Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol is-gadeirydd am weddill y flwyddyn ddinesig 2019-2020. Cofnodion: Penderfynwyd penodi'r Cynghorydd M B Lewis yn
Is-gadeirydd am weddill flwyddyn ddinesig 2019-2020. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - I Guy – Yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. D White – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Y Cynghorydd M B
Lewis - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol - personol. Swyddogion: J Dong – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. K Cobb – yr agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr
agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol –
personol. A Lowe – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Archwilio 2020 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. (Er gwybodaeth) PDF 325 KB Cofnodion: Cyn cyflwyno eitem y Cynllun Archwilio,
darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 y
diweddariadau canlynol: ·
Soniodd am y datblygiadau diweddar ar lefel
cynllun cenedlaethol a sut roedd yr adran Gweinyddu Pensiynau wedi ymdopi yn
ystod argyfwng COVID-19 wrth ymdrin ag
aelodau presennol cynllun y gronfa bensiwn, yn ogystal ag aelodau gohiriedig ac
aelodau gweithredol. Gofynnodd
y Cadeirydd, ar ran y Bwrdd, am roi diolch i’r holl staff sy'n sicrhau bod y
gwaith yn mynd rhagddo yn ystod y cyfnod anodd hwn. ·
Yn y cyfnod dros dro ers y cyfarfod diwethaf,
cyhoeddodd y Llywodraeth ymgynghoriad a oedd yn ceisio barn ar gynigion ar
gyfer mynd i'r afael â'r gwahaniaethu a nodwyd yn McLoud
er mwyn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hanesyddol rhwng y rhywiau wrth gael
mynediad at eu pensiynau. Roedd yr ymgynghoriad ar gael tan 18 Hydref 2020 ac
mae'n debygol y byddai sylwadau Abertawe yn cael eu cynnwys fel rhan o ymateb
Partneriaeth Pensiwn Cymru. Roedd
y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 wedi sicrhau'r bwrdd y
byddent yn cael gweld yr ymateb drafft a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn
ym mis Medi. ·
Ar 21 Gorffennaf 2020 ymatebodd y Llywodraeth
i ymgynghoriad agored mewn perthynas â chyfyngu taliadau gadael yn y sector
cyhoeddus. Cyflwynodd Abertawe ei sylwadau fel rhan o ymateb Partneriaeth
Pensiwn Cymru ar y cyd. Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog
Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 Gynllun Archwilio 2020 Swyddfa Archwilio Cymru
(SAC) a oedd yn nodi'r gwaith archwilio arfaethedig, pryd y byddai'n cael ei
wneud, faint y byddai'n ei gostio a phwy byddai'n ei wneud. Roedd Atodiad 1 yn nodi cyfrifoldebau'r
archwilydd, ynghyd â rhai'r rheolwyr a'r sawl sy'n
gyfrifol am lywodraethu. Roedd Arddangosyn 1 yn darparu tri cham y
dull archwilio, roedd Arddangosyn 2 yn amlinellu'r risgiau archwilio
ariannol. Nodwyd y ffi archwilio arfaethedig ar gyfer y gwaith hwn
yn Arddangosyn 3 a darparwyd yr amserlen ar gyfer yr archwiliadau arfaethedig
yn Arddangosyn 5. |
|
Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe Datganiad Strategaeth Ariannu Drafft. (Er gwybodaeth) PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
i sicrhau cydymffurfiad â Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol sy'n
gofyn am ddatganiad strategaeth ariannu. Prif bwrpas y Datganiad Strategaeth Ariannu oedd amlinellu'r prosesau a
ddefnyddir gan yr awdurdod gweinyddu i: ·
sefydlu strategaeth ariannu
glir a thryloyw, sy'n benodol i'r Gronfa, a fyddai'n nodi sut y gellid bodloni
rhwymedigaethau pensiwn cyflogwr; ·
gefnogi'r gofyniad rheoliadol
mewn perthynas â dymunoldeb cynnal cyfradd cyfraniadau sylfaenol sydd mor gyson
â phosib; ·
sicrhau bod y gofynion rheoliadol i
bennu cyfraniadau er mwyn sicrhau diddyledrwydd a chost effeithlonrwydd tymor
hir y Gronfa'n cael eu bodloni; ·
ystyried ariannu
rhwymedigaethau'r Gronfa'n ochelgar yn y tymor hwy. |
|
Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2020/21. (Er gwybodaeth) PDF 396 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a
Sir Abertawe 2020/21 er mwyn darparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen
waith 2020/21 y Gronfa Bensiwn. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn amlinellu'r rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer aelodau Pwyllgor
y Gronfa Bensiwn, Aelodau'r Bwrdd Pensiwn Lleol a swyddogion y Gronfa Bensiwn. Trafododd y Bwrdd ganlyniadau'r Asesiad
Gwybodaeth Cenedlaethol ar-lein (NKA), ynghyd ag amrywiaeth o asesiadau a
gweminarau ar-lein eraill a ddarparwyd gan Hymans Robinson. Byddai'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 yn darparu adroddiad o ganlyniadau dienw ar yr Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd Pensiwn Lleol. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2019/20. (Er Gwybodaeth) PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151
adroddiad 'er gwybodaeth', a oedd yn amlinellu'r datganiad o gyfrifon drafft ar
gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20. Ychwanegwyd bod swyddogion wedi cyflwyno datganiad
drafft o gyfrifon wedi'i gwblhau yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni. Roedd
Archwilio Cymru wedi nodi na fyddent yn dechrau eu harchwiliad o Ddatganiad o
Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20 tan fis Medi 2020,
oherwydd ymyrraeth argyfwng COVID-19, ac nid oedd hyn yn unol â'u cynllun archwilio
a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach yn y flwyddyn. Fodd
bynnag, byddai’n dal i fod yn unol â therfynau amser statudol Caiff eu
hadroddiad ei gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar ddiwedd yr archwiliad yn
ddiweddarach yn y flwyddyn. Darparwyd Datganiad o Gyfrifon Drafft 2019/20 yn Atodiad 1. |
|
Twyll a Sicrwydd i Bartïon Perthynol. (Er Gwybodaeth) PDF 218 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151
adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi'r Datgeliad Twyll a Phartïon Perthynol
ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20. Amlinellwyd, fel rhan o archwiliad statudol Archwilio Cymru o ddatganiad o
gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, fod gofyn iddynt ganfod sut roedd
Uwch-reolwyr yn goruchwylio ac yn rheoli cyfres o faterion a oedd yn ymwneud â
phartïon perthynol, rheolaeth ariannol a rheoli twyll Yn Atodiad 1, atodwyd datgeliad twyll a phartïon perthynol yr uwch-reolwyr ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20. |
|
Toriadau. (Er gwybodaeth) PDF 325 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi
Adrodd am Doriadau. Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers y cyfarfod blaenorol ym mis Chwefror 2020. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Cynllun Busnes. (Er gwybodaeth) PDF 284 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er
gwybodaeth', a oedd yn amlinellu Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru
(PPC) 2020. Darparwyd cynllun
busnes PPC yn Atodiad 1. Roedd y cynllun yn manylu ar flaenoriaethau a meysydd
ffocws PPC ar gyfer 2020/21, 2021/22 a 2022/23 ac fe'i cymeradwywyd gan
Gyd-bwyllgor Llywodraethu PPC ar 12 Mawrth 2020. Ychwanegwyd bod y Cynllun
Busnes yn cael ei fonitro'n gyson a chaiff ei adolygu'n ffurfiol a'i gytuno bob
blwyddyn. Esboniwyd mai
diben y cynllun busnes oedd: ·
Esbonio
cefndir a strwythur llywodraethu'r PPC; ·
Amlinellu
blaenoriaethau ac amcanion y PPC dros y tair blynedd nesaf; ·
Cyflwyno
polisïau a chynlluniau'r PPC; ·
Amlinellu'r
gyllideb ariannol ar gyfer y cyfnod Cynllun Busnes perthnasol; ·
Crynhoi
Buddsoddiadau ac Amcanion Perfformiad PPC. Roedd y Bwrdd Pensiwn Lleol yn cefnogi'r ymagwedd a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn llawn, gan gynnwys yr ymagwedd o gynnwys aelodau'n fwy yn y PPC. |
|
Hyfforddiant Rathbone. (Er gwybodaeth) PDF 284 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn hysbysu'r Bwrdd o statws un o gyflogwyr ei gorff cydnabyddedig. Amlinellwyd bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi cymeradwyo derbyn Rathbone Training
ym mis Medi 2015 a mis Rhagfyr 2015 fel cyflogwr o’r corff cydnabyddedig mewn
perthynas â 7 o weithwyr a gyflogwyd yn flaenorol gan Goleg Gŵyr (4) a
Chyngor Abertawe (3) (y ddau yn gyflogwyr cofrestredig â Chronfa Bensiwn Dinas
a Sir Abertawe). Fel gofyniad ar gyfer derbyn, roedd yn rhaid i Rathbone Training ymrwymo i
gytundeb derbyn rhwymol, ac roedd yn ofynnol i Goleg Gŵyr a Choleg
Abertawe ddarparu gwarantiadau noddi'r cyflogwr mewn perthynas ag unrhyw
amddifadu neu unrhyw rwymedigaethau eraill sy'n weddill pe bai cyflogwr yn
methu. Derbyniwyd hysbysiad ym mis Mai 2020 fod Rathbone
Training wedi datgan diddymiad gwirfoddol gan
gredydwyr. Ym mis Mai 2020, o'r 7 aelod a nodwyd, roedd 2 yn bensiynwyr, roedd
3 yn aelodau gohiriedig ac roedd 2 wedi trosglwyddo budd-daliadau. Felly, nid
oedd unrhyw aelodau gweithredol presennol mewn perthynas â Rathbone
Training. Ychwanegwyd bod anfonebau yn ddyledus i Rathbone
Training, fel a ganlyn: - ·
£69,048 (costau mynediad cynnar mewn perthynas â
chyn-weithwyr Coleg Gŵyr a chostau actiwaraidd a
ailgodir ar Goleg Gŵyr); ·
£2,050 (costau actiwaraidd a
ailgodir ar gyngor Abertawe) Roedd y rhain yn cael eu datblygu gyda'r gweinyddwyr penodedig, Begbies Traynor. Roedd actiwari'r gronfa a benodwyd, AON, wedi cael ei hysbysu ac
roedd yn ymgymryd â'r prisiad statudol gofynnol ar gyfer ymadael mewn perthynas
â'r cyflogwr, Rathbone. Bydd y gweinyddwyr yn
adennill unrhyw rwymedigaethau sy'n weddill gan y cyflogwyr sy'n noddi, sef
Coleg Gŵyr a Chyngor Abertawe, yn unol â'r cytundeb derbyn. |
|
Adnoddau'r Awdurdod Gweinyddol. (Er gwybodaeth) PDF 138 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn amlinellu'r diwygiadau o ran adnoddau. Darparodd yr
adroddiad fanylion yr ailstrwythuro ariannol a roddwyd ar waith ym mis Mehefin
2020 a'r ailstrwythuro/ailraddio arfaethedig ar gyfer gweinyddu pensiynau a
buddsoddiadau a chyfrifyddu pensiynau. Cadarnhawyd y byddai'r rolau yn amodol ar adolygiad Gwerthuso Swyddi. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/argymhellion yr
adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig
fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywio) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au)
f/busnes a nodir yn yr adroddiad. Ystyriodd y
pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn
berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Prisiad Tair Blynedd. (Er gwybodaeth) Cofnodion: Amlinellodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a
gyflwynwyd gyntaf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 13 Mawrth 2020, i sicrhau
cydymffurfiaeth â Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Llywodraeth Leol, sy'n mandadu
cynnal prisiad actiwaraidd teirblwyddol llawn. |
|
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Diweddariad. (Er Gwybodaeth) Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth
Pensiwn Cymru. Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd
gan weithredwr y Cynllun Cytundebol Awdurdodedig, Link Asset Services. Darparodd Atodiad
2 Bolisi Gwrthdaro Buddiannau Drafft PPC, darparodd Atodiad 3 Bolisi Risg
Hinsawdd PPC Drafft ac Atodiad 4 Datganiad Cyfrifon Drafft y PPC 2019/20. Yn y diweddariad
cyfeiriwyd at lansio cronfa incwm sefydlog cyfran 3 ar ddiwedd mis Gorffennaf
2020. Roedd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe yn paratoi ar gyfer y cyfnod
pontio hwn. |
|
Rhoi'r Strategaeth Buddsoddi ar Waith - Diweddariad. Cofnodion: Rhoddodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 drosolwg o gynnydd y strategaeth
fuddsoddi a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Mawrth 2019. |
|
Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi. (Er gwybodaeth) Cofnodion: Rhoddodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 drosolwg o'r adroddiad
'er gwybodaeth', a oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 1
2020. |