Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

32.

Ethol Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Alan Lockyer (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

(Bu'r Cynghorydd A Lockyer yn llywyddu)</AI1>

 

33.

Ethol is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2018-2019.

Cofnodion:

Penderfynwyd ethol Ian Guy yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2018-2019.

 

34.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: -

 

I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

Y Cyng. A Lockyer – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.  Mae fy ngwraig a fy mab hefyd yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Y Cynghorydd T M White - yr agenda yn ei chyfanrwydd - aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - personol.

 

Swyddogion:

 

K Cobb – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Dong – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

C Isaac – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

J Parkhouse – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Cofnod Rhif 37 – Datganiad o Gyfrifon Drafft 2017/18 a Chofnod Rhif 38 – Adroddiad Blynyddol 2017/18 - Clerc Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf – personol.

 

35.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 30 Ebrill, 26 Gorffennaf a 27 Medi 2018 fel cofnodion cywir.

36.

Adroddiad ISA 260. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Yn absenoldeb Swyddfa Archwilio Cymru, cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r materion a gododd o'r archwiliad o ddatganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18, yr oedd angen adrodd amdanynt yn unol â Safon Ryngwladol ar Archwilio 260.

 

Amlinellwyd mai swm yr asedau gros a reolir gan y Gronfa Bensiwn yw £1.9 biliwn.  Barnwyd bod lefelau meintiol camddatganiadau'r Gronfa Bensiwn gwerth £19.1 miliwn.  Amlinellodd yr adroddiad y materion sy'n codi ar ôl archwilio cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017-18. 

 

Derbyniwyd y cyfriflenni ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2018 ar 25 Mai 2018, cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2018.  Roedd Swyddfa Archwilio Cymru'n adrodd am y materion mwy sylweddol a gododd o'r archwiliad, ac roeddent o'r farn bod angen ystyried y rhain cyn cymeradwyo'r datganiadau ariannol.  Trafodwyd y materion hyn eisoes â Swyddog Adran 151.

 

Bwriad yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwiliad anghymwys am y cyfriflenni ariannol wedi i'r awdurdod ddarparu llythyr cynrychioliadau sy'n seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2.

 

Ychwanegwyd na nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y cyfriflenni ariannol a oedd yn dal i fod yn ddiffygiol.  Roedd nifer o gamddatganiadau a oedd wedi'u cywiro gan reolwyr ond roedd yr archwilwyr o'r farn y dylid tynnu ein sylw atynt oherwydd eu perthnasedd i gyfrifoldebau'r awdurdod lleol dros y broses adrodd ariannol.

 

Nodwyd y rhain gyda'r esboniadau yn Atodiad 3. Cynyddwyd gwerth y buddsoddiadau hyn yng Nghyfriflen yr Asedau Net £2.5 miliwn o ganlyniad i'r diwygiadau hyn (a chydnabuwyd y cododd hyn fel newid amseru oherwydd roedd angen defnyddio ffigyrau a amcangyfrifir er mwyn cyrraedd amseroedd terfyn cyfrifon).  Roedd hefyd nifer o ddiwygiadau cyflwyniadol eraill a wnaed i'r cyfriflenni ariannol drafft a gododd o'r archwiliad. 

 

Nodwyd yr argymhellion allweddol sy'n codi o'r gwaith archwilio ariannol yn Atodiad 4.  Roedd y rheolwyr wedi ymateb iddynt a byddai cynnydd yn cael ei wirio yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf.  Lle'r oedd unrhyw gamau gweithredu heb eu cyflawni, byddai'r archwilwyr yn parhau i fonitro cynnydd a'i gynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

 

Mynegodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 ei werthfawrogiad i'r staff am ddarparu'r cyfrifon i Swyddfa Archwilio Cymru ymhell cyn y dyddiad cau gofynnol ac am yr adroddiad cadarnhaol a dderbyniwyd.

 

Trafododd y bwrdd y dull presennol o ymdrin â chyflogwyr allanol ac enwebiadau grantiau marwolaeth.

 

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2)    Y bydd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 yn cysylltu ag Ian Guy, Cynrychiolydd Aelodau'r CPLlL, ynghylch tynnu sylw aelodau'r gronfa at enwebiadau grant marwolaeth.

 

37.

Datganiad Drafft o Gyfrifon 2017/18. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Abertawe 2017/18 'er gwybodaeth'. Diolchodd i'r staff yn nhîm y Drysorfa a Thechnegol am eu gwaith er mwyn llunio'r cyfrifon.

 

Datganwyd bod Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe'n elfen wahanol ac ar wahân i Ddatganiad Cyfrifon Dinas a Sir Abertawe yn ei gyfanrwydd.  Archwiliodd Swyddfa Archwilio Cymru Ddatganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18 yn unol â'i hadroddiad a chyflwynir hyn i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn yn ei chasgliad o'r archwiliad yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad manwl yn llawn gwybodaeth am y cyfrifon, gan bwysleisio'r elw cadarnhaol, a dywedodd fod y rhagamcaniadau ar gyfer y llif arian yn y tymor hir yn gadarnhaol ar gyfer y gronfa yn y tymor canolig.  Ychwanegwyd bod asedau net y Gronfa wedi cynyddu i £1,914,031 ar 31 Mawrth 2018.

 

Atodir Datganiad o Gyfrifon Drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 yn Atodiad 1.

 

38.

Adroddiad Blynyddol 2017/18. pdf eicon PDF 33 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 Adroddiad Blynyddol 'er gwybodaeth' ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Amlinellir bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cwblhau ei archwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon Drafft y Gronfa Bensiwn 2017/18 yn unol â'i gynllun archwilio.  Yn unol â'r rheoliad, roedd angen i'r gronfa lunio adroddiad blynyddol sy'n rhoi peth gwybodaeth ychwanegol a nodiadau esboniadol mewn perthynas â gweithgareddau'r gronfa yn ystod y flwyddyn. Diwygiwyd y cyfriflenni ariannol yn yr Adroddiad Blynyddol yn unol â chanfyddiadau'r archwiliad a'r argymhellion gan yr archwilydd penodedig.

 

Roedd Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 yn Atodiad 1.

 

Trafodwyd ffioedd a thargedau perfformiad gan y bwrdd.

39.

Adroddiad Toriadau. pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Darparodd Atodiad A fanylion y toriadau a gafwyd yn y cyfnod a thynnwyd sylw at y camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr.

40.

Diweddariad ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu'r diweddaraf am gynllun gweithredu Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe i gydymffurfio â gofynion GDPR.

 

Yn Atodiad 1 darparwyd Arweiniad Ymarferol ar gyfer GDPR a darparwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd GDPR llawn, Memorandwm o Ddealltwriaeth y Cyflogwr a chwestiynau cyffredin gan aelodau yn Atodiad 2.

41.

Cynllun Busnes 2018/19. pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Adroddodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 Gynllun Busnes Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2018 -2019 'er gwybodaeth' er mwyn darparu fframwaith gweithiol ar gyfer rhaglen waith y Gronfa.

 

Yn Atodiad 1 darparwyd y Cynllun Busnes Blynyddol ar gyfer 2018-2019, darparwyd Cofrestr Risgiau'r Gronfa Bensiwn yn Atodiad 2 a darparwyd Cyllideb y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2018-19 yn Atodiad 3.

 

Trafododd y bwrdd gynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru, y dull cyflwyno a'r trefniadau gyda rheolwyr presennol y gronfa.</AI10>

42.

Admission Body Application - Freedom Leisure. pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu cais y corff derbyn ar gyfer Freedom Leisure a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

Yn dilyn ymarfer caffael a wnaed gan y cyflogwr rhestredig, Dinas a Sir Abertawe, amlinellwyd y cymeradwyir y contract i Freedom Leisure ddarparu gwasanaethau rheoli hamdden i Gyngor Abertawe.  Byddai'r cwmni'n gyfrifol am weithredu'r cyfleusterau hamdden a byddai hyn yn cynnwys y gweithrediadau o ddydd i ddydd, staffio, gwasanaethau cwsmeriaid, iechyd a diogelwch a marchnata'r cyfleusterau. Byddent hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi yn ailwampio'r cyfleusterau a gweithredu arferion cynnal a chadw er mwyn cynnal y cyfleusterau hyn. Roedd y contract yn cynnwys gweithredu'r LC; Canolfannau Hamdden Penlan, Penyrheol, Treforys a Chefn Hengoed, Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt a Chyfadeilad Chwaraeon yr Elba. Penderfynwyd bod y gwasanaethau hyn yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer statws corff a dderbynnir o dan Reoliadau CPLlL.

 

Ychwanegwyd bod Wealden Leisure Limited (yn masnachu fel Freedom Leisure) yn sefydliad gwirioneddol, nid er elw â statws elusen eithriedig a gymeradwyir gan CThEM. Ei nod oedd darparu gweithgareddau iechyd, ffitrwydd a hamdden o safon ac sy'n fforddiadwy i'r gymuned leol yr oeddent yn eu gwasanaethu. Fel elusen wirioneddol nid oedd ganddynt unrhyw randdeiliaid i'w bodloni, na swm o elw i'w greu oherwydd cwmnïau sy'n cadw cyfalaf mentrau, na difidendau cyfrannau i'w talu i bobl ddienw. Disgwyliwyd i'r contract ar gyfer gwasanaethau i ddechrau ar 1 Hydref 2018.

Ar ben hynny, dan amgylchiadau'r contract, cynigiwyd trosglwyddo'r gweithlu presennol dan drefniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) o'r cyflogwr presennol, Dinas a Sir Abertawe, i Freedom Leisure.  Er mwyn cadw hawliau pensiwn y staff a drosglwyddir, cynigir rhoi statws Corff Cydnabyddedig i Freedom Leisure yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.  Cynigir hefyd y rhoddir y cytundeb derbyn ar sail cynllun caeedig, a fydd yn cynnwys y staff a enwir yn unig yn atodlen 1 y cytundeb derbyn.

Byddai'r cytundeb derbyn gofynnol yn amlinellu gwarant y cyflogwr sy'n noddi a sicrhawyd gan y cyflogwr sy'n noddi, Dinas a Sir Abertawe. Byddai'r awdurdod gweinyddu hefyd yn cynnal asesiad risg priodol o'r corff a dderbynnir, Freedom Leisure.

 

43.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

<AI13>

 

44.

Diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad diweddaru 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu cynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Ychwanegodd fod yn bartneriaeth yn gweithio'n dda ond y byddai'r broses yn cymryd cryn amser.

45.

Polisi Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (LlCA) Diweddaru.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu diweddariad am fynegeion carbon isel a bwysolwyd.

46.

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Buddsoddi.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' yr adroddiad chwarterol a oedd yn crynhoi prisiadau ased a pherfformiad y gronfa hyd at 30 Mehefin 2018.

 

Atodwyd adroddiad chwarterol Hymans Robertson yn Atodiad 1.  Nodwyd y Cyfryngau Buddsoddi yn Atodiad 2 a'r Cyfrifiad Perfformiad yn Atodiad 3.

 

Darparwyd copi hefyd o'r cyflwyniad ar Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Strategaethau Diogelu Ecwiti.

47.

Eitem Frys.

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1974, ei fod yn ystyried bod llythyr drafft Cadeiryddion CPLlL/Byrddau Pensiwn Lleol Cymru Gyfan ar lywodraethu'n cael ei ystyried ar frys.

 

Rheswm am y brys

 

Caniatáu i'r Bwrdd Pensiwn Lleol ystyried y llythyr drafft.

 

Llythyr drafft cadeiryddion CPLlL /BPLl Cymru Gyfan

 

Cyflwynodd Ian Guy, Cynrychiolydd Aelodau'r CPLlL, lythyr drafft ar lywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru i'w drafod. Ychwanegodd, fel Cadeirydd sy'n ymadael, ei fod eisoes wedi ymateb i'r cynigion a amlinellwyd yn y llythyr ac roedd am i'r bwrdd fod yn ymwybodol o hyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cynnwys y llythyr drafft.

 

48.

Swyddi Gwag.

Cofnodion:

Hysbyswyd y bwrdd gan y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Swyddog Adran 151 y ceisiwyd mynegiannau o ddiddordeb gan gyflogwyr y cynllun a chynrychiolwyr undebau llafur, a gobeithiwyd penodi'n fuan.

<AI18>

49.

Cyfarfod Nesaf.

Cofnodion:

Gan nad oedd aelodau'r bwrdd ar gael ar 13 Rhagfyr 2018, awgrymwyd y dylid trefnu'r cyfarfod nesaf ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd.

 

Penderfynwyd y bydd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yn cylchredeg dyddiadau posib ar gyfer y cyfarfod nesaf.