Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - I Guy – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd A Lockyer
– yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol –
personol. Mae fy ngwraig a'm mab hefyd
yn aelodau o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Swyddogion: J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. C Isaac – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol a Chofnod Rhif 64 - Adroddiad Blynyddol 2019/20 - Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Blynyddol 2019/2020. PDF 270 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Adroddiad
Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2019/20. Esboniwyd bod datganiad ariannol drafft
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi'i gyflwyno'n flaenorol i'r Bwrdd
Pensiwn Lleol ym mis Gorffennaf 2020. Roedd y datganiadau ariannol hynny'n cael
eu harchwilio gan Archwilio Cymru ar hyn o bryd a byddai eu crynodeb o SRA 260
yn cael ei gyflwyno ym mhwyllgor nesaf y Bwrdd Pensiwn Lleol ym mis Tachwedd
2020. Darparwyd Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20
yn Atodiad 1. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Esboniad
bod 92% o'r gronfa'n cael ei hariannu a'r diffyg; ·
Buddion
y Gronfa Bensiwn yn cael eu gwarantu gan Statud; ·
Gwella
fformat y datganiad buddion blynyddol; ·
Effaith
bosib y terfyn o £95,000 ac ymateb yr awdurdod i'r ymgynghoriad. Penderfynwyd; - 1)
bod
adroddiad ynghylch gwella fformat y datganiad buddion blynyddol yn cael ei
ddarparu i gyfarfod y Bwrdd yn y dyfodol; 2) bod yr ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch y
taliadau ymadael â therfyn o £95,000 yn cael ei ddosbarthu i'r Bwrdd. |
|
Adroddiad Toriadau. PDF 247 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r
polisi Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2020. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn arfarnu cynnydd yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer yr
ymgynghorwyr buddsoddi penodedig fel sy'n ofynnol gan yr Awdurdod Cystadleuaeth
a Marchnadoedd (CMA). Darparodd yr
adroddiad ofynion CMA, pwysigrwydd yr amcanion, pennu amcanion ar gyfer
ymgynghorwyr, mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio. Darparodd Atodiad 1 Amcanion Perfformiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. |
|
Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - Canlyniadau. PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog S151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
gyflwynodd ganlyniadau Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol. Amlinellwyd bod y
pwyllgor wedi cymeradwyo cynllun hyfforddi'r ymddiriedolwyr ar gyfer Pwyllgor y
Gronfa Bensiwn a'r Bwrdd Pensiwn Lleol yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2020. Yn gynwysedig yn y cynllun hyfforddi oedd argymhelliad
i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd gynnal Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol y Cynllun
Pensiwn Llywodraeth Leol ar-lein a weinyddir gan Hymans Robertson ac roedd gan
yr arolwg gyfradd cyfranogiad gyfunol o 69% ar gyfer y Bwrdd a'r Pwyllgor. Darparwyd
canlyniadau Abertawe yn Atodiad 1 a nodwyd bod sgôr gyfartalog o 63%, gan roi
Abertawe yn y 7ed safle o 18 o gronfeydd gyda'r Pwyllgor ar gyfartaledd o
68.79% a'r Bwrdd ar gyfartaledd o 58.16%.
Darparwyd canlyniadau ar gyfer yr holl ymatebwyr yn Atodiad 2. Ychwanegwyd bod
yr asesiad wedi nodi meysydd penodol lle roedd angen rhywfaint o hyfforddiant
ychwanegol ar yr aelodau, sef Gweinyddu Pensiynau a phrisiad Actiwaraidd.
Gallai'r meysydd hyn felly lywio gofynion hyfforddi yn y dyfodol. Hefyd, nododd yr Aelodau yr hyfforddiant yr
hoffent ei gael yn y dyfodol ar reoli risgiau ac Adran 13. Roedd Hymans
Robertson wedi llunio cynllun hyfforddi awgrymedig gan ddefnyddio'r wybodaeth a
gafwyd o'r asesiad a byddai'n cytuno ar gynllun gweithredu gyda'r Dirprwy Brif
Swyddog Cyllid. Soniodd y Cadeirydd am bwysigrwydd y canlyniadau a oedd yn nodi'r gofynion hyfforddi. |
|
Gwahardd y Cyhoedd. PDF 236 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Bwrdd
wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a
nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y pwyllgor
brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Adroddiad(au) yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' yr
Ymgynghorwyr Buddsoddi Annibynnol, a gyflwynodd Adroddiad Monitro Buddsoddi
Chwarter 2 2020. Soniodd y Bwrdd am y canlyniadau da er gwaethaf y sefyllfa bresennol. |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r adroddiad cynnydd a diweddaru a ddarparwyd gan
weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. Darparodd Atodiad
2 Bolisi Gwrthdaro Buddiannau Drafft PPC, darparodd Atodiad 3 Bolisi Risg
Hinsawdd PPC Drafft ac Atodiad 4 Datganiad Cyfrifon Drafft y PPC 2019/20. Yn y diweddariad
cyfeiriwyd at lansio cyfran 3 y gronfa incwm sefydlog ar ddiwedd mis Gorffennaf
2020, a ohiriwyd tan ddiwedd mis Medi 2020. Dywedodd y Cadeirydd
fod yr hyfforddiant ymgysylltu a ddarparwyd gan y gronfa wedi gwneud argraff
fawr arno. Penderfynwyd bod y Dirprwy Brif Swyddog
Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 yn adrodd am faterion Amgylcheddol, Cymdeithasol a
Llywodraethu sy'n ymwneud â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mewn cyfarfod yn
y dyfodol. |
|
Crynodeb Buddsoddi. Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd
yn cynnwys y perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3
blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020. Atodwyd crynodebau buddsoddi chwarterol y Gronfa Bensiwn ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020 yn Atodiad 1. |