Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

11.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

12.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1. 2019/2905/RES – Approved.

 

 

2. –2019/2906/RES - Approved.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

1) cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2019/2905/RES - Cais Materion a Gadwyd yn Ôl am fanylion mynediad, ymddangosiad, cynllun, maint a thirlunio yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2016/1478 a roddwyd ar 12 Rhagfyr 2019 (ac eithrio safle'r ysgol). Cyflwyno manylion yn unol ag Amodau 8 (Datganiad Dylunio a Mynediad), 9 (Ymchwiliad Safle Ymwthiol ar gyfer mynedfeydd i byllau a gweithfeydd glo bas), 10 (Adroddiadau ar gyfer canfyddiadau a thriniaeth yr Ymchwiliad Safle Ymwthiol ar gyfer mynedfeydd i byllau a gweithfeydd glo bas), 15 (Strategaeth Dŵr Wyneb), 17 (diogelu coed), 18 (Asesiad Effaith Coedyddiaeth), 19 (Ffensys diogelu coed), 25 (Asesiad Ansawdd Aer), 34 (cyfyngiad cerbydau/gât fysiau), 47 (llwytho a dadlwytho ar gyfer unedau A1-A3/ D1) a 49 (parcio beiciau ar gyfer unedau A1-A3/D1) o ganiatâd cynllunio 2016/1478 a roddwyd ar 12 Rhagfyr 2019 ar dir i'r gogledd o Bentre'r Ardd, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl a chynhwysfawr.

 

Anerchodd Luke Grattarola (asiant) y Pwyllgor.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Mae'r disgrifiad o ddatblygiad wedi’i ddiwygio fel a ganlyn;

"Cais materion a gadwyd yn ôl am fanylion mynediad, ymddangosiad, cynllun, graddfa a thirlunio ar gyfer adeiladu 705 o anheddau preswyl, mannau agored cyhoeddus cysylltiedig, hierarchaeth rhwydweithiau strydoedd, darparu canolfan leol, cadw cynefinoedd, ardaloedd gwanhau systemau draenio cynaliadwy a gwaith cysylltiedig arall yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2016/1478 a roddwyd ar 12 Rhagfyr 2019 (ac eithrio safle'r ysgol). Cyflwyno manylion yn unol ag Amodau 8 (Datganiad Dylunio a Mynediad), 9 (Ymchwiliad Safle Ymwthiol ar gyfer mynedfeydd mwynglawdd a gweithfeydd glo bas), 10 (Adroddiadau ar gyfer canfyddiadau a thriniaeth yr Ymchwiliad Safle Ymwthiol ar gyfer mynedfeydd mwynglawdd a gweithfeydd glo bas), 15 (Strategaeth Dŵr Wyneb), 17 (diogelu coed), 18 (Asesiad Effaith Coedyddiaeth), 19 (Ffensys diogelu coed), 25 (Asesiad Ansawdd Aer), 34 (cyfyngiad cerbydau/gât fysiau), 47 (llwytho a dadlwytho ar gyfer unedau A1-A3/ D1) a 49 (parcio beiciau ar gyfer unedau A1-A3/D1) o ganiatâd cynllunio 2016/1478 a roddwyd ar 12 Rhagfyr 2019."

 

 

#(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2019/2906/RES - Cais materion a gadwyd yn ôl am fanylion tirlunio ar gyfer y safle cyfan (ac eithrio safle'r ysgol) a phlannu ymfudol ecolegol ar hyd y ffordd fynediad yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol 2016/1478 a roddwyd ar 12 Rhagfyr 2019. Cyflwyno manylion yn unol ag Amodau 40 (Strategaeth Lliniaru Coetiroedd Hynafol), 41 (Strategaeth Lliniaru Pathewod), 42 (Cynllun Diogelu Bywyd Gwyllt), 43 (Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol) o ganiatâd cynllunio 2016/1478 a roddwyd ar 12 Rhagfyr 2019 ar gyfer tir i'r gogledd o Bentre'r Ardd, Abertawe. 

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.