Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Aelodau’r Bwrdd: J Andrew – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o
Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. A Thomas – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd T M
White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
– personol. Swyddogion: K Cobb – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad am Doriadau. PDF 122 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu
manylion toriadau a gafwyd yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau. Roedd Atodiad A
yn darparu'r Adroddiad Toriadau a oedd yn cynnwys manylion y toriadau a gafwyd
ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Medi 2017. Tynnwyd sylw at fanylion y toriadau, y camau
gweithredu a gymerwyd gan y Gronfa Bensiwn a newidiadau i bersonél yn y Tîm
Pensiynau. Dilynwyd hyn gan
drafodaethau ynghylch sicrhau adnoddau digonol i'r Tîm Pensiynau; gosod
taliadau cosb ar y rhai sy'n troseddu dro ar ôl tro; dilyn arfer gorau; cymharu
â chronfeydd pensiwn eraill. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf am Gynnydd. PDF 556 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r
diweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Rhoddwyd y diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch y cyflwyniad mewn perthynas â'r
8 Cronfa Bensiwn yng Nghymru, a'r cynnydd o ran llywodraethu a chaffael, gan
gynnwys gweithdrefn adrodd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu. Darparodd Atodiad 1 fanylion cyfuno Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Partneriaeth Cronfa Bensiwn Cymru: Adroddiad Cynnydd mis Hydref 2017. Trafododd y bwrdd y costau gweinyddol a delir i Gyngor Sir Gâr am
wasanaethau ysgrifenyddol; mwy o gostau yn erbyn llai o arbedion cyffredinol ar
gyfer y prosiect; mwy o gostau oherwydd y cyngor cyfreithiol ychwanegol a
gafwyd; gostyngiad yn ffïoedd rheolwyr cronfeydd; yr
estyniad y mae ei angen ar gyfer yr amserlen; gwerth yr asedau a rennir a'r
asedau y tu allan i'r gronfa. |
|
Y Diweddaraf am y Strategaeth Weinyddol - Drafft. PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r
fersiwn ddiweddaraf o Strategaeth Gweinyddu'r Gronfa Bensiwn. Ychwanegwyd bod Strategaeth Gweinyddu'r Gronfa Bensiwn wedi'i mabwysiadu yn
2013 a'i bod wedi'i haddasu fesul cam yn y cyfamser. Roedd y Strategaeth
Gweinyddu ddrafft wedi'i hatodi i Atodiad 1 i'w hystyried gan y Bwrdd Pensiwn
Lleol, cyn i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ei mabwysiadu'n ffurfiol. Dywedodd y bwrdd fod y ddogfennaeth ofynnol ar gael ar wefan y cyngor. Dilynwyd hyn gan drafodaethau ynghylch cynnwys y strategaeth ddrafft a oedd
yn cynnwys: ·
adfer y gost o ganlyniad uniongyrchol i berfformiad gwael
cyflogwr; ·
camau gweithredu pan fydd toriadau difrifol; ·
adnoddau yn y Tîm Pensiynau a'r newidiadau diweddar a
gafwyd o ran personél; ·
goblygiadau cyflwyno newidiadau Diogelu Data, rhannu data
a sicrhau cydymffurfio; ·
adroddiad am gyfrifoldebau a chosbau. ·
Cydnabuwyd nad oedd y toriadau a nodwyd yn ddigon mawr i
fod yn rhai pwysig. Penderfynwyd darparu adroddiad maes o law am adnoddau'r Tîm
Pensiwn. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd Brawf
Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar
gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - Argymhelliad i Benodi Gweithredwr Cynllun Cytundebol Awdurdodedig. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad a oedd yn hysbysu'r bwrdd o
argymhelliad Cyd-bwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru i benodi
Gweithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA). Esboniwyd y
broses benodi'n fanwl a nodwyd y penodiad. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Credoau Buddsoddi. Cofnodion: Darparwyd
adroddiad Hymans Robertson, Ymgynghorwyr Buddsoddi, 'er gwybodaeth'. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r camau nesaf
a argymhellwyd mewn perthynas â datblygu a ffurfioli credoau pensiwn y Gronfa
Bensiwn. Yn Atodiad 1
darparwyd adroddiad am y credoau buddsoddi a grynhowyd o'r holiadur a'r diwrnod
hyfforddiant. Trafododd y bwrdd yr wybodaeth a gynhwyswyd yn yr adroddiad gan wneud sylw
ar werthu asedau ac adolygu'r strategaeth yn flynyddol ar y cyd â Phwyllgor y
Gronfa Bensiwn. |
|
Materion Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu. Cofnodion: Darparwyd
adroddiad Hymans Robertson, Ymgynghorwyr Buddsoddi, 'er gwybodaeth'. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r camau nesaf
a argymhellwyd mewn perthynas â pholisïau'r Gronfa Bensiwn ar faterion amgylcheddol,
cymdeithasol a llywodraethu. Atodwyd adroddiad
cryno o'r camau nesaf yn Atodiad 1. Trafododd y bwrdd y ffaith mai enillion ariannol yw blaenoriaeth y gronfa;
mesur ffactorau ariannol/anariannol; cynrychiolaeth aelodau'r Gronfa Bensiwn ar
y gronfa; ac nid gwerthu asedau oedd yr unig opsiwn. Caiff y polisi ei
ailysgrifennu i gydnabod bod y gronfa'n cadw'r hawl i werthu asedau fel
gweithred derfynol. |
|
Cyfarfod Nesaf. Cofnodion: Gofynnwyd a ellid
symud y cyfarfod nesaf a drefnwyd o 29 Mawrth 2018 i ddyddiad arall yn ystod yr
wythnosau sy'n dechrau ar 23 a 30 Ebrill 2018. Penderfynwyd y dylai'r Swyddog Gwasanaethau
Democrataidd ddosbarthu dyddiadau amgen i'r bwrdd er mwyn cael cytundeb. |