. Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r
Bwrdd ym mis Medi 2019. Darparwyd
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 yn Atodiad 1. Trafododd y bwrdd
y canlynol: - ·
Yr
elw cadarnhaol. ·
Rhaglen
lleihau costau · Cost isel llywodraethu |
|
Cais i'r Corff Derbyn - The Wallich. PDF 50 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi
cymeradwyo cais y corff derbyn ar gyfer The Wallich. Amlinellwyd, yn
dilyn ymarfer adolygu gwasanaethau blaenorol a gynhaliwyd gan Gyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT), penodwyd Tai Tarian (Cartrefi Castell-nedd Port Talbot gynt) i reoli gwasanaethau tai ar
ran CBSCNPT. Roedd elfen o'r gwasanaeth
hwnnw a oedd yn cefnogi'r rheini yr oedd digartrefedd yn effeithio arnynt,
wedi'i aildendro'n dilyn hyn, a phenodwyd The Wallich am gyfnod o 3 blynedd. Roedd The Wallich, sefydliad nid er elw
gwirioneddol â statws elusen eithriedig gymeradwy, wedi bod yn darparu
gwasanaethau llety a chefnogaeth i bobl ddigartref ers 1978. Dechreuodd y
contract am wasanaethau ar 1 Gorffennaf 2017 am 3 blynedd. Dan amodau'r
contract, bydd y gweithlu cymwys presennol yn cael ei drosglwyddo dan
drefniadau TUPE o'r cyflogwr presennol, Tai Tarian, i The Wallich. Er mwyn cadw hawliau pensiwn y staff a
drosglwyddir, cynigiwyd rhoi statws Corff Cydnabyddedig i The Wallich yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Cynigiwyd rhoi'r cytundeb derbyn ar sail
cynllun caeëdig, a fydd yn cynnwys y staff a enwir yn
unig yn atodlen 1 y cytundeb derbyn. Mae angen i'r
cyflogwr noddi, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot,
sicrhau'r bond indemniad angenrheidiol neu'r warant cyflogwr sy'n noddi ar y
cytundeb derbyn. Bydd yr awdurdod
gweinyddu hefyd yn cynnal asesiad risg priodol o'r corff a dderbynnir, The Wallich. Trafododd y Bwrdd yr oedi yn y broses am nad oedd pensiynau'n rhan o drafodaethau contractau a phwysigrwydd gwarchod staff yn y dyfodol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu
manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am
Doriadau. Roedd Atodiad A
yn darparu manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys gofyniad newydd mewn perthynas ag
ad-daliadau clo. Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a
gymerwyd gan y rheolwyr. Trafododd y bwrdd fanylion y toriadau a restrwyd, yn enwedig costau olrhain unigolion, sut mae elfennau pob toriad y tu hwnt i reolaeth y gronfa a'r camau gweithredu a gymerwyd i leddfu problemau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ôl-dremiol ar gyfer yr ymateb i Ymgynghoriad Trysorlys EM a'r
Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) ar y terfyn ar Daliadau
Ymadael, y Cylch Gwerthuso a Diwygio Gwerthuso. Amlinellwyd bod y Llywodraeth yn bwriadu rhoi terfyn diamod o £95m ar daliadau
ymadael yn y sector cyhoeddus a'i bod yn ceisio ymgynghoriad ar y rheoliadau
i'w roi ar waith. Darparwyd yr offeryn
statudol drafft a'r ymateb i'r ymgynghoriad yn Atodiad 1. Roedd diffiniad y Llywodraeth o daliad ymadael yn cynnwys
unrhyw gyfraniadau pensiwn ychwanegol y mae eu hangen i alluogi mynediad cynnar
heb leihad i fuddion aelod pan fônt yn gorfod ymddeol yn gynnar ar ôl colli
swydd yn 55 oed neu'n hŷn. I egluro
hyn, byddai'r taliad ymadael yn cynnwys colli swydd (aelod yn derbyn taliad mewn
arian parod) ac unrhyw gyfraniadau pensiwn ychwanegol (y gronfa bensiwn sy'n
derbyn y taliad). Byddai'r terfyn mympwyol o £95m yn cynnwys gweithwyr y sector
cyhoeddus hir eu gwasanaeth sy'n derbyn tâl cymedrol a nifer o newidynnau ar
hyd y ffordd fel a amlygir yn yr ymateb arfaethedig. Roedd gweddill yr ymateb yn nodi materion technegol a
oedd yn ymwneud ag ym mha ffordd y byddai angen asesu'r 2 elfen o derfyn y tâl
ymadael ac ymdrin â nhw, ynghyd â rhai o wendidau'r cynnig. Cymeradwywyd yr ymateb
gan Gadeirydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 2 Gorffennaf 2019. Yn ogystal, cyhoeddodd MHCLG ymgynghoriad ar gynigion i
amrywio'r cylch prisio 3 blynedd presennol, cynigion ynghylch taliadau ymadael
a diogelu hawliau aelodaeth gweithwyr rhai cyflogwyr. Roedd actiwari
penodedig y gronfa wedi rhoi'r ymateb i'r ymgynghoriad a ddarparwyd yn Atodiad
2. Trafododd y bwrdd
y canlynol: - ·
Y
sefyllfa annheg lle gallai rhai achosion bach effeithio ar lawer o bosib; ·
Y
Gronfa Bensiwn yn colli aelodaeth o ganlyniad o bosib; · Cylchoedd prisio. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion
yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth
eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
PPC - Diweddariad. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r
diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA) Link
Asset Services. Cyfeiriwyd yn y diweddariad at y bwriad i gymeradwyo cronfa incwm sefydlog
cyfran 3 gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FCA yn ystod chwarter 4 2019. Amlygodd y Cadeirydd yr angen i Bartneriaeth Pensiwn Cymru barhau i wella
cyfathrebiadau â Byrddau Pensiwn Lleol drwy eu Cadeiryddion. |
|
Tai Preswyl fel Dosbarth Asedau. Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r Bwrdd
Pensiwn Lleol am benderfyniad Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i gymeradwyo Tai
Preswyl fel dosbarth asedau buddsoddi. Amlinellwyd bod y Gronfa Bensiwn ar hyn o bryd yn
buddsoddi mewn ystod eang o ddosbarthiadau asedau, gan gynnwys ecwitïau,
bondiau, eiddo, isadeiledd, ecwiti preifat, cronfeydd rhagfantoli a dyled
breifat. Fodd bynnag, nid oedd ganddo
ddosbarthiad tai preswyl. Ychwanegwyd bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi derbyn
diwrnod o hyfforddiant ar y dosbarth asedau ym mis Chwefror 2019 a oedd yn
cynnwys cyflwyniadau gan reolwyr sy'n arbenigo yn sector rhentu'r farchnad, tai
cymdeithasol, tai fforddiadwy a thai cefnogi'r digartref fel dosbarthiadau
asedau y gellir buddsoddi ynddynt. Roedd Atodiad 1 yn darparu crynodeb o nodweddion a
buddion mabwysiadu tai preswyl fel dosbarth asedau. Cymeradwyodd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yr
adroddiad yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019. Amlygodd y Bwrdd y penderfyniad cadarnhaol a'r cyfle i
fod o fudd i'r gymuned leol. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys
gwerthusiad o asedau a pherfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn
a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2019. Yn Atodiad 1 roedd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2019. |