Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

J Andrew – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol.

 

 I Guy – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

Y Cynghorydd A Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.  Mae fy ngwraig a'm mab hefyd yn aelodau o'r Cynllun Pensiwn Lleol (Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) - personol.

 

Y Cynghorydd T M White – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac aelod o'r Pwyllgor Archwilio – personol.

 

Swyddogion:

 

J Dong – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

J Parkhouse – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

S Williams – yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol  – personol.

 

38.

Cofnodion. pdf eicon PDF 116 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 5 Ionawr 2018 fel cofnod cywir.

 

Nodwyd yr wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd ar gais Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol ynghylch y GDPR.  Gwnaeth y bwrdd sylwadau am y gweithdrefnau mwy beichus sy’n cael eu cyflwyno gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

39.

Cynllun Archwilio 2018 - Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 184 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd David Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio 2018 ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Nodwyd cyfrifoldebau'r Archwilwyr, ynghyd â rhai'r rheolwyr a'r rhai sy'n llywodraethu, yn Atodiad 1.  Roedd y dull archwilio'n cynnwys tri cham fel a nodir yn Arddangosyn 1.  Dangoswyd peryglon camddywediadau perthnasol yr oedd angen i'r archwilwyr eu hystyried, ynghyd â'r cynllun gwaith, yn Arddangosyn 2.  Nodwyd y ffi amcangyfrifedig yn Arddangosyn 3 ac roedd llai o ffi oherwydd arbedion y cyngor.

 

Yn ogystal â chynnwys datganiadau ariannol y Gronfa Bensiwn yn y prif ddatganiadau ariannol, roedd gofyn i awdurdodau gweinyddol gyhoeddi adroddiad blynyddol ar y Gronfa Bensiwn y mae'n rhaid iddo gynnwys cyfrifon y Gronfa Bensiwn.

 

Roedd gofyn i'r Archwilwyr ddarllen adroddiad blynyddol y Gronfa Bensiwn ac ystyried a oedd yr wybodaeth ynddo'n gyson â datganiadau ariannol archwiliedig y Gronfa Bensiwn a gynhwyswyd ym mhrif ddatganiadau ariannol y cyngor.

 

Roedd gofyn i Archwilwyr gyflwyno datganiad archwilio i gadarnhau cysondeb y datganiadau ariannol a gynhwyswyd yn yr adroddiad blynyddol gyda datganiadau ariannol archwiliedig y Gronfa Bensiwn.  Darparwyd yr amserlen waith yn Arddangosyn 5.

 

Trafododd y bwrdd risgiau camddatganiadau perthnasol, yn arbennig y Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio diwygiedig, adroddiadau rheoli mewnol a ddarperir gan reolwyr buddsoddi, prisio ecwiti preifat ac effaith y GDPR.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

40.

Adroddiad am Doriadau. pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion toriadau a gafwyd yn y Gronfa Bensiwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Roedd Atodiad A yn darparu manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol.  Amlygwyd manylion y toriadau hynny a'r camau gweithredu a gymerwyd gan y rheolwyr.

 

41.

Credoau Buddsoddi. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' i amlinellu'r Credoau Buddsoddi a fabwysiadwyd gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

Atodwyd Datganiad o'r Credoau Buddsoddi yn Atodiad 1.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol. Cydnabuwyd y byddai'r credoau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd.

 

42.

Gwahardd y Cyhoedd. pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes y nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

43.

Adolygiad o'r Strategaeth Buddsoddi.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu'r newidiadau argymelledig i'r strategaeth buddsoddi a diwygio Datganiad y Strategaeth Buddsoddi o ganlyniad i hynny.

 

Ychwanegwyd bod yr ymgynghorwyr buddsoddi a benodwyd, Hymans Robertson, wedi cynnal adolygiad o'r strategaeth gyda mewnbwn gan swyddogion ac ymgynghorydd buddsoddi annibynnol, gan ystyried canlyniadau hyfforddiant Pwyllgor y Gronfa Bensiwn/ y Bwrdd Pensiwn Lleol a dilysu eu credoau buddsoddi.

 

Amlinellwyd adolygiad y strategaeth buddsoddi a'r newidiadau arfaethedig yn Atodiad 1. Darparwyd Datganiad y Strategaeth Buddsoddi diwygiedig yn Atodiad 2.

 

44.

Adroddiad Adolygu Adnoddau'r Is-adran Gweinyddu Pensiynau.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn amlinellu adnoddau yn yr is-adran Gweinyddu Pensiynau.

 

Gofynnodd y bwrdd gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol.  Amlygodd y bwrdd natur gymhleth barhaus gweinyddu'r CPLlL a'r heriau a wynebir gan staff o ganlyniad.

 

Penderfynwyd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd a sylwadau ynghylch cymhlethdod gweinyddu'r CPLlL.

 

45.

Polisi Llywodraethu Cymdeithasol Amgylcheddol (LlCA).

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn ystyried Polisi Llywodraethu, Cymdeithasol, Amgylcheddol drafft Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau am gynnwys yr adroddiad ac atebwyd hwy'n briodol.

 

46.

Cyflwyniad gan Weithredwr Cynllun Contractiol Awdurdodedig (CCA) Cyswllt Partneriaeth Pensiwn Cymru - Russell Investments.

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad gan Eamonn Gough o Link Fund Solutions a Sasha Mandich o Russell Investments.

 

Gofynnodd y bwrdd gwestiynau am gynnwys y cyflwyniad ac atebwyd hwy’n briodol.

 

Nodwyd cynnwys y cyflwyniad a diolchodd y Cadeirydd i Link Fund Solutions a Russell Investments am ddod i'r cyfarfod.

 

47.

Local Pension Board Members - John Andrew and Andrea Thomas.

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cadeirydd fod John Andrew yn dod i'w gyfarfod olaf o'r bwrdd gan ei fod yn gadael Tai Tarian.  Ychwanegodd fod Andrea Thomas wedi gadael Cyngor Abertawe ym mis Mawrth 2018 ac felly roedd ei haelodaeth o'r bwrdd wedi dod i ben.

 

Diolchodd i'r ddau am eu cyfraniadau i'r bwrdd a dymuno'n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.