Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

J Andrew – Personol – yr agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

I Guy – Personol – agenda yn ei chyfanrwydd - Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Holodd aelodau'r bwrdd ynghylch datgan buddiannau a ddatganwyd yn flaenorol.

 

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 66 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol Arbennig a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016 a chyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2016 fel cofnodion cywir.

 

18.

Adroddiad Blynyddol 2015/16. pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2015/16 "er gwybodaeth". 

 

Roedd Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2015/16 yn Atodiad 1.

 

Amlygwyd bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys gweithgarwch y Bwrdd Pensiwn Lleol.

 

Trafododd y bwrdd y canlynol: -

 

·         Gofyniad i'r bwrdd gael mynediad llawn i bapurau Pwyllgor y Gronfa Bensiwn er mwyn cynorthwyo'r pwyllgor yn effeithiol;

·         Gofyniad i aelodau'r bwrdd gael caniatâd i fynd i gyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys aros pan oedd eitemau wedi'u gwahardd yn cael eu hystyried;

·         Posibilrwydd bod y bwrdd yn cwrdd yn ffurfiol â Phwyllgor y Gronfa Bensiwn er mwyn trafod rôl y bwrdd wrth fynd ymlaen a chaniatáu'r bwrdd i'r weithredu hyd eithaf ei allu;

·         Y bwrdd yn derbyn mwy o wybodaeth/cyflwyniadau ynglŷn â buddsoddiad perfformiad.

 

 

19.

Polisi Tor-amodau. pdf eicon PDF 220 KB

Cofnodion:

Adroddodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol am y gweithdrefnau i'w dilyn wrth adrodd am doriadau i'r Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

Nodwyd y gall toriadau ddigwydd wrth ymdrin perthynas ag amrywiaeth helaeth o'r tasgau sydd fel arfer yn gysylltiedig â swyddogaeth weinyddol cynllun pensiwn megis cadw cofnodion, rheoliadau mewnol, cyfrifo budd-daliadau a gwneud buddsoddiadau neu benderfyniadau sy'n ymwneud â buddsoddi.  Nododd yr adroddiad y gweithdrefnau i'w mabwysiadu gan Gronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe mewn perthynas â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a reolir gan Ddinas a Sir Abertawe, o ran adrodd am doriadau cyfreithiol i'r Rholeiddiwr Pensiynau.

 

Rhoddwyd manylion ynglŷn â gofynion cyfreithiol, gweithdrefn adrodd am doriadau, eglurhad ynglŷn â phryd amheuwyd toriad a'r broses ar gyfer cyflwyno adroddiad i'r Rheoleiddiwr.

 

Ychwanegwyd y caiff adroddiad chwarterol ei gyflwyno i'r Bwrdd Pensiwn a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn yn nodi'r canlynol:

 

·         yr holl doriadau, gan gynnwys y rheiny i'r Rheoleiddiwr Pensiynau a'r rheiny na roddwyd gwybod amdanynt, gyda'r dyddiadau perthnasol;

·         mewn perthynas â phob toriad, manylion pa gamau gweithredu a gymerwyd a chanlyniad unrhyw gamau gweithredu (lle nad ydynt yn gyfrinachol);

·         unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol er mwyn atal y toriad dan sylw rhag digwydd eto.

 

Trafododd y bwrdd y canlynol: -

 

·         Sut y byddai toriadau yn cael eu hadrodd i bob barti rhestredig;

·         Argaeledd y polisi i aelodau'r cynllun;

·         Gofynion y bwrdd mewn achos o doriad;

·         Cyfnodau adrodd i'r bwrdd yn y dyfodol;

·         Diwygiadau gofynnol o ran dilyniant ym mharagraffau 3.3 a 3.4. ac i adrodd am doriadau  i'r bwrdd o leiaf dwywaith y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Cymeradwyo'r Polisi Toriadau yn amodol ar y diwygiadau uchod;

2)    Dosbarthu'r polisi diwygiedig i'r bwrdd.

 

 

20.

Gweinyddiaeth y Cynllun a Phroses Datrys Anghydfodau Mewnol. pdf eicon PDF 86 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gronfa Bensiwn adroddiad "er gwybodaeth" ar brosesau a gweithdrefnau gweinyddu'r cynllun a datrys problemau.

 

Nododd yr adroddiad fanylion am weinyddu pensiynau yng Nghronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe, sut cynhelir cyfraniadau, sut mae'r gronfa'n rhoi gwybodaeth a sut caiff problemau eu datrys. Roedd Atodiad 1 yn nodi'r swyddogaethau gweithrediadol a wneir er mwyn cynnal cofnodion aelodau.

 

Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau i'r swyddog, a ymatebodd yn briodol.  Roedd trafodaethau'n ymwneud ag effaith y newidiadau i bensiynau ar y gronfa, sy'n rhoi mwy o ryddid i unigolion reoli eu pensiynau a'r effaith ar adnoddau o ganlyniad i nifer y bobl sy'n gwneud cais am ffigurau ER/VR.

 

 

 

21.

Ailstrwythuro Gweinyddiaeth y Pensiwn. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Reolwr Pensiynau adroddiad "er gwybodaeth" ynghylch cyllid ar gyfer ailstrwythuro'r Is-adran Bensiynau.

 

Amlinellodd yr adroddiad yr adolygiad blaenorol a gynhaliwyd yn 2009, dadansoddiad bwlch, ffigurau meincnodi a roddodd fanylion am Gronfeydd Pensiwn eraill Cymru a strwythur arfaethedig yr Is-adran Bensiynau.

 

Gwnaeth y bwrdd sylwadau ar ddadansoddiad llawn o gost a budd mewn perthynas â chydbwyso rheoliadau yn erbyn buddion aelodau.

 

22.

Dyddiadau Cyfarfodydd y Dyfodol. (I'w trafod)

Cofnodion:

Trafododd y bwrdd drefn cyfarfodydd yn y dyfodol a gofynnodd fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn chwarterol a chan ddilyn cyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

PENDERFYNWYD: -

 

1)    Cynnal cyfarfod nesaf y bwrdd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau

20 Mawrth 2017;

2)    Caiff cyfarfodydd y bwrdd yn y dyfodol eu cynnal yn chwarterol a chan ddilyn cyfarfodydd Pwyllgor y Gronfa Bensiwn.

 

23.

Cofnodion Pwyllgor y Gronfa Bensiwn - 7 Rhagfyr 2016. (Er Gwybodaeth) pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Dosbarthwyd cofnodion Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2016 "er gwybodaeth".

 

Gofynnodd y bwrdd i'r adroddiad Cyngor Proffesiynol yng nghofnod rhif 32 gael ei anfon ymlaen.

 

PENDERFYNWYD anfon yr adroddiad Cyngor Proffesiynol yng nghofnod rhif 32 ymlaen at aelodau'r bwrdd.

 

24.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y pwyllgor brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle roedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

25.

Y Diweddaraf am Gronfa Cymru Gyfan.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn rhoi'r diweddaraf i'r pwyllgor am gynnydd Cronfa Buddsoddi Cymru Gyfan.

 

Gwnaeth y pwyllgor sylw ynghylch yr amserlen bosibl i'r gronfa ddod i rym, amcangyfrif o'r costau a roddwyd gan y Llywodraeth Ganolog a chynnwys y llythyr a anfonwyd ar ran y Gweinidog dros Lywodraeth Leol.