Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Ian Guy (Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot) yn Gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-2021. Sylwer: - Yn dilyn
cyngor cyfreithiol a'r sefyllfa a achoswyd gan bandemig
COVID-19, cytunodd y Bwrdd i beidio â dilyn ei Gylch Gorchwyl ac ail-benodi'r
Cadeirydd ymadawol. (Bu Ian Guy yn llywyddu) |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y David White (Dinas a Sir Abertawe) yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-2021. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - R Broad – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Mae fy chwaer yn
Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. I Guy – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd A
Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol – personol. Mae fy ngwraig a'm mab
hefyd yn aelodau o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. D White – yr Agenda
yn ei chyfanrwydd - Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac yn aelod o
Fwrdd Awdurdod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - personol. Swyddogion: K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 24 Medi 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cyflwyniad Diweddariad y Strategaeth Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Rhoddodd David
Morton, Hymans Robertson, gyflwyniad a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd am y
strategaeth buddsoddi a gyflwynwyd yn flaenorol yn y cyfarfod ymgynghorol
blynyddol. Roedd y manylion a ddarparwyd
yn cynnwys: - ·
Perfformiad
hyd at fis Medi 2020; ·
Yr
wybodaeth ddiweddaraf am farchnadoedd ac effaith COVID-19; ·
Enillion
marchnad 2020; ·
Ecwitïau:
yr unig ffordd i fyny? ·
Elw
enwol y llywodraeth; ·
Sut
mae'r adferiad yn cymharu â hanes? ·
Siâp
ar bethau i ddod; ·
Y
digwyddiadau anghofiedig.....; ·
Strategaeth
Buddsoddi – Rolau gwahanol ddyraniadau; ·
Esblygiad
tebygol y Strategaeth; ·
Newidiadau
i'r Strategaeth Buddsoddi; ·
Strategaeth
Lleihau Risgiau ·
Rhaglen
diogelu ecwiti ·
Portffolio
asedau go iawn gan gynnwys ynni adnewyddadwy, tai fforddiadwy ·
Buddsoddiad
cyfrifol; ·
Y 12
mis nesaf. Gofynnodd y Bwrdd
gwestiynau i gynrychiolydd Hymans Robertson ynglŷn â'r cyflwyniad, yr
ymatebwyd iddynt yn unol â hynny. Nodwyd bod y
Gronfa wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr oherwydd ei rhaglen diogelu ecwiti. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolydd Hymans Robertson am ddarparu'r cyflwyniad a'r
ymatebion i gwestiynau. Penderfynwyd
ar y canlynol: - 1)
Bydd
cynnwys y cyflwyniad cael ei nodi; 2)
Bydd
y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 yn rhoi gwybod i'r Bwrdd
am ganlyniad y gystadleuaeth. |
|
Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 860 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon –
Dinas a Sir Abertawe a oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau'r archwiliad o
gyfrifon ar gyfer 2019-20. Esboniwyd bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar bob agwedd
ar ein cymdeithas ac roedd yn parhau i wneud hynny. Roedd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i'r cyngor
baratoi cyfrifon ac roedd yn enghraifft o ymrwymiad y tîm cyfrifon bod y cyngor
wedi llwyddo i wneud hynny eleni yn wyneb yr heriau a gafwyd yn sgîl y pandemig hwn. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn hynod
ddiolchgar am broffesiynoldeb y tîm wrth eu cefnogi i gwblhau ein harchwiliad
mewn amgylchiadau mor anodd. Derbyniodd
Swyddfa Archwilio Cymru y datganiad cyfrifon drafft ar 10 Mehefin 2020, fel y
cytunwyd gyda'r Gronfa Bensiwn, a derbyniodd set o gyfrifon ar 2 Medi 2020 yn
dilyn rhai addasiadau gwerthuso asedau. Derbyniwyd y fersiwn hon fel y set
ddrafft o gyfrifon a fyddai'n cael eu harchwilio gan eu bod wedi'u derbyn cyn i
Archwilio Cymru ddechrau ar eu gwaith archwilio. Ychwanegwyd
na nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol a oedd dal heb eu
cywiro. Roedd camddatganiadau yn y
cyfrifon i ddechrau a oedd wedi'u cywiro gan y rheolwyr. Darparwyd y
gwelliannau mwyaf arwyddocaol yn Atodiad 3.
Roedd Arddangosyn 2 yn cynnwys sylwebaeth ar y materion mwy arwyddocaol
y daeth Archwilio Cymru ar eu traws ac y bu'n gweithio gyda'r rheolwyr i'w
datrys. Canmolodd
y cadeirydd Karen Cobb a'i thîm am gwblhau'r cyfrifon a'r archwiliad dilynol yn
llwyddiannus. Penderfynwyd cymeradwyo'r Adroddiad Archwilio
Cyfrifon. |
|
Adroddiad am Doriadau. (Er Gwybodaeth) PDF 347 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A
darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa
Bensiwn ym mis Medi 2020. Amlygwyd
manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. Gofynnodd y Bwrdd
i unrhyw achosion newydd o dorri amodau gael eu hamlygu yn yr adroddiad yn y
dyfodol. Penderfynwyd y byddai unrhyw achosion newydd o dorri
amodau gael eu hamlygu yn yr adroddiad yn y dyfodol. |
|
Gweinyddu Pensiwn - Adolygiad o Adnoddau Gweinyddu Adran Bensiwn. (Er Gwybodaeth) PDF 303 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn arfarnu'r lefelau staffio presennol o fewn y Tîm Gweinyddu Pensiynau,
gyda'r nod o fynd i'r afael â heriau gweinyddu cynlluniau a newidiadau
rheoleiddiol i sicrhau bod rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni. Amlinellwyd manylion y cefndir a heriau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol a darparwyd cynigion adnoddau. |
|
Diwygio Taliadau Ymadael - Ymateb i Ymgynghoriad y Llywodraeth. (Er Gwybodaeth) PDF 260 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu ymateb yr Awdurdod Gweinyddu i ymgynghoriad y Llywodraeth ar Ddiwygio'r
Taliad Ymadael. Esboniwyd bod yr
ymateb, y bu'n rhaid ei ddarparu erbyn 4 Tachwedd 2020, wedi'i anfon ymlaen
gyda chymeradwyaeth Cadeirydd y Pwyllgor a Chadeirydd y Bwrdd Pensiynau Lleol. Darparwyd llythyr y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) yn amlinellu eu safbwynt yn Atodiad 1 a darparwyd ymateb yr Awdurdod Gweinyddu yn Atodiad 2. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan
weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. |
|
Diweddariad am y Strategaeth Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad diweddaru 'er
gwybodaeth' a oedd yn amlinellu cynnydd gweithredu'r strategaeth buddsoddi, a
gymeradwywyd yn flaenorol gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn. Darparodd Atodiad 1 adroddiad i'r cyngor ar 4 Tachwedd 2020 – 'Sut mae'r
Gronfa Bensiwn yn mynd i'r afael â risg newid yn yr hinsawdd yn ei phortffolio
buddsoddi'. |
|
Adroddiad Ymgynghorwyr Buddsoddi. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth', a
gyflwynodd Adroddiad Monitro Buddsoddi Chwarter 3 2020 a ddarparwyd gan yr
Ymgynghorwyr Buddsoddi. Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad. |
|
Crynodeb Buddsoddi. (Er gwybodaeth) Cofnodion: Rhoddodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020 yn Atodiad 1. |