Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021/2022.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022.

 

                       (Y Cynghorydd A Lockyer yn llywyddu)

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd A Lockyer yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022.

 

(Bu'r Cynghorydd A Lockyer yn llywyddu)

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer dlwyddyn ddinesig 2021/2022.

Penderfyniad:

Penderfynwyd ethol Ian Guy yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Ian Guy yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2021-2022.

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol: -

 

I Guy - Agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Cynghorydd Locker - Agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol. Mae fy ngwraig a'm mab hefyd yn Aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb - Agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

J Dong - Agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

S Williams - Agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

J Parkhouse - Agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chlerc Cyngor Cymuned Uwch Llanrhidian - personol.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

Y Cynghorydd A Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.  Mae fy ngwraig a'm mab hefyd yn aelodau o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chlerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 246 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd..

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar fel cofnod cywir.

5.

Adroddiad am doriadau. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 362 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Mawrth 2021.  Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

6.

Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu fframwaith ar gyfer rhaglen waith Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-2024.

 

Ychwanegwyd, yn unol ag arfer gorau, fod Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi cynhyrchu cynllun busnes i lywio'i rhaglen waith ar gyfer y cyfnod 12 mis sydd i ddod. Darparwyd y cynllun busnes ar gyfer 2021-2024 yn Atodiad 1.

Ychwanegwyd ymhellach fod Cynrychiolydd Aelodau o'r Cynllun wedi’i benodi i'r Cydbwyllgor Llywodraethu, a bod yn rhaid i bob awdurdod unigol, yn ei gyfarfod cyngor, gael cymeradwyaeth i gytuno ar y cytundeb rhyng-Awdurdod diwygiedig.

7.

Adroddiad a datganiad o Gyfrifon Blynyddol Drafft ar gyfer 2020/21. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i friffio’r Bwrdd ynghylch adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2020/21.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe bob amser wedi cynhyrchu datganiad o gyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol dan sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad ag Archwilio Cymru, penderfynwyd cydgrynhoi'r ddwy ddogfen yn un a symleiddio'r broses gynhyrchu/archwilio.

 

Ychwanegwyd bod Swyddogion wedi cyflwyno adroddiad blynyddol a datganiad o gyfrifon drafft wedi’u cwblhau ar gyfer 2020/21 i Archwilio Cymru i ddechrau eu harchwiliad.  Roedd Archwilio Cymru wedi nodi na fyddent yn dechrau eu harchwiliad o Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2020/21 tan fis Medi 2021 oherwydd oedi yn archwiliadau statudol eu cleientiaid corff cyhoeddus eraill (gan gynnwys Cyngor Abertawe). Byddai eu hadroddiad SRA 260 dilynol gyda barn a chanfyddiadau archwilio’n cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad ym mis Tachwedd 2021.

 

Atodir Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2020/21 yn Atodiad 1.

 

Gwnaeth y Bwrdd sylwadau ar y canlyniadau rhagorol a ddarparwyd, a diolchwyd i'r staff yn y Gwasanaethau Ariannol a'u llongyfarch am eu gwaith, eu hymrwymiad ac am gynhyrchu'r Datganiad o Gyfrifon yn brydlon.

 

Gwnaed sylwadau cadarnhaol ar y strategaeth datgarboneiddio a fabwysiadwyd gan y Gronfa a thrafododd y Bwrdd yr opsiynau sydd ar gael yn hyn o beth yn y dyfodol.

8.

Ymholiadau ynghylch archwiliadau i'r rheini sy'n gyfrifol am Lywodraethu. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn ceisio briffio'r Bwrdd ar y rheolwyr a'r rheini a oedd yn gyfrifol am ymatebion llywodraethu i ymholiadau archwilio 2020/21.

 

Esboniwyd, yn unol â gofynion statudol, fod Archwilio Cymru wedi amlinellu eu cynllun archwilio i archwilio'r datganiad ariannol a'r dulliau rheoli ariannol cysylltiedig mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2021.  Roedd Archwilio Cymru wedi nodi y byddent yn dechrau eu gwaith maes archwilio yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 6 Medi 2021.

 

Ychwanegwyd, fel rhan o'u gwaith rhagarweiniol, fod Archwilio Cymru wedi gwneud rhai ymholiadau lefel uchel mewn perthynas â'r fframweithiau llywodraethu a rheoli sydd ar waith ac yn weithredol wrth reoli'r Gronfa Bensiwn.  Darparodd Atodiad 1 ymateb rheoli ac ymateb arfaethedig y rheini a oedd yn gyfrifol am Lywodraethu i'r ymholiadau archwilio hynny.

9.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

(Sesiwn Gaeëdig)

10.

Diweddariad ar y Strategaeth Buddsoddi. (Er Gwybodaeth)

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn ceisio briffio'r Bwrdd ar yr awdurdod dirprwyedig cymeradwy ar gyfer y rhaglen ailddyrannu asedau (dadrisgio) gyfredol o ecwitïau i asedau sy'n cynhyrchu, gan nodi'r enillion buddsoddi rhagorol o 31% (Cyfartaledd CPLlL 22%).

 

Cydnabuwyd bod gan y strategaeth arfaethedig risg o ran cyfleoedd cymharol dyladwy os bydd marchnadoedd ecwiti'n parhau i berfformio'n well ond cydnabuwyd ei bod yn ddoeth cyn prisiad tair blynedd 31/3/22.

11.

Sero Net.. (Er Gwybodaeth)

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151, Nick Jellema ac Andre Ranchin, Ymgynghorwyr Buddsoddi, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn ceisio gwerthuso'r goblygiadau o gyflawni portffolio buddsoddi Carbon Sero-Net yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Amlinellwyd bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi cymeradwyo'r fersiwn gyntaf o'i Bolisi Buddsoddi Cyfrifol yn 2017 a bod y fersiynau dilynol wedi nodi gostyngiad o 50% mewn carbon yn ei dargedau ecwiti rhestredig erbyn 2022.  Adroddwyd am y cynnydd yn erbyn y targed hwn wrth Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2020.

 

Ychwanegwyd bod yr Awdurdod Gweinyddu, Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo targed uchelgeisiol o fod yn Garbon Sero-Net fel sefydliad erbyn 2030 a hefyd ar gyfer y ddinas gyfan erbyn 2050.

 

Cytunwyd ar gynnal gweithdy Sero-Net ar y cyd ar gyfer Pwyllgor y Gronfa

Bensiwn a'r Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Hydref 2021.

12.

Rheoli arian. (Er Gwybodaeth)

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn ceisio briffio'r Bwrdd Pensiwn Lleol ar ddefnyddio cronfeydd y farchnad arian/cronfeydd bondiau wrth reoli llifoedd arian parod gwaith y gronfa bensiwn yn effeithiol.

13.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - diweddariad. (Er Gwybodaeth)

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Darparodd Atodiad 1 yr adroddiad cynnydd a diweddaru chwarterol, ynghyd â'r adroddiad blynyddol a ddarparwyd gan awdurdod cynnal Partneriaeth Pensiwn Cymru, Cyngor Sir Gâr a Chynllun Contractiol Awdurdodedig (ACS) The Operator.  Darparodd atodiad 2 lythyr Marchnadoedd Preifat PPC i aelodau'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu.

 

Nodwyd bod y Cynghorydd C E Lloyd, Cadeirydd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Cyd-bwyllgor Llywodraethu PPC. 

14.

Gwarchodaeth a gwasanaethau cysylltiedig. (Er Gwybodaeth)

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad a oedd yn ceisio briffio'r Bwrdd ar yr ymagwedd ar gyfer proses gaffael briodol a phenodiad dilynol i gyfnerthu gwarchodaeth a gwasanaethau cysylltiedig ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, gan gynnwys:

 

a)    Mynediad at fframwaith CPLl Norfolk ar gyfer gwarchodaeth a gwasanaethau cysylltiedig.

b)    Gohirio'r fframwaith gyda'r nod o gyfnerthu darparwr y warchodaeth, yn unol â darpariaeth PPC.

15.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorydd Buddsoddi. (Er Gwybodaeth)

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiad Chwarterol Hymans Robertson.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.  Diolchwyd i'r Ymgynghorwyr Buddsoddi am yr adroddiad.

16.

Crynodeb Buddsoddi. (Er gwybodaeth)

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'Er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021.

 

Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021 yn Atodiad 1.