Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

58.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: -

 

I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

Y Cynghorydd A Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Mae fy ngwraig a'm mab hefyd yn aelodau o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Y Cynghorydd T M White – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Swyddogion:

 

Datganodd K Cobb, J Dong, C Isaac a J Parkhouse gysylltiadau personol fel aelodau o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

59.

Cofnodion. pdf eicon PDF 125 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2018 a 24 Ionawr 2019 fel cofnod cywir.

 

Cofnod Rhif 36 - Adroddiad SRA 260 – Nodwyd y byddai'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid Dros Dro a Dirprwy Swyddog Adran 151 ac Ian Guy, Cynrychiolydd Aelodau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yn dosbarthu'r cylchlythyr i amlygu'r enwebiadau grant marwolaeth i aelodau'r gronfa.

60.

Adroddiad Adolygu Dulliau Rheoli Mewnol. pdf eicon PDF 160 KB

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid Dros Dro a Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad "er gwybodaeth" i hysbysu Pwyllgor y Gronfa Bensiwn am eitemau adroddadwy a gynhwysir mewn adroddiadau ar ddulliau rheoli mewnol rheolwyr penodedig y gronfa.

 

Atodwyd crynodeb o'r eithriadau ar gyfer y flwyddyn galendr ddiwethaf yn Atodiad 1 ar gyfer rheolwyr penodedig y gronfa a cheidwad Dinas a Sir Abertawe.

 

Ychwanegwyd nad oedd unrhyw feysydd pryder sylweddol.

 

Holodd y bwrdd ynghylch mynediad at dechnoleg gwybodaeth ac amlygwyd yr wybodaeth a ddarparwyd yn Atodiad 1, a sicrhaodd fod y maes yn cael ei brofi.

61.

Gweinyddu Disgresiwn yr Awdurdod. pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro gyflwyniad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi pob disgresiwn a gymeradwywyd sydd ar gael i Awdurdod Gweinyddu Dinas a Sir Abertawe dan y Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol perthnasol. Gwnaed hyn i sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Darparwyd rhestr o bob disgresiwn y mae'r Awdurdod Gweinyddu yn ei ddefnyddio, neu y mae'n dewis peidio â'i ddefnyddio yn Atodiad A. Amlygwyd pob disgresiwn newydd a phob disgresiwn a adolygwyd oherwydd rhoi adolygiadau ar waith er hwylustod cyfeirio atynt.

 

Ychwanegwyd na fyddai angen cyhoeddi pob disgresiwn. Fodd bynnag, y bwriad oedd cyhoeddi'r penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â phob disgresiwn sydd ar gael. Bydd pob disgresiwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Gronfa Bensiwn a bydd yn cael ei ddosbarthu i gyflogwyr sy'n cyfrannu at y gronfa.

 

Ar ben hynny, er bod y rhestr o ddisgresiynau'n amlinellu'r sefyllfa gyffredinol, roedd angen i'r cyngor ystyried pob cais yn ôl ei deilyngdod a gall fod yn groes i'r rhestr mewn amgylchiadau arbennig neu gyfiawnadwy.

 

Mae'r rheoliadau hefyd yn gofyn i gyflogwyr sy'n cyfrannu at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) lunio, cyhoeddi ac adolygu rhannau o'r cynllun lle gallant ddefnyddio'u disgresiwn. Mae'r Adran Pensiynau'n gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau y cydymffurfir â hyn.

 

Trafododd y bwrdd y canlynol: -

 

·         diffiniad 'cyflogwyd mewn cysylltiad â' ac 

·         a fyddai effaith ar is-gontractwyr;

·         Yr amrywiadau ar gyfer aelodau sy'n codi budd-daliadau ar sail dosturiol, gweithdrefnau'r awdurdod ar gyfer ymdrin â cheisiadau a phosibilrwydd ehangu'r geiriau.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai'r Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro ystyried ehangu'r geiriau mewn perthynas ag aelodau sy'n codi budd-daliadau ar sail dosturiol.

 

 

62.

Cais Corff Derbyn - Parkwood Leisure. pdf eicon PDF 49 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn nodi cymeradwyaeth cais y corff derbyn ar gyfer Parkwood Group er mwyn sicrhau y cydymffurfir â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013 (fel y'u diwygiwyd).

 

Amlinellwyd bod yr awdurdod wedi gweithredu ymarfer caffael, a rhoddwyd contract i Parkwood Group i gynnal Plantasia o ganlyniad. Byddai'r cwmni'n gyfrifol am weithredu'r cyfleuster hamdden a byddai hyn yn cynnwys y gweithrediadau o ddydd i ddydd, staffio, gwasanaethau cwsmeriaid, iechyd a diogelwch a marchnata'r cyfleusterau. Penderfynwyd bod y gwasanaethau hyn yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer statws corff derbyniedig dan y Rheoliadau CPLlL. Dechreuodd y contract ar gyfer gwasanaethau ar 1 Chwefror 2019.

 

Ar ben hynny, dan amodau'r contract, trosglwyddwyd y gweithlu presennol dan drefniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) o'r cyflogwr presennol, Dinas a Sir Abertawe, i Parkwood Group. Er mwyn cadw hawliau pensiwn y staff a drosglwyddir, cynigiwyd hefyd roi statws corff derbyniedig i Parkwood Group yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a chymeradwywyd y cytundeb derbyn ar sail cynllun caeëdig, a fydd yn cynnwys y staff a enwir yn atodlen 1 y cytundeb derbyn yn unig.

 

63.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Darparodd Atodiad A fanylion am y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd 2018. Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr.

64.

Cyngor a Sir Abertawe Cynllun Busnes 2019/20. pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' am Gynllun Busnes Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2019/20 er mwyn darparu fframwaith gweithredol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2019/20. Atodwyd y Cynllun Busnes ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1.

 

 

65.

Gweinidog dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Arweiniad Drafft ar Gronni Asedau. pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi'r ymateb ar y cyd gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a Phartneriaeth Pensiwn Cymru i ymgynghoriad MHCLG ar Gronni Asedau CPLlL.

 

Dosbarthwyd arweiniad drafft Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) ar rai egwyddorion cronni ar gyfer ymgynghoriad yn Atodiad 1.

 

Ychwanegwyd bod ymgynghorwyr penodedig y Gronfa Bensiwn, a gynghorodd nifer mawr o gronfeydd CPLlL, wedi gwerthuso'r arweiniad, wedi gwneud rhai arsylwadau ac wedi darparu adborth i'w cleientiaid. Darparwyd hyn yn Atodiad 2. Darparwyd yr ymateb drafft cyntaf i'r ymgynghoriad ar arweiniad cronni drafft yn Atodiad 3.  Adroddodd hefyd am gais a gyflwynwyd yn hwyr gan Gyngor Sir Gwynedd.

 

Trafododd y bwrdd yr ymateb drafft yn fanwl ac amlinellwyd diwygiadau/ychwanegiadau a awgrymwyd.

 

Penderfynwyd:   -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2)    Y dylai'r Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro gyflwyno ymateb diwygiedig fel a drafodwyd yng nghyfarfod y Bwrdd.

66.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

67.

Y Diweddaraf am Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu cynnydd gwaith cronni asedau Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Atodwyd yr adroddiad cynnydd a diweddariad ddarparwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) i'r Gweinidog dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), ym mis Hydref 2018.

68.

Polisi Benthyca Stoc Partneriaeth Pensiwn Cymru (PCC).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn nodi rhaglen benthyca stoc Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe eisoes wedi cymeradwyo polisi benthyca stoc fel rhan o'i phortffolio gyda'r bwriad o gynyddu incwm buddsoddi. Oherwydd trosglwyddiad arfaethedig (o'r mwyafrif) o'r asedau a restrir i Gronfa CCA Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), roedd angen llunio a chymeradwyo Polisi/Rhaglen Benthyca Stoc ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Amlygwyd manteision benthyca stoc yn Atodiad 1. Darparwyd y rhaglen benthyca stoc arfaethedig ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Atodiad 2.

69.

Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Incwm Sefydlog Cyfran 3.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad a oedd yn nodi strwythur is-gronfa cyfran 3 (incwm sefydlog) Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Eglurwyd y trefnwyd i is-gronfeydd cyfran 3 fod yn is-gronfeydd incwm sefydlog gweithredol. Ar ôl sawl mis o waith llunio ac ystyried yr is-gronfa gan yr 8 cronfa sy'n aelodau, ar y cyd â'u hymgynghorwyr, Russell, roeddent wedi datblygu'r strwythur a argymhellir i'w gymeradwyo. Darparodd Atodiad 1 y strwythur is-gronfa arfaethedig ar gyfer cyfran 3, incwm sefydlog.

70.

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Annibynnol.

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r buddsoddiad chwarterol a diweddariad Hymans Robertson, yr ymgynghorwyr buddsoddi penodedig i'r gronfa am y farchnad, gan gynnwys papur diweddaru ar y rhaglen diogelu ecwiti.

 

Darparwyd y papur rhoi strategaeth buddsoddi ar waith yn Atodiad 1, y Diweddariad Diogelu Ecwiti yn Atodiad 2 a'r Adroddiad am Fuddsoddiadau Chwarterol gan Hymans Robertson yn Atodiad 3.

71.

Diogelu Ecwiti - Dewis Rheolwr.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Adran 151 Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi penodi'r rheolwr diogelu ecwiti.

 

Amlinellwyd bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi cymeradwyo rhaglen lleihau risgiau fel rhan o'i bortffolio marchnadoedd ecwiti yn ystod ei adolygiad o'r strategaeth buddsoddi ym mis Mawrth 2018. Nod strategol y rhaglen lleihau risgiau oedd lleihau cyfran y gronfa a fuddsoddir mewn stociau a chyfrannau wrth gynyddu arallgyfeirio i gynyddu asedau go iawn (eiddo, ecwiti preifat ac isadeiledd).

 

Cymeradwywyd rhoi rhaglen diogelu ecwiti ar waith gan y pwyllgor (Medi 2018) sy'n ymwneud â'r rhan o'r portffolio na fyddai'n cael ei buddsoddi mwyach mewn ecwitïau (i'w hailfuddsoddi mewn asedau go iawn). Fel parhad o'r broses hon, penodwyd Rheolwr Diogelu Ecwiti gan y pwyllgor.