Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 01792 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorwyr C R Doyle fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o'r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Ian Guy a David White fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Carolyn Isaac fuddiant personol yn yr holl agenda fel aelodau o’r Gronfa Bensiwn.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd y Cynghorydd C R Doyle gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelod o’r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Ian Guy a David White gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn.

 

Datganodd Karen Cobb, Jeff Dong, Jeremy Parkhouse a Carolyn Isaac gysylltiadau personol â'r agenda yn ei chyfanrwydd, fel aelodau'r Gronfa Bensiwn.

29.

Cofnodion. pdf eicon PDF 216 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd llofnodi a chymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 5 Hydref a 25 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

 

Nodwyd – Llongyfarchodd y Cadeirydd y Gronfa Bensiwn ar ei llwyddiant yng Ngwobrau LAPF am ennill gwobr Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Flwyddyn.

30.

Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 355 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Dong, y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon – Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe a oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau'r archwiliad o gyfrifon ar gyfer 2021-22.  

 

Ychwanegwyd bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y bydd y cyngor wedi darparu'r Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar Atodiad 1.  Darparwyd yr Adroddiad Archwilio arfaethedig yn Atodiad 2.

 

Ni nodwyd unrhyw gamddatganiadau yn y cyfrifon a oedd dal heb eu cywiro.  Darparwyd manylion y camddatganiadau a gywirwyd gan Reolwyr yn Atodiad 3. Nid oedd unrhyw faterion arwyddocaol eraill yn codi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am yr adroddiad a rhoddodd ganmoliaeth iddo yn ogystal â Karen Cobb, Uwch-gyfrifydd a staff yr Adran Gyllid am eu holl waith.

31.

Prisiad Teirblwyddol Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 31 Mawrth 2022. pdf eicon PDF 717 KB

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 ganlyniadau cychwynnol Prisiad Actiwaraidd Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe ar 31 Mawrth 2022 i'r Bwrdd.

 

Roedd y manylion a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: -

 

·         Y broses werthuso a rhagdybiaethau.

·         Canlyniadau cychwynnol y gronfa gyfan yn 2022.

·         Disgwyliadau ar gyfer canlyniadau a chyfraniadau cyflogwyr.

·         Crynodeb, camau nesaf a chwestiynau.

 

Gofynnodd y Bwrdd gwestiynau i'r Swyddog ac atebwyd yn briodol iddynt. Canmolwyd Tîm Gweinyddol yr adran Bensiynau am amseroldeb ac ansawdd y data a gyflwynwyd. Nodwyd y perfformiad buddsoddi degradd uchaf ers y gwerthusiad diwethaf a sicrhau dros 100% o gyllid  y Gronfa Bensiwn am y tro cyntaf a chanmolwyd gwaith y Dirprwy Swyddog Adran 151 a thîm gweinyddol yr adran pensiynau.

32.

Dinas a Sir Abertawe Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon 2021/22. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog Adran 151  adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a'r datganiad o gyfrifon drafft ar gyfer Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2021/2022.

 

Amlinellwyd bod Cronfa Bensiwn Ddinas a Sir Abertawe wedi cynhyrchu datganiad cyfrifon ac adroddiad blynyddol ar wahân erioed mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol dan sylw, a oedd yn destun archwiliad cyhoeddus. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad â Swyddfa Archwilio Cymru, penderfynwyd cyfuno'r ddwy ddogfen yn un a gwneud y cynhyrchiad/proses archwilio'n fwy syml. 

 

Ychwanegwyd bod swyddogion wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol a Datganiad o Gyfrifon drafft 2021/22 yn ystod cyfarfod y Bwrdd Gronfa Bensiwn Lleol ym mis Medi 2022 ac roedd Atodiad 1 yn darparu'r fersiwn derfynol, a oedd yn destun yr adroddiad ISA 260 gyda barn archwilio a chanfyddiadau archwilio wedi'u cyflwyno gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Gwnaeth y Bwrdd sylwadau ynghylch y canlyniadau gwych a ddarparwyd a diolchwyd a llongyfarchwyd â’r staff o fewn y Gwasanaethau Ariannol am eu gwaith a'u hymrwymiad.

33.

Adroddiad Toriadau. pdf eicon PDF 381 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu manylion unrhyw doriadau a gafwyd yn y cyfnod hwn yn unol â'r polisi Adrodd am Doriadau.

 

Yn Atodiad A darparwyd manylion y toriadau a gafwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd Pensiwn Lleol.  Nodwyd manylion y toriadau a'r camau gweithredu a gymerwyd gan reolwyr.

34.

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru 2021/22. pdf eicon PDF 136 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn a oedd yn darparu cipolwg o'r gwaith yr oedd Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) wedi ei wneud dros y deuddeg mis diwethaf.

35.

Adnoddau Gweinyddu Pensiynau. pdf eicon PDF 326 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi gwybod i'r Bwrdd am y newidiadau sydd eu hangen i’r lefelau staffio presennol er mwyn cydnabod yr heriau o ran gweinyddu’r cynllun a monitro buddsoddiad a newidiadau rheoleiddio i sicrhau bod y strwythur yn addas at y diben er mwyn bodloni amcanion y gronfa.

36.

Gwahardd Y Cyhoedd. pdf eicon PDF 236 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Bwrdd wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhelliad/ion yr adroddiad ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitem(au) f/busnes a nodir yn yr adroddiad.

 

Ystyriodd y Bwrdd brawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd prawf budd y cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

37.

Crynodeb Gweithdy Sero Net.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu crynodeb o weithdy sero-net - Hydref 2022. Canolbwyntiodd ar y fframwaith '3 Dimensiwn' a ddefnyddiwyd er mwyn helpu i gyflawni ei amcanion sero-net ac amcanion ehangach.

38.

Partneriaeth Pensiwn Cymru - Diweddariad.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn am gynnydd a gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

39.

Crynodeb Buddsoddi.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cynnwys y gwerthusiad o asedau a'r perfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a'r 3 blynedd a ddaeth i ben ar 30 Medi 2022.

40.

Adroddiad(au) yr Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol.

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog A151 adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu'r Adroddiad Monitro Buddsoddi ar gyfer Chwarter 3 2022.

 

Nodwyd cynnwys yr adroddiad gan y pwyllgor a gofynnwyd cwestiynau amrywiol, ac fe'u hatebwyd yn briodol.