Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Ethol cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Mr Ian Guy yn gadeirydd ar gyfer
blwyddyn ddinesig 2017-2018. (Bu Mr Ian Guy yn llywyddu) |
|||||
Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. Cofnodion: Penderfynwyd ethol John
Andrew yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. |
|||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: - AELODAU’R BWRDD: J Andrew – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. I Guy – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. y Cynghorydd A R
Lockyer - Yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. A Thomas – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd T M
White - Yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
ac yn aelod o'r Pwyllgor Archwilio - personol. Swyddogion: J Dong – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. L Miller – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. B Smith – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – Yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|||||
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2017 fel cofnod cywir. |
|||||
Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17. PDF 9 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol y datganiad drafft o
gyfrifon ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. Esboniwyd bod y cyfrifon yn ffurfio cydran arbennig ac ar wahân o
Ddatganiad o Gyfrifon Dinas a Sir Abertawe ar y cyfan. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dechrau ei
harchwiliad o Ddatganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn yn unol â'i
chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach y
flwyddyn hon. Byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa
Bensiwn ar 14 Medi 2017. Atodir Datganiad o
Gyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn yn Atodiad 1 yr adroddiad. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau/manylodd y Pwyllgor mewn perthynas ag effaith Prydael ar y gronfa, y cyfraniadau a wnaed gan Gyrff
Cydnabyddedig, budd incwm buddsoddi, treuliau rheoli buddsoddiadau a chostau
trosolwg a llywodraethu. Penderfynwyd nodi Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17. |
|||||
Partneriaeth Pensiwn Cymru - y Diweddaraf. PDF 65 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog
y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn hysbysu pwyllgor y
Gronfa Bensiwn ar gynnydd Cronfa Buddsoddi Cymru Gyfan. Roedd Atodiad 1 o'r adroddiad yn cynnwys amserlen ddiwygiedig a diweddariad
ar gynnydd a gynhyrchwyd gan ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru, Hymans
Robertson.
|
|||||
Cynllun Hyfforddiant. PDF 61 KB Cofnodion:
|
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn hysbysu'r
Bwrdd Pensiwn Lleol ar MIFID II a'i effaith bosib ar
y CPLlL yn genedlaethol ac yn lleol. Amlinellwyd effaith
bosib y CPLlL, yr asesiad arfaethedig sydd ei angen
a'r ffordd ymlaen. Darparwyd ymateb y
Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Atodiad 1. |
|||||
Côd Tryloywder Costau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. PDF 56 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn hysbysu'r Bwrdd Pensiwn Lleol am gôd ymddygiad gwirfoddol newydd ar dryloywder
costau yn y diwydiant cronfa fuddsoddi. Atodwyd y Côd Ymddygiad ar gyfer Tryloywder Costau yn Atodiad 1. Cydnabuwyd
bod y templed i'w gwblhau wedi'i ddatblygu ar gyfer mandadau ecwiti ar y cam
hwn a bod templedi ar gyfer dosbarthiadau ased eraill yn cael eu datblygu. Fodd
bynnag, bwriadwyd iddo gynnwys y rheolwyr ecwiti (rheolwyr dosbarth asedau
eraill pan fydd y templedi ar gael) ac i gofrestru'r côd gwirfoddol. Nodwyd y dylai hyn fod yn ofynnol mewn unrhyw
benodiadau i'r gronfa yn y dyfodol neu i Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Gofynnodd y Bwrdd gwestiynau ynglŷn â Phartneriaeth Pensiwn Cymru yn
cofrestru ar gyfer y côd a'r rhagolygon ar gyfer adfer costau. |
|||||
Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn hysbysu'r
Bwrdd Pensiwn Lleol am unrhyw doriadau i'r Gronfa Bensiwn yn unol â'r Polisi
Adrodd am Doriadau. Atodwyd yr
Adroddiad Toriadau yn Atodiad A.
Darparwyd gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â thaliadau cyfandaliad
ymddeoliad, dyraniad dangosol i Ecwitïau Byd-eang, cyflogwyr nad ydynt yn talu
cyfraniadau yn y raddfa amser ofynnol a methiant un cyflogwr (Grŵp
Gwalia) i gyflwyno data i'r Gronfa Bensiwn erbyn 30 Ebrill er mwyn cysoni
cyfraniadau ar ddiwedd y flwyddyn a bod tâl yn cael ei ychwanegu at gofnodion
yr aelodau. Trafododd y Bwrdd yr Adroddiad Toriadau a thrafodwyd yr
opsiynau sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael a'r toriadau hynny. |
|||||
Penodi Rheolwr Isadeiledd. PDF 126 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif
Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn diweddaru'r
Bwrdd Pensiwn Lleol ar benodiad rheolwr isadeiledd craidd. Cafodd y Bwrdd
wybod, yn dilyn cyflwyniad a gweithgaredd gwerthuso, fod Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn wedi penodi First State fel rheolwr
isadeiledd craidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. |
|||||
Adroddiad Cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig. PDF 64 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Reolwr Pensiynau adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn hysbysu'r Bwrdd am yr
ymarfer yr oedd yn cael ei ymgymryd ag ef er mwyn ystyried yr opsiynau sydd ar
gael er mwyn cwblhau ymarfer cysoni GMP o fewn y graddfeydd amser gofynnol. Amlygwyd bod yr
ymarfer cysoni wedi defnyddio llawer o adnoddau ac amlinellwyd y risg bosib i'r
Gronfa Bensiwn os nad oed y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn y terfyn amser
gofynnol. O ganlyniad i hynny,
cofrestrodd y Gronfa ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol CPLlL
er mwyn cael gafael ar wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael, a oedd yn cynnwys
cefnogaeth ymgynghorol a chaffael gwasanaethau arbenigwr maes er mwyn cwblhau'r
ymarfer o fewn y terfyn amser sydd ar ôl. Roedd ystyriaeth
o'r opsiynau'n barhaus a byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno ar y cam
cynharaf. |
|||||
Cadeirydd ymadawol. Cofnodion: Diolchodd y
Cadeirydd y Cynghorydd A Lockyer, y
Cynghorydd ymadawol, am ei waith yn ystod y flwyddyn ddinesig ddiwethaf ac am
gryfhau'r cysylltiadau rhwng y Bwrdd a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn. |
|||||
Lynne Miller - Prif Reolwr Pensiynau. Cofnodion: Cyhoeddodd y
Cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod olaf Lynne Miller, Prif Reolwr Pensiynau, sy'n
ymddeol ar ddiwedd mis Medi 2017.
Diolchodd am ei gwaith a'i hymrwymiad ac ar ran y Bwrdd Pensiwn Lleol,
dymunodd ymddeoliad hir a hapus iddi. |