Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
Pwyllgorau Cynllunio a gynhaliwyd ar 2 a 6 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 2021/0163/FUL – Cymeradwywyd. 2021/0961/S73 – Cymeradwywyd. 2021/1727/S73 – Cymeradwywyd. 2019/1715/OUT – Cymeradwywyd. 2021/1415/FUL – Cymeradwywyd. 2021/1038/FUL – Cymeradwywyd. 2021/1401/106 – Gwrthodwyd. Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd
yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r
Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod) 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod: (Eitem 1) –
Cais Cynllunio 2021/0163/FUL - Adeiladu Parc Grid Gwyrddach sy'n cynnwys offer
storio ynni a chydbwyso gridiau, gan gynnwys newid defnydd o dir pori
amaethyddol, ynghyd ag isadeiledd, tirlunio a thrac mynediad cysylltiedig ar
dir i'r gorllewin o Rhydypandy Road, Treforys, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Guy
Nicholson (ymgeisydd) a Naomi Heikalo (asiant) y Pwyllgor. #(Eitem 2)
– Cais Cynllunio 2021/0961/S73 - Gosod parc solar 9MW sy'n cynnwys hyd at
25,000 o baneli ffotofoltäig, 9 caban gwrthdröydd/newidydd, adeilad rheoli
sengl a gwaith cysylltiedig (diwygiad i amod 2 caniatâd cynllunio 2020/0257/FUL
a roddwyd ar 11 Awst 2020) i ganiatáu ar gyfer newidiadau i drac mynediad
mewnol a thrawsblannu gwrychoedd yn Fferm Felin Wen, Rhydypandy Road, Treforys,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: ·
Mae gwall yn Amod 10 (a ddylai gyfeirio at amod 9 yn
hytrach nag amod 10) ac mae angen diwygio Amod 16. Bydd Amod 10
bellach yn darllen: Mae'r caniatâd
cynllunio a roddwyd drwy hyn am gyfnod o 40 mlynedd ar gyfer cynhyrchu trydan,
ac ar ôl hynny bydd y cynhyrchiad trydan yn dod i ben, caiff y paneli solar a'r
holl isadeiledd ategol eu symud o'r safle a chaiff y tir ei adfer i'w gyflwr
blaenorol yn unol â'r manylion a gymeradwywyd o dan amod 9 o'r caniatâd hwn.
Bydd cadarnhad ysgrifenedig o ddyddiad comisiynu'r datblygiad (a ddiffinnir fel
y dyddiad y bydd y fferm solar yn dechrau cynhyrchu trydan yn weithredol) yn
cael ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol o fewn mis i'r dyddiad hwnnw. Rheswm: I warchod y dirwedd a'i amwynderau
gweledol. Bydd Amod 16
bellach yn darllen: Bydd y cynllun
trawsleoli gwrychoedd yn cael ei gynnal yn unol â chynllun safle cyffredinol
1.3 Rev A a'r Cynllun Atgyweirio Darnau Coll o Wrychoedd - Cynllun Rheoli a
Chynnal a Chadw a baratowyd gan PS Renewables a dderbyniwyd ar 2 Gorffennaf
2021 o fewn y tymor plannu nesaf ar ôl cwblhau'r fferm solar neu'r genhedlaeth
gyntaf o drydan, p'un bynnag yw'r cynharaf, a'i gynnal wedi hynny yn unol â'r
manylion a gymeradwywyd. Rheswm: Er
budd amwynderau gweledol ac ecoleg. #(Eitem 3)
– Cais Cynllunio 2021/1727/S73 - Adeiladu bloc addysg deulawr ar wahân (gan gynnwys
saith ystafell ddosbarth, ystafell adnoddau dysgu, cegin, neuadd fwyta/ardal
amlddefnydd a thoiledau), gosod arwynebau chwarae artiffisial allanol,
ychwanegu 4 ffenestr at hen floc drama, ffordd fynediad newydd, ardal parcio â
lle i 16 car gydag adeiladau taenellu a storio biniau cysylltiedig (Rheoliad
Datblygu 3 y cyngor) - Amrywio Amod 2 (Amod Cynllunio) Caniatâd Cynllunio
2018/2691/RG3 a roddwyd ar 9 Mai 2019 i ganiatáu ar gyfer cynyddu uchder
rhagfur yr adeilad, newid ôl troed yr adeilad a lleoliad a maint diwygiedig y
storfa biniau, gostwng y lled mynediad, diwygio cynllun y ffordd fewnol a'r man
parcio, addasu cynllun y cae chwaraeon, newid o adeilad taenellwyr i ardal
gaeëdig wedi'i ffensio gyda thanc a phwmp taenellu, addasiadau i nifer, maint a
safle ffenestri a drysau, newid i ddyluniad ac ymddangosiad y grisiau allanol,
ychwanegu cyfarpar echdynnu i'r to, peipiau dŵr i weddluniau'r ochr a'r
cefn, lwfrau uwchben ffenestri a blychau ystlumod/adar. Amrywiad
i Amod 4 (amod deunyddiau) i ganiatáu i newid y deunyddiau y cytunwyd arnynt a
rhyddhau Amod 10 (triniaethau ffiniau) yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Talbot Green,
Tre-gŵyr, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: ·
Cafwyd ymateb i'r ymgynghoriad gan Dŵr Cymru, a oedd
yn rhoi gwybod nad oedd unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y cais yn amodol ar
gynnal cydymffurfiaeth â manylion cymeradwy amodau 6 a 7 y caniatâd gwreiddiol
ynghylch manylion draenio a chael gwared ar ddŵr wyneb. ·
Mae manylion amodau 6 a 7 wedi'u cymeradwyo eisoes ac mae
amod 3 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r datblygiad gael ei wneud yn unol â'r
manylion a gymeradwywyd. Mae'r strategaeth cael gwared ar ddŵr wyneb
eisoes wedi'i gweithredu. Mae'r adroddiad eisoes yn mynd i'r afael â'r materion
hyn. ·
Holodd y Swyddog Coed hefyd a fyddai coed yn cael eu
symud fel rhan o'r cais. Mae'r asiant wedi cadarnhau na fydd unrhyw goed yn
cael eu symud ac felly mae'r Swyddog Coed yn fodlon. #(Eitem 4)
– Cais Cynllunio 2019/1715/OUT - Datblygiad preswyl ar gyfer hyd at 4 annedd ar
wahân (amlinelliad) yn Eastmoor, Comin Clun, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Denise
Masters (gwrthwynebydd) y Pwyllgor. Cymeradwyodd y
Pwyllgor y cais yn amodol ar y diwygiad canlynol i amod 11 11. Bydd unrhyw gais am
Faterion a Gadwyd yn Ôl yn y dyfodol yn gwneud darpariaeth ar gyfer mynediad i
gerbydau, o leiaf 4.5m o led am ei hyd cyfan. Caiff y mynediad i gerbydau ei
adeiladu a'i gwblhau yn unol â'r manylion cymeradwy rhwng Westland Avenue a
ffin gefn 75 Westland Avenue cyn gwneud unrhyw waith adeiladu tir a nodwyd
uchod ar yr anheddau a ganiateir drwy hyn. Ni wneir unrhyw ddatblygiad pellach
hyd nes y ceir cadarnhad ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol fod y
gwaith mynediad rhwng Westland Avenue a ffin gefn 75 Westland Avenue yn unol
â'r manylion cymeradwy. Caiff y dull mynediad i gerbydau a nodwyd ei
gadw fel dull a gymeradwywyd at ddibenion mynediad yn unig ar gyfer oes y
datblygiad. Bydd unrhyw bwynt mynediad sy'n agor i'r briffordd a fabwysiadwyd
yn cynnwys darpariaeth ddraenio addas o fewn cwrtil y safle, er mwyn atal
unrhyw ddŵr wyneb rhag cael ei ryddhau ar y briffordd a fabwysiadwyd. Rheswm: I
sicrhau bod y pwynt mynediad i gerbydau yn ddiogel ac yn cynnwys draeniad
digonol ·
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y diweddariadau canlynol: Darparwyd eglurhad ynghylch hanes
cynllunio'r safle. #(Eitem 5)
– Cais Cynllunio 2021/1415/FUL - Adeiladu adeilad (cytunwyd ei ddymchwel
eisoes) hyd at 11 llawr sy'n cynnwys llety myfyrwyr a adeiladwyd at y diben a reolir
(Defnydd Unigryw); lle cysylltiedig ar gyfer amwynderau; lle parcio beiciau a
cheir; tirlunio a mynediad o Powell Street yn Nhŷ Nant, 180 Y Stryd Fawr,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Chris
Marsh (asiant) y Pwyllgor. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: ·
Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106 yn
unol ag argymhelliad, yn amodol ar y diwygiad canlynol: ·
Dilëwyd Amod 15. ·
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y diweddariad canlynol: Dylai llinell 5 o baragraff 2 ar
Dudalen 152 yr adroddiad ddarllen '... lleoliadau eraill yr ystyrir eu bod yn
dderbyniol...' #(Eitem 6)
– Cais Cynllunio 2021/1038/FUL - Newid defnydd o siop fanwerthu (Dosbarth A1) i
gaffi/siop gludfwyd (Dosbarth A3) yn 41 Woodfield Street, Treforys, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: ·
Cafwyd ymateb gan yr adran Rheoli Llygredd yn gofyn am
amod sy'n gofyn am fanylion awyru llawn gan yr ymgeisydd ar gyfer y defnydd
arfaethedig cyn dechrau'r datblygiad. Mae'r ymgeisydd wedi rhoi gwybod yn dilyn
hyn nad oes angen awyru fel rhan o'r cais hwn o ystyried natur y bwyd sydd i'w
werthu (brechdanau oer, teisennau etc.) ac nid oes unrhyw newidiadau allanol yn
rhan o'r cynnig. Ar hyn o bryd, nid ystyrir bod angen atodi amod o'r fath. ·
Os bydd angen awyru yn y dyfodol, mae gan Reoli Llygredd
y pwerau i fynnu darpariaeth o'r fath, a byddai angen caniatâd cynllunio ar
gyfer unrhyw newid sy'n effeithio'n sylweddol ar ymddangosiad allanol yr adeilad
felly gellid ystyried effaith y cynnig ar yr Ardal Gadwraeth bryd hynny. ·
Mae'r ymgeisydd hefyd wedi cyflwyno'r sylwadau canlynol
cyn cyfarfod y Pwyllgor: "Hoffwn ofyn yn
ostyngedig i chi ystyried y sefyllfa gefndirol. Mae fy siop i, yn ogystal â'r
siopau cyfagos (Ramsdens a Sun Tanning gynt) wedi bod yn wag am gyfnodau hir
dros y 2 flynedd ddiwethaf. Roedd fy siop yn masnachu fel siop elusen 'Buttons'
yn 2019 a chyn hynny. Roedd y safle eisoes yn ei chael hi'n anodd cyn y
pandemig. Ac mae COVID-19 wedi ei gwneud hi'n anodd iawn dod â busnesau yn ôl
i'r safleoedd hyn. ·
I roi enghraifft i chi, mae'r rhenti wedi mwy na haneru a
rhoddwyd cyfnodau di-rent o bron 3 i 6 mis i fusnesau er mwyn ceisio denu
unrhyw denantiaid posib. Hyd yn oed gyda hyn, darperir cymalau torri bob
blwyddyn yn awr, sy'n golygu y gall y busnes adael os nad yw'n llwyddo ar ôl
blwyddyn ac o ystyried y cyfnodau di-rent a rhenti gostyngedig - y fi sy'n
gyfrifol am dalu'r cymorth i fusnes posib yn gyfan gwbl am y flwyddyn. Yr wyf
yn deall y cyfnod digynsail rydym yn ei wynebu. Ni allaf dalu'r morgais hyd yn
oed gyda'r hyn rwy'n ei ennill. Mae cyflwr y siop mewn perygl o gael ei
ddirywio. ·
Fy apêl yw, os caniateir dosbarth A3 i'm safle, y
byddai'n rhoi cyfle i ddenu busnesau bwyd ffyniannus cynaliadwy, a ddangosodd
lawer o ddiddordeb pan geisiais rentu'r siop yn ddiweddar ar ôl sôn fy mod wedi
gwneud cais am ddosbarth A3. Mae masnachfraint lwyddiannus Bake Station wedi
dangos diddordeb yn y fan hon o'r blaen. Mae cyfle i fusnes cynaliadwy gynnal
ei hun wrth ddarparu cyflogaeth ac ail-ddefnyddio'r siop. Mae'r galw am gaffis
sy'n gysylltiedig â bwyta'n iach yn fwy nag erioed ar ôl y cyfyngiadau symud
gan fod pobl am fynd allan a mwynhau prydau iach. Mae'r siop hon yn berffaith
ar gyfer busnes o'r fath. Mae ganddi islawr â mynedfa caead cefn lle gellir
derbyn dosbarthiadau bwyd a chael gwared ar wastraff. ·
Byddwn yn hynod ddiolchgar am eich haelioni a all helpu
fy mangre i gael cyfle i oroesi drwy'r cyfnod anodd hwn." 2) gwrthod y cais cynllunio y cyfeirir ato
isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: #(Eitem 7)
– Cais Cynllunio 2021/1401/106 - Addasu cytundeb Adran 106 dyddiedig 5 Mawrth
2018 sy'n gysylltiedig â 2017/2572/FUL dyddiedig 7 Mawrth 2018 a 2020/1443/106
dyddiedig 26 Chwefror 2021 i ganiatáu i 690 a 688 Llangyfelach Road barhau i
fod yn unedau preswyl unigol yn hen safle Clwb Gwledig Pines, 692 Llangyfelach
Road, Treboeth, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: ·
Mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno apêl i'r Arolygiaeth
Gynllunio yn erbyn methu penderfynu, gan nad oes penderfyniad wedi'i wneud o
fewn 8 wythnos i'w gyflwyno. ·
Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae'r Awdurdod o'r farn mai
dim ond drwy Adolygiad Barnwrol y gallai'r cyngor gytuno i addasu cytundeb A106
gan fod y cais wedi'i gyflwyno o fewn 5 mlynedd i'r cytundeb gwreiddiol. ·
Felly, mae'n rhaid i'r Awdurdod ystyried y cais ond nid
oes hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad ac mae'r ACLl wedi ysgrifennu at yr
Arolygiaeth Gynllunio i'w hysbysu o amgylchiadau'r achos. ·
Er gwaethaf yr uchod, mae deddfwriaeth yn rhoi 28 niwrnod
i'r cyngor benderfynu ar gais o'r fath dan awdurdodaeth ddeuol cyn y bydd yr
Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried unrhyw apêl fel y gall Aelodau barhau i wneud
penderfyniad ar y cais. |