Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Alan Lockyer (Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn gadeirydd ar gyfer Blwyddyn
Ddinesig 2018-2019. (Bu'r Cynghorydd A Lockyer yn llywyddu) |
|
Ethol is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Ian Guy yn Is-gadeirydd ar gyfer
blwyddyn ddinesig 2018-2019. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: - I Guy – Yr agenda yn
ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cyng. A Lockyer –
Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol –
personol. Mae fy ngwraig a fy mab hefyd
yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Y Cynghorydd T M
White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Swyddogion: K Cobb – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Cofnod Rhif
37 – Datganiad o Gyfrifon Drafft 2017/18 a Chofnod Rhif 38 – Adroddiad
Blynyddol 2017/18 - Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion
cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 30 Ebrill, 26 Gorffennaf a 27
Medi 2018 fel cofnodion cywir. |
|
Cofnodion: Yn absenoldeb
Swyddfa Archwilio Cymru, cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran
151 adroddiad a oedd yn nodi'r materion a gododd o'r archwiliad o ddatganiadau
ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18, yr oedd angen adrodd amdanynt yn
unol â Safon Ryngwladol ar Archwilio 260. Amlinellwyd mai swm
yr asedau gros a reolir gan y Gronfa Bensiwn yw £1.9 biliwn. Barnwyd bod lefelau meintiol
camddatganiadau'r Gronfa Bensiwn gwerth £19.1 miliwn. Amlinellodd yr adroddiad y materion sy'n codi
ar ôl archwilio cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017-18. Derbyniwyd y
cyfriflenni ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2018
ar 25 Mai 2018, cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2018. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru'n adrodd am y
materion mwy sylweddol a gododd o'r archwiliad, ac roeddent o'r farn bod angen
ystyried y rhain cyn cymeradwyo'r datganiadau ariannol. Trafodwyd y materion hyn eisoes â Swyddog
Adran 151. Bwriad yr
Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwiliad anghymwys am y
cyfriflenni ariannol wedi i'r awdurdod ddarparu llythyr cynrychioliadau sy'n
seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig
yn Atodiad 2. Ychwanegwyd na
nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y cyfriflenni ariannol a oedd yn dal i fod yn
ddiffygiol. Roedd nifer o
gamddatganiadau a oedd wedi'u cywiro gan reolwyr ond roedd yr archwilwyr o'r
farn y dylid tynnu ein sylw atynt oherwydd eu perthnasedd i gyfrifoldebau'r
awdurdod lleol dros y broses adrodd ariannol. Nodwyd y rhain
gyda'r esboniadau yn Atodiad 3. Cynyddwyd gwerth y buddsoddiadau hyn yng
Nghyfriflen yr Asedau Net £2.5 miliwn o ganlyniad i'r diwygiadau hyn (a chydnabuwyd
y cododd hyn fel newid amseru oherwydd roedd angen defnyddio ffigyrau a
amcangyfrifir er mwyn cyrraedd amseroedd terfyn cyfrifon). Roedd hefyd nifer o ddiwygiadau cyflwyniadol
eraill a wnaed i'r cyfriflenni ariannol drafft a gododd o'r archwiliad. Nodwyd yr
argymhellion allweddol sy'n codi o'r gwaith archwilio ariannol yn Atodiad
4. Roedd y rheolwyr wedi ymateb iddynt a
byddai cynnydd yn cael ei wirio yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle'r oedd unrhyw gamau gweithredu heb eu
cyflawni, byddai'r archwilwyr yn parhau i fonitro cynnydd a'i gynnwys yn
adroddiad y flwyddyn nesaf. Mynegodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 ei werthfawrogiad i'r staff am ddarparu'r
cyfrifon i Swyddfa Archwilio Cymru ymhell cyn y dyddiad cau gofynnol ac am yr
adroddiad cadarnhaol a dderbyniwyd. Trafododd y bwrdd y
dull presennol o ymdrin â chyflogwyr allanol ac enwebiadau grantiau marwolaeth. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad. 2)
Y
bydd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 yn cysylltu ag Ian Guy,
Cynrychiolydd Aelodau'r CPLlL, ynghylch tynnu sylw
aelodau'r gronfa at enwebiadau grant marwolaeth. |
|
Datganiad Drafft o Gyfrifon 2017/18. PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa
Bensiwn Abertawe 2017/18 'er gwybodaeth'. Diolchodd i'r staff yn nhîm y
Drysorfa a Thechnegol am eu gwaith er mwyn llunio'r cyfrifon. Datganwyd bod
Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n elfen
wahanol ac ar wahân i Ddatganiad Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe yn ei
gyfanrwydd. Archwiliodd Swyddfa
Archwilio Cymru Ddatganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18 yn unol
â'i hadroddiad a chyflwynir hyn i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn ei chasgliad o'r
archwiliad yn hwyrach yn y flwyddyn. Roedd yr adroddiad yn
darparu dadansoddiad manwl yn llawn gwybodaeth am y cyfrifon, gan bwysleisio'r
elw cadarnhaol, a dywedodd fod y rhagamcaniadau ar gyfer y llif arian yn y
tymor hir yn gadarnhaol ar gyfer y gronfa yn y tymor canolig. Ychwanegwyd bod asedau net y Gronfa wedi
cynyddu i £1,914,031 ar 31 Mawrth 2018. Atodir Datganiad o
Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 yn Atodiad 1. |
|
Adroddiad Blynyddol 2017/18. PDF 33 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 Adroddiad Blynyddol 'er gwybodaeth'
ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Amlinellir bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau ei archwiliad o
Ddatganiad o Gyfrifon Drafft y Gronfa Bensiwn 2017/18 yn unol â'i gynllun
archwilio. Yn unol â'r rheoliad, roedd
angen i'r gronfa lunio adroddiad blynyddol sy'n rhoi peth gwybodaeth ychwanegol
a nodiadau esboniadol mewn perthynas â gweithgareddau'r gronfa yn ystod y
flwyddyn. Diwygiwyd y cyfriflenni ariannol yn yr Adroddiad Blynyddol yn unol â
chanfyddiadau'r archwiliad a'r argymhellion gan yr archwilydd penodedig. Roedd Adroddiad
Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 yn Atodiad 1. Trafodwyd ffioedd a thargedau perfformiad gan y bwrdd. |
|
Adroddiad Toriadau. PDF 128 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi
Adrodd am Doriadau. Darparodd Atodiad A fanylion y toriadau a gafwyd yn y cyfnod a thynnwyd sylw at y camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr. |
|
Diweddariad ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
darparu'r diweddaraf am gynllun gweithredu Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe
i gydymffurfio â gofynion GDPR. Yn Atodiad 1 darparwyd Arweiniad Ymarferol ar gyfer GDPR a darparwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd GDPR llawn, Memorandwm o Ddealltwriaeth y Cyflogwr a chwestiynau cyffredin gan aelodau yn Atodiad 2. |
|
Cynllun Busnes 2018/19. PDF 88 KB Cofnodion: Adroddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 Gynllun Busnes Pwyllgor y Gronfa Bensiwn
ar gyfer 2018 -2019 'er gwybodaeth' er mwyn darparu fframwaith gweithiol ar
gyfer rhaglen waith y Gronfa. Yn Atodiad 1
darparwyd y Cynllun Busnes Blynyddol ar gyfer 2018-2019, darparwyd Cofrestr
Risgiau'r Gronfa Bensiwn yn Atodiad 2 a darparwyd Cyllideb y Gronfa Bensiwn ar
gyfer 2018-19 yn Atodiad 3. Trafododd y bwrdd gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru, y dull cyflwyno a'r trefniadau gyda rheolwyr presennol y gronfa. |
|
Admission Body Application - Freedom Leisure. PDF 117 KB Cofnodion: Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog
Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu cais y corff derbyn ar
gyfer Freedom Leisure a gymeradwywyd gan Bwyllgor y
Gronfa Bensiwn. Yn dilyn ymarfer caffael a wnaed gan y cyflogwr rhestredig, Dinas a Sir
Abertawe, amlinellwyd y cymeradwyir y contract i Freedom
Leisure ddarparu gwasanaethau rheoli hamdden i Gyngor Abertawe. Byddai'r cwmni'n gyfrifol am weithredu'r
cyfleusterau hamdden a byddai hyn yn cynnwys y gweithrediadau o ddydd i ddydd,
staffio, gwasanaethau cwsmeriaid, iechyd a diogelwch a marchnata'r cyfleusterau.
Byddent hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi yn ailwampio'r cyfleusterau a gweithredu
arferion cynnal a chadw er mwyn cynnal y cyfleusterau hyn. Roedd y contract yn
cynnwys gweithredu'r LC; Canolfannau Hamdden Penlan,
Penyrheol, Treforys a Chefn Hengoed, Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt a Chyfadeilad Chwaraeon yr Elba.
Penderfynwyd bod y gwasanaethau hyn yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer
statws corff a dderbynnir o dan Reoliadau CPLlL. Ychwanegwyd bod Wealden
Leisure Limited (yn masnachu fel Freedom
Leisure) yn sefydliad gwirioneddol, nid er elw â statws elusen eithriedig a
gymeradwyir gan CThEM. Ei nod oedd darparu
gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a hamdden o safon ac sy'n fforddiadwy i'r
gymuned leol yr oeddent yn eu gwasanaethu. Fel elusen wirioneddol nid oedd
ganddynt unrhyw randdeiliaid i'w bodloni, na swm o
elw i'w greu oherwydd cwmnïau sy'n cadw cyfalaf mentrau, na difidendau
cyfrannau i'w talu i bobl ddienw. Disgwyliwyd i'r contract ar gyfer
gwasanaethau i ddechrau ar 1 Hydref 2018. Ar ben hynny, dan amgylchiadau'r contract, cynigiwyd trosglwyddo'r gweithlu
presennol dan drefniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu
Cyflogaeth) (TUPE) o'r cyflogwr presennol, Dinas a
Sir Abertawe, i Freedom Leisure. Er mwyn cadw hawliau pensiwn y staff a
drosglwyddir, cynigir rhoi statws Corff Cydnabyddedig i Freedom
Leisure yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Cynigir hefyd y rhoddir y cytundeb derbyn ar
sail cynllun caeedig, a fydd yn cynnwys y staff a enwir yn unig yn atodlen 1 y
cytundeb derbyn. Byddai'r cytundeb derbyn gofynnol yn
amlinellu gwarant y cyflogwr sy'n noddi a sicrhawyd gan y cyflogwr sy'n noddi,
Dinas a Sir Abertawe. Byddai'r awdurdod gweinyddu hefyd yn cynnal asesiad risg
priodol o'r corff a dderbynnir, Freedom Leisure. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad diweddaru 'er
gwybodaeth' a oedd yn amlinellu cynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ychwanegodd fod yn bartneriaeth yn gweithio'n
dda ond y byddai'r broses yn cymryd cryn amser. |
|
Polisi Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (LlCA) Diweddaru. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn darparu diweddariad am fynegeion carbon isel a bwysolwyd. |
|
Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad 'er gwybodaeth' yr adroddiad chwarterol a oedd yn crynhoi prisiadau
ased a pherfformiad y gronfa hyd at 30 Mehefin 2018. Atodwyd adroddiad
chwarterol Hymans Robertson yn Atodiad 1.
Nodwyd y Cyfryngau Buddsoddi yn Atodiad 2 a'r Cyfrifiad Perfformiad yn
Atodiad 3. Darparwyd copi hefyd o'r cyflwyniad ar Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Strategaethau Diogelu Ecwiti. |
|
Eitem Frys. Cofnodion: Nododd y
Cadeirydd, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1974, ei fod
yn ystyried bod llythyr drafft Cadeiryddion CPLlL/Byrddau
Pensiwn Lleol Cymru Gyfan ar lywodraethu'n cael ei ystyried ar frys. Rheswm am y
brys Caniatáu i'r
Bwrdd Pensiwn Lleol ystyried y llythyr drafft. Llythyr drafft
cadeiryddion CPLlL /BPLl Cymru Gyfan Cyflwynodd Ian
Guy, Cynrychiolydd Aelodau'r CPLlL, lythyr drafft ar
lywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w drafod. Ychwanegodd, fel Cadeirydd
sy'n ymadael, ei fod eisoes wedi ymateb i'r cynigion a amlinellwyd yn y llythyr
ac roedd am i'r bwrdd fod yn ymwybodol o hyn. Penderfynwyd cymeradwyo cynnwys y llythyr drafft. |
|
Swyddi Gwag. Cofnodion: Hysbyswyd y bwrdd
gan y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 y ceisiwyd mynegiannau o
ddiddordeb gan gyflogwyr y cynllun a chynrychiolwyr undebau llafur, a
gobeithiwyd penodi'n fuan.
|
|
Cyfarfod Nesaf. Cofnodion: Gan nad oedd
aelodau'r bwrdd ar gael ar 13 Rhagfyr 2018, awgrymwyd y dylid trefnu'r cyfarfod
nesaf ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd. Penderfynwyd y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg dyddiadau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf. |