Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

Y Cynghorydd A Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.  Mae fy ngwraig a'm mab hefyd yn aelodau o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

D White – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

Y Cynghorydd T M White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac mae fy merch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

C Isaac – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse - yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a Chofnod Rhif 6 - Datganiad o Gyfrifon Drafft 2018/19 - Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - personol.

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 260 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

Nodwyd - Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Gwobrau Buddsoddiadau CPALl 2019 diweddar, lle enillodd y Gronfa Bensiwn y wobr am y Cynllun Llywodraeth Leol Orau yn y DU ar gyfer yr Ymagwedd Orau at Fuddsoddi'n Gynaliadwy.  Mae'r wobr yn dilyn gwaith i leihau ôl troed carbon y Gronfa trwy dorri swm yr arian a fuddsoddir mewn cwmnïau â dwysedd carbon uchel.

18.

Cyflwyniad - Gwrthryfel Difodiant.

Cofnodion:

Esboniodd y Cadeirydd nad oedd tîm dadfuddsoddi Extinction Rebellion ar gael ar gyfer y cyfarfod.

 

Penderfynwyd gohirio'r eitem tan y cyfarfod nesaf a drefnir ar gyfer

12 Rhagfyr 2019.

19.

Adroddiad ISA 260. pdf eicon PDF 317 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Williams, Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), adroddiad SRA 260 a oedd yn nodi materion i'w hystyried a oedd yn codi o'r archwiliad o ddatganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2018-19 yr oedd angen adrodd amdanynt dan SRA 260.

 

Canmolodd SAC Dîm Ariannol yr awdurdod a nododd ei fod wedi derbyn datganiadau o gyfrifon drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019 ar 21 Mai 2019 a oedd cyn y dyddiad terfynol y cytunwyd arno sef 3 Mehefin 2019.

 

Ychwanegwyd mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwiliad anghymwys ar y datganiadau ariannol wedi i'r awdurdod ddarparu sylwadau a oedd yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2.

 

Esboniwyd na nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y datganiadau ariannol a oedd dal heb eu cywiro.  Atodwyd y camddatganiadau a gywirwyd gan y rheolwyr yn Atodiad 3.  Gwnaed cyfeiriad hefyd at Nodyn 18 - Datganiad o Actiwari a ddiwygiwyd i gynnwys datgeliadau a oedd yn ymwneud â dau ddyfarniad cyfreithiol diweddar.

 

Nid oedd gan yr Archwilwyr unrhyw bryderon ynghylch agweddau ansoddol arferion cyfrifo ac adrodd ariannol, ni ddaethant ar draws unrhyw anawsterau sylweddol yn ystod yr archwiliad, nid oedd angen adrodd am unrhyw faterion arwyddocaol a oedd wedi'u trafod â rheolwyr neu a ohebwyd yn eu cylch, nid oedd unrhyw faterion arwyddocaol eraill yn yr arolygiaeth o'r broses adrodd ariannol yr oedd angen adrodd amdanynt, nid oedd unrhyw wendidau mewn perthynas â rheoliadau mewnol ac nid oedd unrhyw faterion eraill i adrodd amdanynt.

 

Darparwyd yr argymhellion sy'n codi o'r archwiliad ariannol yn Atodiad 4.  Roedd y rheolwyr wedi ymateb iddynt a byddai cynnydd yn cael ei fonitro yn ystod archwiliad 2019-20.  Amlygwyd y gellid gwella dulliau rheoli cysyniadau diwedd blwyddyn rhwng y systemau pensiwn a chyflogres.

 

Trafododd y Bwrdd y cyrff rhestredig, yn enwedig adroddiadau aelodau i-Connect, ansawdd y data, diffyg adnoddau cyrff llai, yr angen i adrodd yn gywir a goblygiadau dyfarniadau McCloud/Lleiafsymiau Pensiynau Gwarantedig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr SAC am ddarparu'r adroddiad a diolchodd i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/ Dirprwy Swyddog A151 a'r Uwch-gyfrifydd am eu gwaith a gwaith y staff cyllid ar y cyfrifon.

 

Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi.

20.

Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2018-19 - Ymholiadau Archwilio i'r Rhai sy'n Gyfrifol am Lywodraethu a Rheoli. pdf eicon PDF 376 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, lythyr Ymholiadau Archwiliad i'r Rheini â Chyfrifoldeb Dros Lywodraethu a Rheoli i'r Swyddog Adran 151.  Roedd y llythyr yn gofyn am farn yr awdurdod am feysydd penodol o lywodraethu i gynorthwyo SAC i ddeall y Gronfa Bensiwn a'i phrosesau busnes wrth gefnogi ei gwaith i ddarparu barn archwilio am ddatganiadau ariannol 2018-19.

 

Darparwyd yr ymatebion a ddarparwyd gan yr awdurdod ar gyfer 2017-18 hefyd a gofynnwyd am ddiweddariad ar gyfer trefniadau 2018-19.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys y llythyr.

21.

Datganiad o Gyfrifon 2018/19 - Dinas a Sir Abertawe Cronfa Pensiwn. pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar gyfer 2018/19 'er gwybodaeth' a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 12 Medi 2019.

 

Ychwanegwyd y rhoddwyd awdurdod dirprwyedig i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn gymeradwyo Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ac mae'r Bwrdd Pensiwn Lleol eisoes wedi derbyn a thrafod y Datganiad o Gyfrifon Drafft.

 

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cwblhau ei harchwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2018/19 yn unol â'i chynllun archwilio a gyflwynwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn gynharach eleni.  Darparwyd Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1.

22.

Trosglwyddo Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol Equitable Life. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi gwybod i'r pwyllgor am drosglwyddiad arfaethedig asedau etifeddiaeth Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol a reolir gan Equitable Life i Utmost Life and Pension (Reliance Life gynt) a chyfathrebu parhaus ag aelodau yr effeithir arnynt.

 

Esboniwyd bod Equitable Life wedi'u penodi'n ddarparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol o 1992 i 2001 ac felly mae gan 78 o aelodau Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe (gweithredol ac wedi'u gohirio) bolisïau sy'n gwneud cyfanswm o £238,000 ar 31 Mawrth 2019.  Mae gan 19 o bensiynwyr bolisïau sy'n talu ar hyn o bryd.  Roedd Equitable Life yn trosglwyddo'i holl fusnes i Utmost Life and Pension (Reliance Life gynt).

Mae Equitable Life wedi cysylltu â'r aelodau yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ac roedd yr Awdurdod Gweinyddu hefyd wedi ysgrifennu at yr aelodau yr effeithiwyd arnynt yn amlinellu'r cynigion gan amlygu rhai o'r risgiau, penderfyniadau ac ystyriaethau.  Darparwyd hyn yn Atodiad 1.

Gofynnwyd hefyd i'r Awdurdod Gweinyddu, fel deiliaid polisi'r cynllun, gymeradwyo'r 'cynllun' ac i 'newid yr erthyglau' er mwyn nodi Utmost Life and Pension (Reliance Life gynt) fel unig aelod Equitable Life ac roeddent yn gallu gwrthwynebu trosglwyddo busnes Equitable Life i Utmost Life and Pensions.

 

Trafododd y Bwrdd y cynnydd deniadol posib, ac roedd yr ohebiaeth a anfonwyd at yr aelodau'n eu hysbysu'n llawn am oblygiadau'r newid, y broses benderfynu a'r ymatebion a dderbyniwyd gan aelodau.

23.

Adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. pdf eicon PDF 383 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor ar ofynion arfaethedig i bennu amcanion mesuradwy ar gyfer ymgynghorwyr buddsoddi penodedig.

 

Darparodd yr adroddiad y gofynion ac roedd yn nodi pwysigrwydd yr amcanion, yn pennu amcanion ar gyfer ymgynghorwyr, yn mesur llwyddiant mewn arfer ac adrodd am gydymffurfio.

 

Ychwanegwyd y dylai Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn bennu amcanion ar gyfer eu hymgynghorwyr erbyn 10 Rhagfyr 2019 fan bellaf.  Byddai'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 yn datblygu amcanion drafft ar gyfer yr ymgynghorwyr buddsoddi penodedig ac yn adrodd am y rhain yng nghyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y syniad yn wych ac y byddai'n aros am ddiweddariad arall i'r Bwrdd.

24.

System Weinyddu Altair. pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi'r broses o drosglwyddo system gweinyddu pensiynau Aquila Heywood Altair o fod yn system sy'n dibynnu ar weinydd i fod yn system ar gwmwl.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe wedi bod yn defnyddio system feddalwedd LGPS Altair Aquila Heywood ers 2010. Roedd meddalwedd LGPS Altair Aquila yn cael ei defnyddio gan fwy na 90% o gronfeydd pensiwn llywodraeth leol y DU. Ar hyn o bryd mae 2 gyflenwr arall â llond llaw o gleientiaid yr un yn unig.

 

Ar hyn o bryd, mae'r feddalwedd a'r data'n cael eu cadw mewn pecyn meddalwedd traddodiadol ar weinydd ffisegol ar wefan Cyngor Abertawe. Dyletswydd yr awdurdod gweinyddu (Cyngor Abertawe) yw cynnal y system a sicrhau bod y system yn gweithredu, yn ogystal â phrofi'r holl ddiweddariadau/welliannau a'u rhoi ar waith yn ôl y galw.

 

Byddai angen uwchraddio fersiwn gyfredol Altair o fewn y 6 mis nesaf, a fyddai'n golygu uwchraddio a throsglwyddo i weinydd newydd ac roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi bod yr angen am uwchraddio gweinydd yn risg gyfundrefnol.  Roedd Cyngor Abertawe hefyd yn cynnal adolygiad corfforaethol o sut mae'n cyflwyno ei wasanaethau TGCh mwyaf i'w gleientiaid ac roedd yn aros am adroddiad ym mis Medi 2019 a fyddai'n argymell symud ei system Oracle o fodel ar weinydd, fel y mae ar hyn o bryd, i fod ar gwmwl.

 

Cyflwynodd Aquila Heywood gynnig ar ffurf achos busnes a chynllun mudo, a ddarparwyd yn Atodiad 1, i fudo'r feddalwedd bresennol sydd ar y gweinydd i system ar gwmwl, gan gynnwys uwchraddio i'r fersiwn 10 newydd.  Amlinellwyd buddion a chostau posib y mudo'n llawn.

 

Gofynnodd y Bwrdd am fanylion pellach ynghylch y cyngor technegol ychwanegol a ddarparwyd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn hyn o beth.

 

Penderfynwyd y byddai manylion pellach y cyngor technegol yn cael eu dosbarthu i'r Bwrdd.

25.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 282 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Gorffennaf 2019.  Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

26.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

(Sesiwn Gaeëdig)

27.

Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd rhannu asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r cynnydd a'r adroddiad diweddaru a ddarparwyd gan weithredwr y Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA), Link Asset Services. 

 

Yn y diweddariad cyfeiriwyd at y bwriad i gymeradwyo cronfa incwm sefydlog cyfran 3 gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn ystod chwarter 4 2019. Yn ogystal, roedd y Gweithgor Swyddogion wedi creu is-grŵp a oedd yn cynnwys ymarferwyr i ddatblygu cyfran 4 - marchnadoedd preifat.

 

Trafododd y Bwrdd ofynion hyfforddiant yn y dyfodol a throsglwyddo asedau i Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

28.

Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' ar ran Hymans Robertson, a oedd yn cyflwyno Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 2 2019.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y Bwrdd a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.