Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

29.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

30.

Cofnodion. pdf eicon PDF 338 KB

 

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021 fel cofnod cywir.

 

31.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1. 2021/1782/S73 - Cymeradwywyd

 

2. 2021/2013/S73 - Cymeradwywyd

 

3. 2021/1160/S73 - Cymeradwywyd

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2021/1782/S73 - Lleoli carafanau at ddefnydd preswyl ar gyfer 4 llain sipsi, ynghyd â gosod llawr caled ychwanegol ac ystafelloedd aml-bwrpas/dydd sy'n ategu'r defnydd hwnnw. Amrywiad ar amodau 3 a 4 o'r caniatâd cynllunio a roddwyd ar apêl (Cyfeirnod yr Apêl: APP/B6855/A/12/2184665. Cyfeirnod yr ACLl: 2012/0079) i ganiatáu i sipsiwn a theithwyr ddefnyddio'r safle'n barhaol (Dileu/Amrywiad ar amodau 2 a 3 o ganiatâd cynllunio 2017/0482/S73 a roddwyd ar 6 Gorffennaf 2017) i ganiatáu i sipsiwn a theithwyr ddefnyddio'r safle ar dir yn Nhŷ Drumau, Birchgrove Road, Gellifedw, Abertawe yn barhaol.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Nat Green (asiant)

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr C R Doyle a P M Matthews (Aelodau Lleol), a siaradodd yn erbyn y cais oherwydd ei effaith ar y lletem las.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Mae gwall ar dudalen 30 yr adroddiad, ym mharagraff 2 sy'n nodi y cynhaliwyd yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) ar ôl i’r  caniatâd dros dro blaenorol gael ei roi. Mae hyn yn anghywir. Cynhaliwyd y GTAA yn 2015, cyn rhoi'r caniatâd dros dro diweddaraf yn 2017.

 

Hefyd, mae angen diwygio Amod 4 er mwyn cyfeirio at Amod 3 yn benodol.

 

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2021/2013/S73 - Dymchwel yr adeilad presennol ar y safle ac adeiladu datblygiad preswyl sy'n cynnwys 29 o unedau fforddiadwy (sy'n cynnwys 7 tŷ a 22 fflat), 3 uned manwerthu, parcio cysylltiedig, tirlunio a gwaith ategol - Amrywiad ar Amod 2 caniatâd cynllunio 2020/0108/FUL a roddwyd ar 20 Ionawr 2021 i ganiatáu ar gyfer cyflwyno cynlluniau diwygiedig mewn perthynas â'r wal gynnal arfaethedig, ac Amrywiad ar Amod 8 i gyfeirio at ddarlun LT1815.04.50 Diwygiad A ar Dir i'r Gogledd o Rodfa Fadog, Cwmrhydyceirw, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Richard John (gwrthwynebydd)

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Ers cwblhau'r adroddiad, nodwyd bod gwall yn y cynllun arfaethedig a gyflwynwyd gan nad oedd i raddfa, fodd bynnag mae'r dimensiynau allweddol a ddefnyddiwyd wrth asesu'r cais a'r adroddiad yn gywir, gan eu bod wedi'u dimensiynu ar y cynllun ei hun. Fodd bynnag, bydd angen diwygio'r disgrifiad o'r datblygiad ac Amod 1 i gyfeirio at gyfeirnod y cynllun diweddaraf (diwygiad B) a bydd yr olaf yn darllen fel a ganlyn:

 

Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol: strategaeth draenio, datganiad trafnidiaeth, cynllun draenio rhagarweiniol SK02R7 a dderbyniwyd ar 20 Ionawr 2020, adroddiad arfarniad ecolegol, adroddiad archwilio safle, adroddiad archwilio safle geodechnegol a geoamgylcheddol a dderbyniwyd ar 27 Ionawr 2020, LT1815.04.001 B -cynllun safle, LT1815.04.004 A - cynllun nodi ffin, LT1815.04.1000 D - cynlluniau llawr gwaelod a llawr cyntaf Bloc 1, LT1815.04.1001 C - ail lawr (tudalen 36) a chynllun to bloc 1, 1 LT1815.04.1002 A -  trawstoriadau bloc 1, LT1815.04.1003F - gweddluniau bloc 1, LT1815.04.2001 - cynlluniau a gweddluniau lleiniau 17-20, LT1815.04.2002 A - cynlluniau a gweddluniau lleiniau 21-23, LT1815.04.2003 - cynlluniau a gweddluniau lleiniau 24-29, a dderbyniwyd ar 6 Gorffennaf 2020.  LT1815.04.51 - trawstoriadau'r safle, SK21-5269-01E - cynlluniau wal gynnal a gweddluniau, SK21-5269-02E - trawsdoriadau'r wal gynnal a dderbyniwyd ar 28 Gorffennaf 2021 a LT1815.04.50 - cynllun y safle DIWYGIAD B, a dderbyniwyd ar 28 Medi 2021.

 

Rheswm: I osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a gymeradwywyd.

 

 

#(Eitem 3) - Cais Cynllunio 2021/1160/S73 - Gosod 10 pod gwersylla pren am 2 flynedd arall (Amrywiad ar Amod 2 o ganiatâd cynllunio 2017/0820/FUL a roddwyd ar 30 Ionawr 2019) yn Windmill Farm, Llanrhidian, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.