Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau

17.

Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Datblygu a Bioamrywiaeth. pdf eicon PDF 452 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu i Aelodau'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y fersiwn ddrafft o'r canllawiau, a thynnwyd sylw at ymatebion swyddogion i'r rhain. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu'r fersiwn ddiwygiedig yn ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a llawn gwybodaeth i'r Pwyllgor a oedd yn amlinellu'r prif faterion a'r cefndir sy'n ymwneud â diweddaru ac adolygu'r ddogfen.

 

Mewn ymateb i'r cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gyfres o gwestiynau am y canllaw diwygiedig, yr ymatebodd swyddogion iddynt yn unol â hynny.

 

Penderfynwyd

 

a) Bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (a amlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi.

 

b) Bydd fersiwn derfynol y CCA (a atodir yn Atodiad A i'r adroddiad hwn) yn cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y cyngor;

 

c) Bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol.

 

18.

Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Arfarniad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth y Mwmbwls pdf eicon PDF 374 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn manylu ar y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar Adolygiad Ardal Gadwraeth y Mwmbwls, a gofynnodd am gytundeb ar y diwygiadau arfaethedig i'r canllaw drafft ac i fabwysiadu'r ddogfen berthnasol fel Canllawiau Cynllunio Atodol.

 

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a llawn gwybodaeth i'r Pwyllgor a oedd yn amlinellu'r cefndir hanesyddol i gyflwyno'r canllawiau cyntaf a'r prif faterion a materion cefndir sy'n ymwneud â diweddaru ac adolygu'r ddogfen a oedd yn cynnwys ehangu'r ardal i'w chynnwys yn yr ardal gadwraeth.

 

Mewn ymateb i'r cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gyfres o gwestiynau am y canllaw diwygiedig, yr ymatebodd swyddogion iddynt yn unol â hynny.

 

Penderfynwyd

 

a) Bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn ystod y broses ymgynghori, ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (fel y'u hamlinellir yn Atodiad B ac C i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi.

b) Bydd fersiwn derfynol Arfarniad Cymeriad a Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth y Mwmbwls (fel y'i hamlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad hwn) yn cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y cyngor fel Canllawiau Cynllunio Atodol.

c) Bydd ffin newydd Ardal Gadwraeth y Mwmbwls (fel y'i hamlinellir yn Atodiad D i'r adroddiad hwn) yn cael ei chymeradwyo;

ch) Bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol.