Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

13.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

Y Cynghorydd P M Black – Cais Cynllunio 2021/0889/S73 (Eitem 1) – Personol a Rhagfarnllyd a gadawodd cyn y drafodaeth.

 

Y Cynghorwyr P Downing a P Lloyd – Cais Cynllunio 2021/0889/S73 (Eitem 1) – Personol.

 

 

14.

Cofnodion. pdf eicon PDF 329 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021 fel cofnod cywir.

 

 

15.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim

16.

Cofrestru Tiroedd Comin - Cais i gael gwared ar Dir o'r Gofrestr Tiroedd Comin (Cais Rhif 003/19) - Cofrestru Uned Cl53, Comin Mynydd Lliw. pdf eicon PDF 264 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cymeradwywyd.

 

 

 

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cyfreithiwr Arweiniol ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu'r cais a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r Gofrestr Tir Comin drwy dynnu arwynebedd o 50,862 metr sgwâr o Uned Gofrestru CL53, Comin Mynydd Lliw.

 

Cafodd manylion cefndir a hanes y mater eu hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion, yn enwedig y ffaith bod y tir a nodwyd ar y cynllun wedi peidio â bod yn dir comin

 yn rhinwedd Gorchymyn Prynu Gorfodol a oedd yn ymwneud ag adeiladu traffordd yr M4.

 

Cafodd y rhestr o gyrff yr ymgynghorwyd â hwy ynglŷn â'r cais eu hamlinellu a'u nodi yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd derbyn y cais a thynnu'r tir a nodwyd ar y cynllun a amlinellwyd yn yr adroddiad oddi ar Uned Gofrestru CL53 (Comin Mynydd Lliw).

 

 

 

 

 

17.

Gorchymyn Cadw Coed GCC 679 Tir gerllaw Rock House a Mill Farm, Waunarlwydd, Abertawe (2021). pdf eicon PDF 305 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

 

 

Cofnodion:

 

Cyflwynodd pennaeth cynllunio ac adfywio'r ddinas adroddiad a oedd yn gofyn i'r pwyllgor ystyried cadarnhau, fel gorchymyn llawn, y gorchymyn cadw coed dros dro, 679, ar dir gerllaw rock house a mill farm, waunarlwydd, abertawe (2021).

 

Amlinellwyd a manylwyd ar fanylion cefndir a hanes y mater ynghyd â chyflwyno'r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis Ionawr 2021 gan Swyddogion.

 

Amlinellwyd y gwrthwynebiad a gafwyd i'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd W G Lewis (aelod lleol) a siaradodd o blaid y cais.

 

Penderfynwyd cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed ar dir gerllaw Rock House a Mill Farm, Waunarlwydd, Abertawe (2021) heb ei addasu.

 

18.

Gorchymyn Cadw Coed GCC 680 Tir yn 52 Caswell Road, Caswell, Abertawe (2021). pdf eicon PDF 300 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn i'r pwyllgor ystyried cadarnhau, fel gorchymyn llawn, y gorchymyn cadw coed dros dro 680, ar dir yn 52 Caswell Road, Caswell, Abertawe (2021).

 

Amlinellwyd a manylwyd ar fanylion cefndir a hanes y mater ynghyd â chyflwyno'r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis Ionawr 2021 gan Swyddogion.

 

Amlinellwyd y gwrthwynebiad a'r gefnogaeth a gafwyd mewn perthynas â'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Fe'm cyfarwyddir i wneud sylwadau pellach mewn perthynas â pharagraff 3.7 o'r Adroddiad.

Cawsom e-bost gan Emma North yng Nghyngor Abertawe ar 28 Ebrill 2021 am 14:10 yn ein hysbysu fod yn rhaid i'r gwaith ddod i ben ar y safle. Cysylltom ar unwaith â'n cleient ynghylch y mater hwn a dywedodd ein cleient yn ei dro wrth y contractwr ar y safle fod yn rhaid i'r gwaith ddod i ben ar unwaith. Yna, hysbysom Emma North drwy e-bost ar 28 Ebrill 2021 am 16:47 fod y gwaith wedi dod i ben ar y safle.

(Cyfreithwyr yr ymgeisydd)

 

Penderfynwyd cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed ar dir yn 52 Caswell Road, Caswell, Abertawe (2021) gan hepgor coed T2, T3, T4 a T5.

 

19.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

2021/0889/S73 - Cymeradwywyd.

 

2021/0978/FUL - Cymeradwywyd.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:  Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

1) Cymeradwyir y ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2021/0889/S73 - Datblygiad preswyl ac adeiladu mynedfa newydd i gerbydau oddi ar Nantong Way (amlinellol) (2006/1902) fel y'i hamrywir gan Adran 73 o ganiatadau cynllunio 2014/1189, 2018/1204/S73, 2019/0536/S73 a 2019/2523/S73.  Amrywiad ar amod 8 (mynedfa barhaol oddi ar Nantong Way) o Adran 73 o ganiatâd cynllunio 2019/2523/S73 a roddwyd ar 4 Mehefin 2020 i ymestyn y dyddiad ar gyfer adeiladu'r fynedfa barhaol oddi ar Nantong Way i 30 Ebrill 2022 ar dir yn Upper Bank, Nantong Way, Pentrechwyth, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Nodir gwall ar daflen clawr blaen y cais ar dudalen 28 yr agenda. Mae'r cynllun safle a nodir ar gyfer y gwaith i greu mynedfa barhaol sy'n destun caniatâd ar wahân. Gan fod y cais gerbron aelodau yn gais adran 73 i amrywio cais gwreiddiol 2006 (fel y'i diwygiwyd wedi hynny), nid yw'n ofynnol darparu cynllun safle gyda'r cais. Cyflwynwyd y cynllun a nodwyd er gwybodaeth yn unig ac fe'i defnyddiwyd yn anghywir ond nid yw'r gwall hwn yn effeithio ar y cais ei hun. Eglurwyd y cynllun safle gwirioneddol yn y cyflwyniad yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio.

 

Cymeradwyir y cais yn amodol ar addasu'r gofynion Priffyrdd o fewn y cytundeb Adran 106 gwreiddiol drwy Weithred Amrywio mewn perthynas â'r amserlenni i ddarparu mynedfa barhaol oddi ar Nantong Way ac yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

#(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2021/0978/FUL - Newid defnydd y llawr gwaelod o fanwerthu (Dosbarth A1) i far gwin (Dosbarth A3) yn 47 Gower Road, Sgeti, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar dderbyn unrhyw wrthwynebiadau pellach erbyn 26 Gorffennaf 2021.