Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Aelodau’r Bwrdd: J Andrew – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. A Chaves – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. I Guy – Yr agenda yn
ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. A Thomas – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd T M
White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
– personol. Swyddogion: K Cobb – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cofnodion: Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Medi 2017 fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad
canlynol: - Newid y cyfeiriadau
at John Andrew yn cynrychioli Cartrefi CNPT i ‘Tai
Tarian’. Nodwyd sylwadau'r bwrdd o ran Cofnod Rhif 46 - Côd Tryloywder Costau'r LGPS |
|
Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams, Arweinydd y Tîm Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) adroddiad a
oedd yn nodi'r materion i'w hystyried o archwiliad cyfriflenni ariannol y
Gronfa Bensiwn ar gyfer 2016-2017 yr oedd angen eu nodi o dan SRA 260. Bwriad yr Archwilydd
Cyffredinol yw cyflwyno adroddiad pendant ar gyfriflenni ariannol y Gronfa
Bensiwn ar gyfer 2016-17 unwaith y bydd yr awdurdod yn darparu llythyr sylwadau
i Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad
archwilio arfaethedig yn Atodiad 2.
Roedd y Gronfa Bensiwn wedi'i chynnwys ym mhrif gyfriflenni ariannol y
cyngor ac felly'r ymateb a gyflwynwyd oedd yr un a gynigiwyd
ar gyfer cynnwys prif gyfriflenni ariannol y cyngor yn y Gronfa Bensiwn. Amlinellwyd bod
camddatganiadau a oedd wedi'u cywiro gan reolwyr, yr oedd SAC o'r farn y dylid
tynnu sylw'r awdurdod atynt oherwydd eu perthnasedd i'n cyfrifoldebau dros y
broses adrodd ariannol. Nodwyd y rhain
gyda'r esboniadau yn Atodiad 3. Ni
chafodd y diwygiadau hyn unrhyw effaith ar Gyfrif y Gronfa ond cynyddodd gwerth
y buddsoddiadau yng Nghyfriflen yr Asedau Net o £2.3 miliwn. Dylid nodi, gyda'r defnydd cynyddol o
amcangyfrifon, bydd angen mwy o ddiwygiadau ar ôl cyfnod yr archwiliad yn y
blynyddoedd i ddod. Roedd hefyd nifer o
ddiwygiadau cyflwyniadol a wnaed i'r cyfriflenni ariannol drafft sy'n codi o'r
archwiliad. Nodwyd yr argymhellion sy'n codi o'r gwaith archwilio ariannol yn
Atodiad 4. Roedd rheolwyr wedi ymateb iddynt
a byddai SAC yn gwirio'r cynnydd a wnaed yn ystod archwiliad y flwyddyn
nesaf. Lle'r oedd unrhyw gamau
gweithredu heb eu cyflawni, byddant yn parhau i fonitro cynnydd a'i gynnwys yn
adroddiad y flwyddyn nesaf. Trafododd y bwrdd
yr amserlenni cyflymach sy'n cael eu cyflwyno i gau
cyfrifon a goblygiadau'r newid hwn, yn enwedig ar brisiadau ac amcangyfrifon. Roedd y cadeirydd
wedi llongyfarch y staff a diolch iddynt am eu gwaith a'u hymroddiad. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol 2016/17. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 Adroddiad Blynyddol
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2016/17 'er gwybodaeth'. Roedd Swyddfa
Archwilio Cymru wedi archwilio Adroddiad Blynyddol 2016/17 y Gronfa Bensiwn yn
unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn
gynharach yn y flwyddyn. Darparwyd
Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2016/17 yn Atodiad 1. Trafododd y Bwrdd y
canlynol: - ·
Tybiaethau
actiwaraidd/cyfraddau disgownt ·
Fframwaith
llywodraethu a mabwysiadu arfer gorau; ·
Aelodau'r
cynllun yn defnyddio cyfleusterau ar-lein; ·
Y
rheoliadau cydymffurfio a osodwyd, tryloywder a dadansoddiad cost a budd; ·
Ymddiriedaeth
aelodau yn y cynllun; ·
Cynlluniau
meincnodi yng Nghymru a Lloegr a goblygiadau'r darparwr meincnodi'n tynnu ei
wasanaeth yn ôl. |
|
Adroddiad am Doriadau. PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod, yn unol â'r
Polisi Adrodd am Doriadau. Atodwyd yr
Adroddiad Toriadau yn Atodiad A. Trafododd y bwrdd
yr opsiynau sydd ar gael er mwyn cynorthwyo tramgwyddwyr rheolaidd ac osgoi
toriadau yn y dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth' i nodi bod gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe bellach statws
Buddsoddwr Proffesiynol dan MIFID II. Amlinellwyd yr
effaith bosib ar y CPLlL, yr asesiad arfaethedig sydd
ei angen a'r ffordd ymlaen. |
|
Camau Corfforaethol. PDF 127 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth' i nodi penderfyniad Pwyllgor y Gronfa Bensiwn i benodi Ymgynghorydd
Cyfreithiol o UDA a amlinellwyd ym mharagraff 4.1 i fonitro cyfleoedd i
adennill colledion o ganlyniad i dorri cyfreithiau gwarannau
UDA. |
|
Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig. PDF 152 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151
adroddiad 'er gwybodaeth' ar sefyllfa gyfredol y Gronfa o ran cysoni GMP ac i
nodi'r weithdrefn sy'n ofynnol i gwblhau'r ymarfer cysoni GMP yn y cyfnod amser
sydd ar gael. Darparwyd adroddiad
briffio yn y cyfarfod diwethaf i ddiweddaru'r pwyllgor am y sefyllfa bresennol
o ran ymarfer Cysoniadau GMP, a gafodd ei gynnwys fel
Atodiad A. Amlinellwyd yr adroddiad
gwreiddiol ar gyfer y pwyllgor ar 12 Mawrth 2015 yn Atodiad B. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 113 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007
mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth' i hysbysu'r bwrdd am benodi cyflenwr i gwblhau'r ymarfer Cysoni GMP
yn y cyfnod amser sydd ar gael. Nodwyd diwygiad i
baragraff 5.1. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru - Y Diweddaraf. Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Trysorlys a Thechnegol/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd Partneriaeth
Pensiwn Cymru. Adroddodd ar
gefndir yr eitem, darparodd fanylion mewn perthynas â'r cyflwyniad o ran 8
Cronfa Bensiwn Cymru ac amlinellodd y llywodraethu dros dro a'r broses gaffael
a gafwyd hyd yn hyn. Amlinellwyd
amserlen wedi'i diweddaru a diweddariad ar gynnydd a grëwyd gan ymgynghorwyr
Partneriaeth Pensiwn Cymru, Hymans Robertson, yn Atodiad 1. |
|
Next Meeting. Cofnodion: Gwnaed cais i newid
y cyfarfod nesaf a drefnwyd o 14 Rhagfyr 2017 i ddyddiad arall. Penderfynwyd y dylai'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
ddosbarthu dyddiadau amgen i'r bwrdd er mwyn cael cytundeb. |