Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016/2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd A Lockyer yn gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

(BU'R CYNGHORYDD A LOCKYER YN LLYWYDDU)

 

Diolchodd Mr Ian Guy, y cadeirydd ymadawol, i bawb a oedd yn bresennol am eu cefnogaeth, yn enwedig Prif Swyddog y Drysorfa a Thechnegol a'i staff am eu cymorth a'u cyngor.

 

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016/2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y A Thomas yn Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016 - 17.

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: -

 

J Andrew – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Abertawe – personol.

 

A Chaves – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Abertawe – personol.

 

I Guy – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Abertawe – personol.

 

Y Cynghorydd A Lockyer – Aelod o Fwrdd Cartrefi CNPT – personol.

 

A Thomas – Yr agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Abertawe – personol.

 

4.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Bwrdd Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

 

5.

Cyd-argymhelliad yr Awdurdod (ar y cyd â chronfeydd Pensiwn Cymru) i Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a HMT ar eu Cynigion Cyfuno - Cyflwyniad gan Hymans Robertson, ymgynghorwyr i Gymdeithas Drysoryddion Cymru.

Cofnodion:

Rhoddodd A Johnson, Hymans Robertson, gyflwyniad ar gyd-argymhelliad yr awdurdod (ynghyd â chronfeydd pensiwn eraill Cymru) i'r Adran Gymunedau a Llywodraeth Leol a Thrysorlys ei Mawrhydi ar ei gynigion cyfuno.

 

Rhoddodd yr argymhelliad ymatebion i’r meysydd canlynol, ar gais y llywodraeth: -

 

·         A:  Cronfeydd asedau sy'n cyflawni buddion graddfa.

·         B:  Llywodraethu a phenderfynu cryf.

·         C:  Costau llai a gwerth ardderchog am arian.

·         Ch. Gallu gwell i fuddsoddi mewn isadeiledd.

 

Gofynnodd y pwyllgor nifer o gwestiynau i gynrychiolydd Hyman Robertson, a ymatebodd yn briodol.

 

PENDERFYNWYD ar y canlynol: -

 

1)    Dylid nodi cynnwys y cyflwyniad llafar;

2)    Dylid cyflwyno'r argymhelliad terfynol yn y cyfarfod nesaf a drefnir.