Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

4.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd D W W Thomas – Personol - Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro TPO 678 Tir yng Ngholeg Gŵyr, Llwyn y Bryn, Walter Road, Abertawe (2021).

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorydd D W W Thomas – Personol - Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro TPO 678 Tir yng Ngholeg Gŵyr, Llwyn y Bryn, Walter Road, Abertawe (2021).

 

5.

Cofnodion. pdf eicon PDF 316 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd Pwyllgorau Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 a 20 Mai 2021 fel cofnodion cywir.

 

6.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

(2) –2021/0961/S73 -  gohiriedig

Cofnodion:

#(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2021/0961/S73 - Gosod parc solar 9MW sy'n cynnwys hyd at 25,000 o baneli ffotofoltäig, 9 caban gwrthdröydd/newidydd, adeilad rheoli a gwaith cysylltiedig (diwygiad i amod 2 caniatâd cynllunio 2020/0257/FUL a roddwyd ar 11 Awst 2020) i ganiatáu newidiadau i drac mynediad mewnol a thrawsblannu gwrychoedd yn Fferm Felin Wen, Rhydypandy Road, Treforys, Abertawe.

 

Gohiriwyd y cais gan fod gwybodaeth hwyr wedi dod i law gan yr ymgeisydd yn egluro bod y cais yn rhannol ôl-weithredol, sy'n gofyn am amser ychwanegol i ystyried natur a phwyntiau sbardun yr amodau.  

 

 

7.

Gorchymyn Cadw Coed dros dro sef GCC 677 ar dir yn: Birch Rock, Pontarddulais, Abertawe (2021) pdf eicon PDF 465 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio ystyried cadarnhau, fel Gorchymyn llawn, Orchymyn Cadw Coed dros dro 677, Tir yn Birch Rock, Pontarddulais, Abertawe (2021).

 

Cafodd manylion cefndir a hanes y mater ynghyd â rhoi’r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis Ionawr 2021, eu hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion

 

Amlinellwyd y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cadarnhau Tir y Gorchymyn Cadw Coed yn Birch Rock, Pontarddulais, Abertawe (2021) heb addasiadau.

 

8.

Gorchymyn Cadw Coed dros dro sef GCC 678 ar dir yng Ngoleg Gyr, Llwyn y Bryn, Walter Road, Abertawe (2021) pdf eicon PDF 390 KB

Penderfyniad:

Cymeradwywyd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio ystyried cadarnhau, fel Gorchymyn llawn, y Gorchymyn Cadw Coed dros dro 678, Tir yng Ngholeg Gŵyr, Llwyn y Bryn, Walter Road, Abertawe (2021).

 

Cafodd manylion cefndir a hanes y mater ynghyd â rhoi’r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis Ionawr 2021, eu hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion

 

Amlinellwyd y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cadarnhau Tir y Gorchymyn Cadw Coed yng Ngholeg Gŵyr, Llwyn y Bryn, Walter Road, Abertawe (2021) heb addasiadau.

 

 

9.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) –2021/0826/FUL - Cymeradwywyd

 

 

(3) –2021/0112/FUL - Cymeradwywyd

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2021/0826/FUL - Newid defnydd o anhedd-dŷ (Dosbarth C3) i gartref plant (Dosbarth C2) yn 20 Brynhyfryd Street, Brynhyfryd, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd C A Holley (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais.

 

 

#(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2021/0112/FUL - Adeiladu 23 o anheddau, yn cynnwys 2 annedd ar wahân, 7 annedd ar wahân gyda garejis ar wahân, 3 annedd ar wahân gyda garejis sydd ynghlwm â'r eiddo, 4 pâr o anheddau pâr (8 annedd) a 3 annedd cysylltiedig â mynediad, tirlunio, draenio a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de of Glebe Road, Glebe Road, Llwchwr, Abertawe.

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Tudalen 102, para 2 – yn lle "O ran yr amodau awgrymedig y gofynnir amdanynt gan y Swyddog Priffyrdd, nid ystyrir bod amodau (i), (vii) yn angenrheidiol gan eu bod yn dod o dan ddeddfwriaeth ac amodau eraill, ac felly nid ydynt yn bodloni profion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 16/2014 - Amodau Cynllunio."

gyda

"O ran yr amodau awgrymedig y gofynnir amdanynt gan y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg, nid ystyrir bod amodau (i), (v) (vii) yn angenrheidiol gan eu bod yn dod o dan ddeddfwriaeth ac amodau eraill, ac felly nid ydynt yn bodloni profion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 16/2014 - Amodau Cynllunio. Nid ystyrir bod angen yr amod gofynnol (iv) fel amod, ond yn hytrach caiff ei gynnwys fel 'addysgiadol'." ·

 

Ar ôl y rhestr o bwyntiau bwled ar dudalen 103, bydd angen nodi'r paragraff canlynol.

"Ystyrir bod gosod yr amodau rhestredig uchod – ac eithrio pwynt bwled 8 (sy’n cyfeirio at gloddiadau agored) – yn rhesymol ac yn angenrheidiol i sicrhau bod y cynllun arfaethedig yn dderbyniol mewn termau ecolegol. Felly, cânt eu gosod fel amodau cynllunio.

 

Mae'r testun a geir ym mhwynt bwled 8 wedi'i gynnwys fel 'addysgiadol'.

 

Disodli Amod 20 (tudalen 113) gyda'r amod diwygiedig canlynol;

"Caiff yr holl blannu, hadu neu dywarchu a nodir yn y cynllun tirlunio a gymeradwyir (a ddangosir mewn lluniadau P18-0751_35 H – Uwch-gynllun Tirwedd, P18-0751_36 D - Cynllun IG a P18-0751_37 D - Cynigion Tirwedd ar y Plot Manwl) ei wneud yn ystod y tymhorau plannu a hadu cyntaf yn dilyn defnydd llesiannol cyntaf o'r adeilad(au) neu gwblhad y datblygiad, p'un bynnag fydd gyntaf; a chaiff unrhyw goed neu blanhigion sy'n marw, yn cael eu symud neu'n cael eu difrodi'n ddifrifol neu'n afiach o fewn 5 mlynedd o gwblhau'r datblygiad eu disodli â rhai newydd o faint a rhywogaeth debyg yn y tymor plannu nesaf. Rheswm: er lles amwynder gweledol a phreswyl ac er lles cynnal cynllun tirlunio addas er mwyn amddiffyn amwynderau gweledol yr ardal, i gynnal rhinweddau arbennig y dirwedd a'r cynefinoedd trwy amddiffyn, creu a gwella cysylltiadau rhwng safleoedd a'u hamddiffyn am eu gwerth o ran amwynderau, tirwedd a bioamrywiaeth.”

 

Ychwanegwyd y nodyn er gwybodaeth canlynol (nodyn 17) at argymhelliad y swyddog ar gais y Pwyllgor Cynllunio:

 

Cynghorir yr ymgeisydd/datblygwr i ystyried yn ofalus y cynnyrch penodol a ddefnyddir ar gyfer unrhyw rendro allanol, gan fod rhai datblygiadau diweddar yn ardal Abertawe sy'n cynnwys rendro wedi bod yn destun problemau o ran afliwiad, llwydo a thwf algâu.

 

Mae'r cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.