Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

Y Cynghorydd A Lockyer – yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o LGPS.

 

J Andrew – personol – yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o LGPS.

 

I Guy – personol – yr agenda yn ei chyfanrwydd – aelod o LGPS.

 

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 73 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir.

 

28.

Adroddiad Archwiliad Mewnol Cronfa Bensiwn 2016/17. pdf eicon PDF 135 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiadau archwiliad mewnol am weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn 2016/17 gan y Prif Archwiliwr.

 

Fe'i hamlinellwyd bod y Cynllun Archwilio Mewnol yn cynnwys yr archwiliadau canlynol o weithgareddau'r Gronfa Bensiwn:

 

·         Gweinyddu Pensiynau

·         Buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn

·         Cronfa Bensiwn - Arall

 

Bu'r archwiliad gweinyddu pensiynau yn ymdrin â rhan fwyaf yr agweddau ar bensiynau a weinyddir gan yr Is-adran Pensiynau dan Bennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, e.e. casglu cyfraniadau, pensiynwyr newydd, trosglwyddiadau etc.

 

Bu'r archwiliad o fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn yn ymdrin â buddsoddiadau asedau'r gronfa gan Is-adran y Trysorlys a Thechnegol drwy'r rheolwyr cronfa amrywiol.

 

Roedd y Gronfa Bensiwn - Arall yn archwiliad newydd yr ymgymerwyd ag ef am y tro cyntaf yn 2015/16.  Roedd yr archwiliad hwn yn ymchwilio i unrhyw agweddau nas ymdriniwyd â nhw yn yr archwiliadau eraill e.e. unrhyw incwm neu wariant wedi ei gynnwys yng nghyfrifon y Gronfa Bensiwn nas archwiliwyd yn rhywle arall.

 

Fe'i hesboniwyd bod yr archwiliad gweinyddu pensiynau a'r archwiliad buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn yn cael eu hystyried yn archwiliadau sylfaenol. Archwiliadau sylfaenol yw'r rhai hynny y teimlwyd, mewn ymgynghoriad â'r archwiliwr allanol, eu bod mor sylweddol y gallai unrhyw broblemau â'r systemau gael effaith berthnasol ar gyflawni amcanion y cyngor neu'r Gronfa Bensiwn. Am y rheswm hwn, ymgymerir ag archwiliadau sylfaenol yn amlach nag archwiliadau eraill.  Cwblhawyd yr archwiliad gweinyddu pensiynau yn flynyddol a'r archwiliad buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn bob dwy flynedd. Ni ddisgwyliwyd cwblhau archwiliad buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn nes 2016/17.

 

Cafwyd lefel o sicrwydd ar gyfer archwiliadau'r Gronfa Bensiwn yn 2016/17 fel a ganlyn:

 

·         Gweinyddu Pensiynau                Sylweddol

·         Cronfa Bensiwn - Arall                Uchel

 

Darparwyd copi o adroddiad terfynol yr archwiliad gweinyddu pensiynau yn Atodiad 1, ac adroddiad terfynol yr archwiliad Cronfa Bensiwn - Arall yn Atodiad 2.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

 

29.

Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn Lleol. pdf eicon PDF 66 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd am gymeradwyaeth i agenda cynllun gwaith craidd ar gyfer y Bwrdd Pensiwn Lleol gan Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol.

 

Yn unol â Chôd Ymarfer y rheolydd pensiynau, cynigiwyd y dylid mabwysiadu'r prif feysydd canlynol sydd yn y Côd fel yr eitemau agenda craidd i'w hystyried gan agenda gwaith y Bwrdd Pensiwn Lleol:

 

Gweinyddu'r cynllun - gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n ofynnol i aelodau'r bwrdd pensiwn, gwrthdaro buddiannau, gwybodaeth i'w chyhoeddi ynglŷn â chynlluniau;

 

Rheoli risg – dulliau rheoli a gweithdrefnau mewnol;

 

Gweinyddiaeth - cadw cofnodion y cynllun, cynnal cyfraniadau, gwybodaeth i'w darparu i aelodau;

 

Datrys problemau - proses datrys anghydfod mewnol, adrodd am achosion o dorri’r gyfraith.

 

Cynigiwyd y dylid adrodd am brosesau a gweithdrefnau gweinyddu'r cynllun a datrys anghydfodau yng nghyfarfod nesaf y bwrdd a chydnabuwyd y dylai'r Bwrdd Pensiwn Lleol gynnwys pynciau perthnasol ac amserol lle bo'n briodol.

 

Roedd eitemau ychwanegol i'w cynnwys yn y Cynllun Gwaith yn cynnwys cydweithio â Phwyllgor y Gronfa Bensiwn ar weithdy credoau buddsoddi a pholisi buddsoddi carbon.

 

Gofynnwyd am y diweddaraf gan y bwrdd o ran presenoldeb aelodau’r bwrdd yng nghyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y cyfarfod y gallai aelodau'r bwrdd fynychu cyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn y dyfodol os oeddent yn llofnodi'r Côd Ymddygiad ac yn parchu natur gyfrinachol y cyfarfodydd a'r papurau.  Codwyd Holodd aelodau’r bwrdd a oedd y Côd yn ei gyfanrwydd yn berthnasol iddynt neu a fyddai modd iddynt lofnodi ymrwymiad cyfrinachedd yn lle hynny.  Cytunodd y Cyfarwyddwr i hynny ar ôl derbyn cyngor y Prif Gyfreithiwr.

 

Ychwanegodd fod hyn yn destun adroddiad a fyddai'n cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf Pwyllgor y Gronfa Bensiwn. 

 

Croesawyd y diweddariad gan y Bwrdd, gan gydnabod y newid fel cam cadarnhaol ymlaen.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Cymeradwyo Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn Lleol,

2)    Nodi'r diweddaraf o ran presenoldeb yng nghyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn yn y dyfodol,

3)    Y byddai'r Prif Gyfreithiwr yn dosbarthu ymrwymiad cyfrinachedd i'w gymeradwyo gan y Bwrdd Pensiwn.

 

 

 

 

30.

Ardystiad Prisio Teirblwydd. pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' gan Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol am yr ardystiad prisio teirblwyddol (a ddarparwyd yn Atodiad A) a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 9 Mawrth 2017.

 

Fe'i hychwanegwyd bod Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, yn unol â Rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol, wedi ymgymryd â phrisiau actiwaraidd teirblwyddol llawn ar 30 Mawrth 2016, gyda golwg ar fesur asedau a rhwymedigaethau'r Gronfa Bensiwn ac felly benderfynu ar gyfraddau cyfrannu addas y cyflogwyr a fydd yn daladwy am gyfnod o 3 blynedd, gan ddechrau ar 1 Ebrill 2017.  Darparwyd y cyfraddau actiwariaidd a'r dystysgrif addasu yn Atodiad 1. Roedd actwari penodedig y gronfa wedi cwrdd â'r cyflogwyr ac wedi cyflwyno'i brif ragdybiaethau a meysydd i'w datblygu o ran prisiau 2016. Roedd ymgynghoriad â chyflogwyr eisoes wedi cael ei gynnal er mwyn trafod canlyniadau dangosol drafft ac opsiynau ar gyfer lleddfu cyfraddau cyfrannu uwch.

 

Nododd y pwyllgor y cynnydd sylweddol mewn cyfraniadau a godir ar rai cyflogwyr.

 

 

31.

Datganiad am y Strategaeth Ariannu. pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' Ddatganiad Drafft Strategaeth Ariannu Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017 gan Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 9 Mawrth 2017, gan ddarparu copi ohono yn Atodiad A.

 

Ychwanegwyd ei fod yn ofynnol i Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, yn unol â Rheoliadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, gyflwyno datganiad strategaeth ariannu mewn ymgynghoriad â chyflogwyr ei gynllun, actwari penodedig ac ymgynghorwyr.  Prif bwrpas Datganiad y Strategaeth Ariannu oedd amlinellu'r broses a fyddai'n galluogi'r awdurdod gweinyddu i wneud y canlynol:

 

§  Sefydlu strategaeth ariannu glir a thryloyw sy'n benodol i'r Gronfa ac sy'n nodi sut orau i fodloni rhwymedigaethau pensiwn y cyflogwr wrth symud ymlaen.

 

§  Cefnogi’r gofyniad rheoleiddio mewn perthynas â'r dymuniad i gynnal cyfradd cyfraniadau cynradd mor sefydlog â phosib.

 

§  Sicrhau bod y gofynion rheoleiddio i osod cyfraniadau mewn ffordd a fydd yn sicrhau diddyledrwydd a chost-effeithiolrwydd tymor hir y Gronfa yn cael eu bodloni.

 

§  Cymryd golwg tymor hwy a gofalus ar ariannu rhwymedigaethau'r Gronfa.

 

Er bod yn rhaid adlewyrchu'r strategaeth ariannu sy'n berthnasol i gyflogwyr unigol yn Natganiad y Strategaeth Ariannu/Strategaeth Fuddsoddi, nodwyd y dylid canolbwyntio ar bob adeg ar y gweithredoedd a oedd o fudd i'r Gronfa yn y tymor hir.

 

Trafodwyd fforddadwyedd y cynllun i aelodau/gyflogwyr a'r hyfforddiant a ddarperir i gyflogwyr.

 

 

 

 

 

32.

Polisi Torcytundeb. pdf eicon PDF 224 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' gan y Prif Reolwr Pensiynau ar y Polisi Toriadau (a ddarparwyd yn Atodiad A) a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 9 Mawrth 2017.

 

Esboniwyd bod yn ofynnol i adrodd am unrhyw achosion o dorri’r gyfraith i'r Rheolydd Pensiynau o dan baragraffau 241 - 275 Côd Ymarfer y Rheolydd Pensiynau, Rhif 14 (Llywodraethu a Gweinyddu Cynlluniau Pensiwn Gwasanaethau Cyhoeddus) - "y Côd Ymarfer".  Fe'i hychwanegwyd y gallai toriadau ddigwydd o ganlyniad i amrywiaeth eang o dasgau sy'n gysylltiedig fel arfer â gweinyddu cynllun pensiwn, megis cadw cofnodion, rheoli mewnol, cyfrifo buddion a buddsoddi neu benderfyniadau sy’n ymwneud â buddsoddi.

 

Amlinellodd yr adroddiad y gweithdrefnau a fyddai'n cael eu mabwysiadu gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe o ran y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a reolir ac a weinyddir gan Ddinas a Sir Abertawe, mewn perthynas ag adrodd am achosion o dorri’r gyfraith i'r Rheolydd Pensiynau.

 

Darparwyd rhai o'r darpariaethau cyfreithiol allweddol yn Atodiad A, enghraifft o gofrestr o doriadau yn Atodiad B, ac arweiniad ar fframwaith goleuadau traffig yn Atodiad C.  Byddai adroddiad yn cofnodi toriadau yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Pensiwn ac i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn bob chwarter.

 

Gofynnodd y bwrdd am fersiwn diweddaraf y Polisi Toriadau i gael ei ddosbarthu.

 

 

 

 

 

33.

Cynllun Busnes. pdf eicon PDF 220 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' am Gynllun Busnes Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017/18 a gafodd ei ddarparu yn Atodiad A gan Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol. Cafodd hyn ei ystyried yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 9 Mawrth 2017.  Roedd yr adroddiad yn ceisio darparu fframwaith gweithredu ar gyfer rhaglen waith y Gronfa Bensiwn yn 2017/18.

 

Gofynnwyd cwestiynau gan y Bwrdd mewn perthynas â'r gofrestr risgiau, y ddogfen bolisi a oedd yn cefnogi'r gofrestr risgiau, a’r cynnydd o ran buddsoddiadau/treuliau.

 

34.

Cronfa Fuddsoddi Cymru - Cytundeb Rhwng Awdurdodau. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' gan Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol am Gytundeb rhwng Awdurdodau Cronfa Buddsoddi Cymru (a ddarparwyd yn Atodiad A) a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 9 Mawrth 2017.

 

Darparwyd Adroddiad y Cyngor, dyddiedig 23 Chwefror 2017, yn Atodiad 1, lle awdurdodwyd y cytundeb rhwng awdurdodau, yr awdurdod cynnal a sefydlu pwyllgor llywodraethu ar y cyd.

 

35.

Strategaeth Buddsoddiad Carbon - Diweddariad. pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' gan Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol am 'Newid yn yr Hinsawdd a Pholisi Buddsoddi Carbon – y diweddaraf' (a ddarparwyd yn Atodiad A) a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 9 Mawrth 2017.

 

Rhoddodd yr adroddiad ddiweddariad i'r pwyllgor ar yr argymhelliad blaenorol i gomisiynu dadansoddiad portffolio, gyda golwg ar lunio polisi buddsoddi carbon.

 

Trafodwyd gwybodaeth yr adroddiad gan y bwrdd a'i oblygiadau ar gyfer y Gronfa Bensiwn wrth symud ymlaen.

36.

Datganiad am y Strategaeth Buddsoddi. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad 'er gwybodaeth' gan Brif Swyddog y Trysorlys a Thechnegol am Ddatganiad Strategaeth Ariannu Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2017 (a ddarparwyd yn Atodiad A) a gafodd ei ystyried yng nghyfarfod blaenorol Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 9 Mawrth 2017.

 

Gofynnwyd cwestiynau gan y Bwrdd ynghylch targedau perfformiad ar ôl diddymu ffioedd a chostau a strategaethau rhagweithiol/goddefol.

 

37.

Cofnodion Pwyllgor y Gronfa Bensiwn - 9 Mawrth 2017. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 79 KB

Cofnodion:

Darparwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2017 'er gwybodaeth'.