Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

 

15.

Cymeradwyo Ymgynghoriad Cyhoeddus a Rhanddeiliaid ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio sicrhau cymeradwyaeth gan Aelodau i gynnal y broses ymgynghori ac ymgysylltu angenrheidiol gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid ar dair dogfen ganllaw creu lleoedd ddrafft ar gyfer datblygiadau preswyl.

 

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a llawn gwybodaeth i'r Pwyllgor a oedd yn amlinellu'r prif faterion a'r cefndir sy'n ymwneud â diweddaru ac adolygu'r tair dogfen ganllaw creu lleoedd sy'n ymwneud â'r canlynol:

·         Datblygiad Deiliad Tai;

·         Mewnlenwi a Datblygiad Tir Cefn;

·         Datblygiadau Preswyl.

 

Amlinellwyd hefyd yr amserlenni a'r broses debygol ar gyfer yr ymarfer ymgynghori.

 

Mewn ymateb i'r cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gyfres o gwestiynau am y tair dogfen, yr ymatebodd swyddogion iddynt yn unol â hynny.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Atodiad A: Drafft Ymgynghori'r Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygu Deiliaid Tai

 

Diwygio paragraff 3.39 ar tud.20 fel a ganlyn

 

Dileu paragraff 3.39 a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

3.39 Mae paragraff 2.29 yn nodi pwysigrwydd cynnal pellter gwahanu o 15m er mwyn osgoi effeithiau gormesol i unrhyw eiddo yr effeithir arno. Mewn rhai achosion, gall cynnal pellter gwahanu o 15m hefyd fod yn bwysig er mwyn sicrhau nad yw cynigion datblygu yn arwain at effeithiau annerbyniol o ran edrych dros ystafelloedd a gerddi eiddo y mae pobl yn byw ynddynt.Asesir unrhyw gynigion sy'n ceisio gostyngiad yn y pellter gwahanu hwn gan yr Awdurdod Cynllunio ynghylch a yw'r amgylchiadau unigol sy'n gymwys yn yr achos hwnnw'n cyfiawnhau llacio'r pellter safonol o 15m. 

 

Dileu graffig a chapsiwn cysylltiedig.

 

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r Canllawiau Creu Lleoedd ar Gyfer Datblygu Deiliaid Tai, Mewnlenwi a Datblygiad Tir Cefn a Datblygiad Preswyl (yn amodol ar y diwygiad a amlinellir uchod) ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid.